Ym mis Awst 1957, wythnos ar 么l Eisteddfed Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn Llanrwst, penderfynodd pedwar o fechgyn ifanc ardal "Y Gambo" fynd ar daith i ogledd Cymru gan fwriadu teithio ar y tr锚n bach i ben Yr Wyddfa. James Morris James (Jim), Ciliehwnt, Blaencelyn, ei frodyr Gareth a Wil, a Wyn Lloyd, Waunlwyd, Penmorfa oedd y pedwar.
Ar eu ffordd i'r gogledd torrwyd ar y daith i gael cinio yn Nolgellau ac yna aethant ymlaen i Lanberis a chyrraedd tua 4 o'r gloch. (Nid oedd ceir yn mynd mor gyflym yn y 50au ag y maent heddiw). Wedi'r daith hir i'r gogledd cawsant wybod fod tr锚n olaf y dydd wedi gadael y stesion.
Wrth ddychwelyd o'r stesion daeth rhingyll pentref Llanberis i gwrdd a'r pedwar llanc a gofyn am eu help. Roedd person wedi cael damwain angheuol ar Lwybyr Watcyn ar yr Wyddfa ac roedd angen cymorth i gael y corff i lawr o'r mynydd.
Wrth gwrs, roedd yn rhaid trefnu tr锚n i fynd 芒 nhw i gyd i ben y Wyddfa ac erbyn hyn roedd y tywydd wedi troi'n niwlog. Ar y copa roedd yna ddau aelod o d卯m achub mynydd, felly gyda'i gwybodaeth o'r ardal aeth y saith ohonynt am Lwybyr Watcyn. Y cynllun oedd i ddod lan a'r corff ar stretcher i'r copa at y tr锚n am fod hyn yn haws na'i gario i lawr y mynydd.
Roedd y dyn a fu farw wedi cilio i eraill i basio ac wedi syrthio a chael anaf i'w ben, ond roedd ef a'i ffrind yn gwisgo esgidiau dringo yn wahanol i'r pedwar o Geredigion a aeth allan am y dydd mewn sandalau ac esgidiau ysgafn.
Mae'n debyg bod yr hanes wedi bod ar y radio drannoeth yn s么n am y 'Four lads from the Llandysul area'. Felly cawsant eu taith yn y tr锚n i ben yr Wyddfa ond mewn amgylchiadau anghyffredin iawn.
Ym mis Chwefror 1956 bu Jim yn helpu mewn sefyllfa tebyg eto. Anrhydeddwyd ef ynghyd 芒 dau berson arall gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliad (RSPCA) am achub bywyd dau anifail. Y ddau arall oedd y Cwnstabl Emrys Davies, heddwas Brynhoffnant a Mr Waddleton o'r Gymdeithas.
Roedd si ar led fod defaid Ifor Jones, Ardwyn, Plwmp a ffermiau Penparc, Cwmtydu wedi eu gweld ar y graig ac aeth rhai o'r ffermwyr cyfagos i helpu. Roedd yn ddiwrnod rhewllyd a gwyntog iawn. Dechreuodd Jim a Mr Waddleton ddisgyn i lawr y clogwyn ac am y silff lle roedd y defaid wedi eu dal, ond cyn hir aeth arolygwr y Gymdeithas i drafferthion a bu am gyfnod yn hongian ar y creigiau rhewllyd. Bu rhaid i Jim ei achub trwy daflu rhaff iddo a daeth yr heddwas Emrys Davies i lawr yn ei le.
Rhwng bod y tywydd yn wyntog, y graig yn llithrig gan rew a'r defaid yn medru rhedeg yn 么l ac ymlaen ar y silff, roedd y sefyllfa yn anodd ac yn beryglus. Daeth Jim i ben a dala'r defaid a chlymu rhaff amdanynt ac yna cawsant eu tynnu yn unigol i ben y clogwyn yn cael eu dilyn gan y ddau achubwr. Cymerodd ddiwrnod cyfan i achub y defaid gwerthfawr yma.
Fel gwerthfawrogiad derbyniodd Jim, Emrys Davies a Mr Waddleton dystysgrif a medal arian am eu gwrhydri. Mae hanesion difyr iawn gan Jim ac mae wedi addo rhagor i ni yn y dyfodol.