"Roedd trigolion Talgarreg wrth eu boddau'n ddiweddar pan gyhoeddwyd mai Gillian Clarke, o Flaen Cwrt, fydd Bardd Cenedlaethol Cymru am y ddwy flynedd nesaf.
Bydd Gillian yn dilyn yr Athro Gwyn Thomas o Fangor a Gwyneth Lewis o Gaerdydd fel ein trydydd Bardd Cenedlaethol.
Sefydlwyd swydd Bardd Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2005 gan yr Academi - yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru - gyda nawdd y Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ers hynny, mae'r cynllun wedi tyfu mewn statws a bri, ac mae'n fraint yn wir i fardd gael ei dewis - neu ei ddewis - i gynrychioli Cymru fel hyn.
Mae gan Gymru eu Phrifeirdd wrth gwrs, ac mae Talgarreg yn gartref i un o'r rhai enwocaf - Donald Evans, y Prifardd 'Dwbl Dwbl'. Fodd bynnag, wrth fynd ati I sefydlu swydd Bardd Cenedlaethol
Cymru, penderfynodd yr Academi ei fod yn hen bryd i ni gael ein Ilais ein hunain ym maes barddoniaeth ryngwladol, yn hytrach na chael ein cynrychioli gan y Poet Laureate, swydd sy'n perthyn i frenhiniaeth Lloegr.
Eisoes mae'n Beirdd Cenedlaethol wedi Ilwyddo i ganu am bynciau sy'n bwysig i ni fel Cymry - o ennill yn y rygbi i golli arwyr cenedlaethol fel Ray Gravell a Kyffin Williams.
Mae penodiad Gillian yn achos i Gymru gyfan ddathlu. Fe'i ganed yng Nghaerdydd i deulu o Sir Gaerfyrddin, and mae wedi ymgartrefu yn Nhalgarreg ers blynyddoedd. Yn ogystal 芒 bod yn fardd, mae'n ddramodydd, golygydd a chyfieithydd, ac astudir ei gwaith gan ddisgyblion ar gyfer TGAU a Lefel A ar draws Prydain.
Cyfieithwyd ei gwaith i nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg gan y bardd o Landysul, Menna Elfyn.
Mae Gillian Clarke wrth ei bodd gyda'r swydd newydd. Dywedodd: 'Mae'r Bardd Cenedlaethol yn lysgennad, oddi fewn a thu hwnt i Gymru. Gobeithiaf y bydd yn agor drysau. Gwelaf y modd mae'r Academi wedi sefydlu'r swydd fel un sy'n datblygu'n gynyddol, gyda gwaith un bardd yn adeiladu ar y Hall, gan dalu sylw gofalus i ddwyieithrwydd Cymru. Mae barddoniaeth i bawb.'<.>
Dywedodd yr Archdderwydd Dic Jones, sy'n byw ym Mlaenannerch:
'Wy'n arbennig o falch fod rhywun wy'n 'nabod, ac o'r ardal 'ma, wedi derbyn yr anrhydedd hyn. Mae'n hen ddyledus iddi.'
Edrychwn ymlaen at ddwy flynedd Iwyddiannus iawn i Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol Cymru - a chyfle arall i roi Talgarreg ar y map Ilenyddol!