Daeth nifer fawr o bobl i Festri Beulah ar benwythnos ym mis Tachwedd i weld arddangosfa o hen ffotograffau o bobl a digwyddiadau pentref Beulah dros y cyfnod o tua 1875 tan 1975.
Roedd dros 500 o ffotograffau yn yr arddangosfa wedi eu casglu a'u gosod ar baneli arddangos gan Gerwyn Morgan, Muriau Gwyn.
Fe agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan y gweinidog Y Parchedig Dorian Samson nos Iau, Tachwedd 5ed a bu ar agor wedyn am bedwar diwrnod tan ddydd Llun Tachwedd 9ed.
Yn ei araith talodd Mr Samson deyrnged i Mr Morgan am ei waith yn casglu'r lluniau ac am drefnu'r arddangosfa: 'Mae'n bwysig cadw digwyddiadau'r gorffennol yn fyw,' meddai, `ac mae'n ddyletswydd arnom i gyd i gofo y rhai fuodd yma o'n blaen oherwydd iddynt hwy y mae'r diolch am y pentref a'r gymuned bresennol sydd gennym ym Meulah.'
Roedd Mr Morgan wedi dosbarthu'r ffotograffau i bum adran: Bywyd a Gwaith; Pobl a Theuloedd; Yr Ysgol a'r Ysgol Feithrin; Y Capel a'r Tonic Solffa; a Bwrlwm Bro Beulah.
Roedd hefyd wedi paratoi braslun o hanes y pentref, yr ysgol a'r capel ynghyd a lluniau a hanes
plasdai'r ardal.
Ynghyd a'r lluniau roedd arddangosfa Each o lien ddogfennau yn ymwneud a'r Capel, `Reading Room' Beulah a'r Ysgol Gynradd.
'Cefais dipyn o hwyl yn casglu'r lluniau ac erbyn hyn rwy'n gwybod pwy sy'n perthyn i hwn a'r hall yn y pentref.
Ond y pleser mwyaf oedd gweld pobl yn dod yn 么l ddwywaith neu deirgwaith i weld y ffotograffau ac roedd gweld rhywun yno am awr neu ddwy yn gyffredin iawn,' medda Mr Morgan.
Dywedodd Mr Morgan mai ail ran y prosiect fyddai rhoi'r lluniau ar DVD ac wedyn cynnwys llawer ohonynt mewn llyfryn ar hanes y pentref.
|