Fe aethom i orsaf yr heddlu yn Aberystwyth ar y cyntaf o Hydref. Fe gafwyd taith hwylus o amgylch yr adeilad, gwelsom nifer o bethau diddorol gan gynnwys moduron yr heddlu, y camer芒u CCTV, y celloedd a thrin a thrafod y peryglon o gam-drin cyffuriau. Fe wnaeth pawb fwynhau ac fe alwon yn McDonalds am swper ar y ffordd adref.
Cynhaliwyd cwrdd diolchgarwch ar y 15fed o Hydref yng Nghapel y Bryn. Hoffwn ddiolch i'r Parchedig Pinion Jones am ymuno 芒 ni yn y gwasanaeth; cawsom bregeth diddorol iawn. Diolch hefyd i'r aelodau a wnaeth gymryd rhan ynddo.
Cafodd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus Cymraeg ei gynnal yn Felinfach ar y 9fed a'r l0fed o Hydref. Yn y gystadleuaeth 14 oed neu iau, fe ddaeth Caerwedros C, sef cadeirydd Rhiannon a darllenwyr Sarah a Heulwen, yn ail fel t卯m a daeth Caerwedros B, sef cadeirydd Ll欧r a darllenwyr Ceirian a Meilir, yn drydydd fel t卯m. Hefyd yn cystadlu roedd Caerwedros A, cadeirydd Emma a darllenwyr Caryl a Sioned.
Yn y gystadleuaeth 16 oed neu iau, fe ddaeth Elliw yn gydradd trydydd fel siaradwr, fe ddaeth Caerwedros B, sef cadeirydd Lona, siaradwr Elliw a diolchydd Sarah, yn bedwerydd fel t卯m. Hefyd yn cystadlu roedd Caerwedros A, cadeirydd Sam, siaradwr Morys a diolchydd Bleddyn. Yn cystadlu yn adran 26 oed neu iau oedd cadeirydd Trystan, cynigydd Teleri a gwrthwynebydd Lowri. Ar
ddiwedd y gystadleuaeth fe ddaeth C.Ff.I. Caerwedros yn bedwerydd. Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu.
Yng nghystadleuaeth chwaraeon dan do y sir fe ddaeth y clwb yn gydradd chweched allan o 20 clwb. Llongyfarchiadau i'r aelodau a wnaeth gymryd rhan ynddo, yn enwedig i Dafydd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth tennis bwrdd. Da iawn.
Cafodd clwb Caerwedros lwyddiant mawr yn Eisteddfod y Sir yn ddiweddar. Fe enillwyd yr eisteddfod am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gyda 84 o farciau! Yn ennill y wobr gyntaf oedd y parti cerdd dant, Teleri a Lowri yn y gystadleuaeth llefaru, Caryl yn yr unawd cerdd dant, yr ensemble lleisiol, Lowri a Trystan yn y deuawd doniol a Lowri yn y stori fer. Hefyd cawsom yr ail wobr gyda'r meimio i gerddoriaeth, Lona yn yr unawd 16 neu iau a'r unawd cerdd dant, y parti llefaru, Carol am gyfansoddi darn o gerddoriaeth a Lowri yng nghystadleuaeth y gadair.
Enillwyd y drydydd safle gyda'r ymgom, Cerian yn yr unawd 13 neu iau, llyfr y trysorydd, Sarah am ysgrifennu ymsom, Katie Ann yn y gelf a rhaglen clwb y flwyddyn.
Fe enillodd y clwb darian y diweddar
W. G. Hughes am gipio'r wobr gyntaf. Fe aeth yr ensemble lleisiol a'r deuawd doniol ymlaen i Eisteddfod Cymru yng Nghorwen ac fe ddaeth yr ensemble yn ail a Lowri a Trystan yn y deuawd doniol yn drydydd.
Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu a diolch yn fawr i bawb a fu'n ein dysgu ac yn ein cynorthwyo.
Hefyd llongyfarchiadau i Lea a enillodd barnu 诺yn tew yn y sir dan 26, a aeth ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth barnu 诺yn tew yn y Ffair Aeaf lle ddaeth yn 4ydd.
Byddwch yn barod am gnoc ar y drws ar y 17eg a'r 18fed o Rhagfyr oherwydd bydd y clwb yn dod o amgylch yn canu carolau.
Canlyniadau a lluniau o Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifainc 2007 yng Nghorwen.