A'r dydd yn ymestyn ar fore oer o Ionawr roedd oriel, llawr a festri Blaencefen yn orlawn i'w hymylon gan bobl y 'gymdogaeth dda' o bell ac agos a ddaeth ynghyd i dalu'r gymwynas ola' mewn gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd Islwyn.
Fe'i adwaenid gan bawb, heb eithriad trwy gynhesrwydd, balchder a diolchgarwch. Gwerinwr syml ei ymarweddiad oedd Islwyn ond perthynai iddo nodweddion prin iawn. Roedd yn 诺r o aml ddoniau a chyfansawdd ei dalentau a gyfoethogai eraill trwy ei adnabod. Rhedai hiwmor a ffraethineb trwy ei barabl a lliwiau ei stor茂au gan chwarddiadau heintus. Roedd yn well nag unrhyw donic. Eto, er ei agosatrwydd byrlymus roedd iddo ei ochr breifat a theimladwy a dringai risiau i bulpud gydag urddas a enynnai barch ac edmygedd.
Haul ydoedd a'i w锚n lydan.
Hyd yn oed mewn tyrfa tynnai sylw gyda'i w锚n afieithus, lydan. Roedd ei brydwedd yn arddangos haul ac awel y bywyd awyr agored. Ar adrodd cyfres o'i straeon difyr roedd ei fynegiant byrlymus yn ychwanegu at ei berfformiad. Roedd ganddo archif o gof. Ond nid oedd ganddo air drwg am neb. Ac yn nyfnder ei lygaid llaith, sensitif -d么i ei deimladau mewnol dyfnion i'r golwg. Cariai ei wallt crych gwyn yn ffluwch afreolaidd yn ystod ei dasgau beunyddiol gydag awgrym o raniad nawr ac yn y man. Ond ar y Sul, neu ar orchwyl cyhoeddus fe'i cribai yn gymen a'i osod i orwedd i batrwm arbennig.
Bathodyn yr Urdd
Ni allwn beidio a sylwi ar fathodyn yr Urdd a wisgai bron bob amser ar labed ei got - hyd yn oed ac yntau wedi cyrraedd oed yr addewid. Roedd cysgod a dylanwad Maxwell Evans, sylfaenydd Aelwyd yr Urdd, yn y Ferwig - yn drwm arno. Roedd y triongl tri-lliw yn gydymaith i Islwyn ar stryd y dref, ar gae'r eisteddfod, ar lwyfan neu mewn pulpud. Ond credwn iddo ei wisgo hefyd yn ei galon.
Gwnaeth gymod trwy fathodyn Yn ei goch, a gwyrdd a gwyn.
Uniaethai ei hun a Chymru a'r Gymraeg, ei diwylliant, ei barddoniaeth, a'i cherddoriaeth. Ymfalch茂ai yn ei thraddodiadau gorau a chefnogai fudiadau'r Urdd, y Ffermwyr Ieuanc, eisteddfodau a chyngherddau. Roedd yn 诺r ymarferol a gyflawnai trwy esiampl a gweithred. Islwyn roddai sglein ac urddas i achlysur gyda'i ddiolchiadau graenus.
Cymwynaswr dyfal
Cofir Islwyn fel cymwynaswr dyfal. D么i eraill o flaen ei hun, d么i caredigrwydd o flaen treuliau, d么i gwasanaeth o flaen blinder a d么i teyrngarwch o flaen esgus. Nid oedd yn surbwch crefyddol, yn hytrach roedd bywyd, g诺yl a gwaith yn lawenydd iddo. Hoffai dynnu coes, ond derbyniai yr un driniaeth yn llon a di-falais.
Ni chollodd oedfa ym Mlaencefen dros gyfnod maith. Roedd ei Suliadur (a' i alwadau pregethu) yn llawn hyd 2010, a thu hwnt. Os c芒i alwadau i Aberystwyth, Caerfyrddin neu bellach i bregethu am y dydd dychwelai heb eithriad i oedfa brynhawn Blaencefen cyn dychwelyd eto yn frawd a ffrind i deulu aelodaeth Blaencefen; nid oedd ganddo deulu agos.
Islwyn oedd deiacon yr eglwys. Roedd yn wedd茂wr o'r frest, pregethai yn argyhoeddedig heb nodiadau, ac roedd galw mawr am ei wasanaeth a'i Neges deallus a didwyll. D么i'i gywair trwy'r Gair ar goedd, Gweinidog ei hun ydoedd.
Fe'i cefnogwyd gan y Parchedigion D. Hughes Jones a H. Gwynfa Roberts iddo ymgymryd 芒 chwrs diwinyddol. Ond roedd gofal o'i annwyl fam, Sal, yn bwysicach iddo. Roedd ei deyrngarwch iddi yn ddiarhebol, rhoddai hi yn gyntaf ar bob achlysur.
Cefndir y teulu
Fe'i ganwyd ar fferm Troedyrhiw (Llangoedmor) - cartref ei dadcu, Hywel James. Symudodd y teulu i Drecefen Ganol - tyddyn 24 erw yn ardal y Ferwig. Derbyniodd ei addysg yn ysgolion cynradd Penparc a'r Ferwig cyn ymuno ag Ysgol Ramadeg enwog (John Phillips) Castell Newydd Emlyn. Nid oedd y tyddyn yn ddigon o faint i gynnal teulu'n llawn amser ac o'r herwydd fe wasanaethodd Islwyn am flynyddoedd ar fferm gyfagos y Lleine - fel un o'r teulu.
Ei ddyletswyddau
Ond roedd ei gyfraniad i gymdeithas yn gynhwysfawr, diwyd ac ymroddgar. Ymhob tasg a gwaith gwirfoddol roedd mor ddibynnol a rhadlon. Ymhlith ei ddyletswyddau gwelir - fel a ganlyn:
Ysgrifennydd a Blaenor Eglwys Blaencefen am bron i hanner cant o flynyddoedd.
Llywydd presennol a thrysorydd Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi a'r Cylch.
Cyn-ysgrifennydd Henaduriaeth De Aberteifi am chwe mlynedd a Llywydd presennol Cyfarfod Dosbarth Glannau Teifi.
Trysorydd Cymanfa Ganu De Aberteif a Gogledd Penfro.
Cyn-lywydd Eglwysi Rhyddion Aberteifi a'r Cylch.
Aelod o G么r Penparc a'r Cylch.
Gohebydd (Y Ferwig) i'r Gambo ers 1982 ac aelod o'r Bwrdd Golygyddol.
Aelod o Bwyllgor yr Henoed. Aelod o Bwyllgor Lles y Ferwig.
A fu unrhyw yn fwy teyrngar a gweithgar ei gefnogaeth i gynnal ein papur bro - Y Gambo. Ers genedigaeth y papur yn 1982 dosbarthai rhyw 70 o gop茂au yn bersonol o ddrws i ddrws bob mis - 17,500 o gop茂au dros gyfnod - yn wirfoddol. Cai ei gwsmeriaid fargen a sgwrs a stori; daeth Islwyn yn ran bwysig i'w bywydau. Ond daeth ei gydnabyddiaeth yn eu gwerthfawrogiad ohono. D么i ei newyddion o'r Ferwig ar amser wedi ei deipio mewn Cymraeg gl芒n a gloyw oddi ar deipiadur hynafol ond roedd ei newyddion mor ffres a byrlymus gyda elfen ddireidus.
Daeth ei swydd yng ngarej T. M. Daniel ag ail wynt iddo. Roedd wrth ei fodd yn cyflenwi tanwydd 'mhlith sgwrs a chlonc a chroeso cynnes y staff. Oni chafodd trwy radlonrwydd y perchennog i hedfan ag ymolchi yn y 'Med' am y tro cyntaf yn eu cwmni ac yntau yn ei saithdegau?
Cofir am Islwyn - yr eisteddfodwr pybyr. Roedd eisteddfodau Blaencefen, G诺yl Fawr Aberteifi yn ran o'i hysgaeth. Fe'i gwelid yn un o wenoliaid Maes 'C' mewn cae o ddefaid neu ar lawnt rhyw Fans cyfleus - naill yn cysgu mewn pabell, mewn fan neu Mercedes Benz (ar fenthyg oddi wrth T.M.D.) A d么i'r enwog, y di-nod a'r adar ato i frecwasta gyda'r Sant Ffransis o'r Ferwig.
Glynnodd i'w wreiddiau ac nid anghofiodd ei deulu ym Mlaencefen, nid anghofiodd hwythau Islwyn. Bu eu gofal hwy ohono ef yn gymesur i'w ofal ef ohonynt hwy. Ef hefyd oedd porthor M.Y.W. cangen y Mwnt - wrth baratoi y festri iddynt.
Teimlai pawb yn well o'i adnabod. D么i 芒'r gorau allan o bobl.
Ni welwn y Panda bath glas mwyach yn tramwyo'r ardaloedd. Ond erys ei w锚n, erys ei esiampl ac erys ei ddylanwad.
Islwyn oedd y golau gwyn.
Jon Meirion