Cychwynnwyd yr ymweliad ar fferm Mynachlog, Talgarreg. Yno edrychwyd yn fanwl ar y fuches b卯ff ac ar y cynllun 'Tir Gofal', gan fod y fferm yn ei hail flwyddyn o fewn y cynllun.
Wedi gadael Moethebog, talwyd ymweliad 芒'r Ganolfan Fwyd yn Horeb, ac oddi yno ymlaen i Penlanfawr, Plwmp, sydd erbyn hyn yn gysylltiedig 芒 fferm Pencaeau, Glynarthen. Y fuches odro gafodd y sylw yno, a thrafodaeth ar yr holl broblemau yn y sector llaeth.
Diolchodd Carwyn Jones i'r ffermwyr ifainc am yr hoff bwyntiau a godwyd ganddynt ac addawodd y byddai yn edrych yn fanwl arnynt. Diolchodd hefyd i'r Ffederasiwn am drefnu'r gwahoddiad, yn arbennig i Geredigion, gan fod ganddo lawer o gysylltiadau teuluol yn yr hen Sir.
Diolchwyd i Carwyn Jones gan Dai Davies, cadeirydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifainc Cymru, am ddod o ganol ei brysurdeb i gyfarfod 芒'r ffermwyr ifainc, i wrando ac i drafod yr holl bwyntiau a godwyd. Mae Dai Davies hefyd yn fachgen Ileol, sef un o fechgyn Penrhiwlas, Llanarth.
Bu amseriad yr ymweliad yn allweddol bwysig, gan fod y penderfyniad ar fin ei wneud sut i dalu'r cymorthdaliadau o'r flwyddyn nesaf ymlaen, pan fydd ffermwyr yn derbyn ond un taliad yn unig yn flynyddol, sef yr SFP (Single Farm Payment), sydd yn rhan o'r pecyn i ddiwygio'r CAP.
Bydd dewis o dair ffordd i dalu'r cymhorthdal:
1. System Hanesyddol; a fydd yn gysylltiedig 芒 rhif y defaid a'r gwartheg ar y fferm ym mlynyddoedd 2000-02, dyna'r system decaf i ffermwyr teuluol fel yng Nghymru, a dyna'r system a gefnogir gan y ddwy Undeb yng Nghymru.
2. System yn gysylltiedig 芒 maint arwynebedd y fferm; dyma'r system sydd yn dderbyniol i ffermwyr mawr, a'r tirfeddianwyr mawr, ac a gefnogir gan Gymdeithas y Tirfeddianwyr.
3. System Hybrid; sef cyfuniad o'r ddwy system.
Mae pob gwlad o fewn y Gymuned, gan gynnwys Gymru, wedi cael yr hawl i benderfynu pa system i weithredu. Dadleuodd y ffermwyr ifainc yn gryf o blaid y System Hanesyddol yn ystod yr ymweliad.
Gwyddom erbyn hyn bod Carwyn Jones wedi dewis y System Hanesyddol i'w gweithredu yng Nghymru. Dyna hefyd y system a ddewiswyd yn yr Alban, ond y System Hybrid a ddewiswyd ynLloegr a Gogledd Iwerddon.
Diddorol yw deall bod llawer o ffermwyr gwartheg a defaid yn Lloegr yn anhapus ac yn protestio yn erbyn y system a ddewiswyd yno.
Felly, mae gan y Cynulliad, a'r Ysgrifennydd Materion Gwledig rhai hawliau i ddewis beth sydd orau i amaethyddiaeth yng Nghymru. Ar y mater dan sylw, mae datganoli wedi bod yn fuddiol i'r diwydiant yng Nghymru, ac wedi rhoi cyfle i weithredu tegwch a synnwyr cyffredin.