Ganwyd Mam, Hettie Williams, Davies gynt, ar fferm Castell Nadolig yn 1925, ac fel y gwyr pobl yr ardal roedd yn amgylchiad trist iawn pan fu farw ei mam ar ei genedigaeth gan adael chwech o blant.
Collodd ei thad pan oedd yn chwech oed, a magwyd y teulu bach yn bennaf gan Anti Sara, chwaer ei thad o Alltycordde.
Aeth y plant i Ysgol Penmorfa.
Wrth ddarllen hanes cau Ysgol Penmorfa yn Y Gambo iddi, a hithau'n ddall ers blynyddoedd, diddorol oedd gwrando arni'n son am ei thaith i'r ysgol yn y dyddiau hynny: "...lan i benlon Castell, croesi'r ffordd fawr, croesi dau gae a dod mas yn Pwllyrhwyaid, lle roedd Ceri, Eirlys, Wyn a Marina.
Yna lawr heibio Talywerydd, troi i'r dde, heibio Tan-y-bwlch, heibio lon Trefon; lawr y rhiw heibio ty Pengarreg. Pistyll ar waelod y rhiw a chael dwr yno.
Yna, lawr heibio Hirnant lle roedd Rosie ac Alfred West yn byw, mynd heibio Mountain Hall lle roedd John a Jane yn byw; heibio Trepibe, galw am Lal, Dai, Eirlys a Rosa Vincent; heibio Landre, lawr i benlon Treddafydd, troi i'r chwith - mlan heibio i'r llyn (sglefrio arno weithiau), troi i'r dde a lawr i Cefngranod, trwy un cae a hyd llwybr cyhoeddus a thrwy gae arall lawr ar ein pennau i iard yr ysgol.
Doedd dim tar ar iard y bois, and roedd iard y merched wedi ei tharro.
Roedd Mishtir, sef Mr Ifor Isaac, yn byw mewn t欧 ar dir yr ysgol.
Yr athrawon oedd Miss Neli Lewis, Llain a Miss L. A. Evans, Blaenwaun.
|