Emyr: Y tebygrwydd yw bod i'r daith amcan arbennig?
Lloyd: Mae wedi bod yn fwriad gennyf i wneud y daith ers llawer o flynyddoedd i weld beddau bechgyn o'r ardal a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn arbennig bedd ewythr, y cefais fy enw ar ei 么l, sef Evan Lloyd, Fronfelen, brawd hynaf fy mam, a gyda llaw cefnder cyntaf dy fam-yng-nghyfraith.
Wedi gadael yr ysgol yn Nhalgarreg aeth Lloyd i weithio yn Siop Pontshaen. Wedi dwy flynedd yno aeth i weithio mewn siop ddillad yn Abertyleri, ac yno yr ymunodd 芒'r RWF a mynd allan i Ffrainc. Collodd ei fywyd ger Zezanne ym mis Mehefin 1918 yn 19 oed, ac yn y fynwent yno mae ei fedd. Mae Zezanne yn dref tua maint Castell Newydd Emlyn, tua 70 milltir i'r dwyrain o Paris a 50 milltir i'r de o Reims, ac yng ngwlad y gwinllannau.
Emyr: Faint o daith oedd hi a pha fath o daith?
Lloyd: Gethin a Rhian drefnodd y daith a hwy wnaeth y gyrru yn y modur Rover, ac yr wyf yn ddiolchgar iddynt am hynny. Teithiwyd bron i 800 o filltiroedd yn Ffrainc mewn 6 diwrnod. Yn ffodus iawn, cawsom fenthyg `lloeren lywio' ac wedi croesi trwy'r twnnel rhoddwyd `chip' ffyrdd Ffrainc ynddo, ac fe wnaeth y teclyn bach ein harwain i'r mannau cywir trwy'r amser. Nid oedd angen map, na holi i neb pa ffordd i fynd, nid oedd colli'r ffordd, a mynd i'r cyfeiriad anghywir a gwastraffu amser yn digwydd, ac oherwydd hynny gweld llawer mwy o fewn yr amser.
Emyr: Sawl mynwent y buoch yn chwilota ynddynt?
Lloyd: Pymtheg mynwent, rhan fach iawn o'r cyfanswm, gan fod 956 o fynwentydd militaraidd Prydeinig yng Ngogledd Ffrainc a Gwlad Belg. Y fynwent gyntaf i ni ymweld 芒 hi oedd yn Bethune, tref tua 45 milltir i'r de o Calais. Mae yno 3,004 o feddau, yn eu plith beddau Evan John Jones, mab Margaret Jones, Cwmbwch, Rhydlewis a gollodd ei fywyd ym mis Medi 1915 yn 25 oed, ac M. O. Evans, priod Elizabeth Evans, Water St, Castell Newydd Emlyn a gollodd ei fywyd ym mis Ionawr 1915 yn 22 oed.
Teithio i'r de wedyn am tua ugain milltir i Arras ac aros yno nos Sul.
Bore trannoeth teithio ugain milltir i Bapume. Yn 么l y plac coffa yng Nghapel Bwlchyfadfa, yma y syrthiodd Daniel Jones, Tafarnbach, ond ni wyddom ble mae ei fedd. Y tebygrwydd yw ei fod ym mynwent Bapume neu yn y fynwent nesaf sydd bedair milltir lawr y ffordd yn Warlencourt, gan fod llawer o feddau di enw ynddynt, dim ond 'A solider of the Great War - only known to God'.
Ym mynwent Warlencourt mae 3,505 o feddau, un ohonynt o Ffostrasol, sef Tom Rees Davies, mab Rees a Maria Davies, Ffoslas, Capel Cynon, syrthiodd ym mis Hydref 1916 yn 33 oed.
Ymlaen eto ar y ffordd i Albert am dair milltir, troi i'r dde a mynd am ddwy filltir eto i Thiepval. Yma mae'r gofgolofn fwyaf sydd yn 150 o droedfeddi o uchder, yn cynnwys 64 o baneli sydd yn cynnwys dros 72 o filoedd o enwau, milwyr a gollodd eu bywydau ym mrwydrau'r Somme na wyddom ond ble mae eu beddau, llawer ohonynt wedi eu chwythu i ebargofiant.
Yn eu plith:
Daniel Jones, mab John a Hannah Jones, Tafarnbach, Pontshaen, 21-10卢1916, 20 oed.
David Davies, mab James Davies, Blaenglowonfach, Talgarreg, 7-7卢1916, 24 oed.
David Jacob Lewis, mab David ac Anne Lewis, Bronheulog, Llandysul, cyn hynny Woodland, Talgarreg, 28-2卢1917, 22 oed.
Timothy Melville Jones, mab Daniel a Grace Jones, Gwynfe, Llanarth, 21卢7-1916, 21 oed.
James Mayberry Jones, mab D. ac E. Jones, 30 Stryd y Coleg, Lianbed, 22-7-1916, 22 oed.
Llewelyn Jones, mab David a Catherine Jones, Henfaes, Llanybydder, 22-10-1916, 22 oed a llawer eraill o ardaloedd cyfagos, rhy niferus yw henwi.
Wedi treulio rhai oriau yn Thiepval, mynd yn 么l a chroesi'r briffordd ac ymlaen i Mamets ac i safle brwydr fawr Coed Mamets lle collodd 4 mil o filwyr eu bywydau mewn un noson a bore (ym mis Gorffennaf 1916), y rhan fwyaf ohonynt yn Gymry yn perthyn i'r Gwarchodlu Cymreig.
Ugain mlynedd yn 么l dadorchuddiwyd Draig Goch ar fryncyn yn wynebu'r coed, i gofio am y Cymry a gollwyd yn y frwydr yno. Ar y golofn sydd yn dal y ddraig mae'n ysgrifenedig:
Parchwn eu hymdrechion
Parhaed ein hatgofion.
O'r bryncyn hwn ym mis Gorffennaf 1916 lansiodd y milwyr y Corfflu Cymreig y 38ain rhaniad arfog eu hymosodiad ar yr Almaenwyr a oedd yn meddiannu Coedwig Mamets. Anodd oedd y dasg ond fe fu yn gwbl lwyddiannus. Codwyd y Gofeb hon i gofio am eu haberth a'u hymroddiad dros ryddid. Mewn angof ni chant fod.
Mynwent arall ar gyrion y pentref yw Delville Wood, sydd yn cynnwys 5523 o feddau. Un ohonynt yw Marteine Kemes Arundel Lloyd, mab Sir Marteine Owen Mowbray Lloyd, Bronwydd a gollodd ei fywyd mis Medi 1916 yn 26 oed, trwy'r farwolaeth hyn collodd Stad Bronwydd ei hetifedd.
Mynd eto i'r dwyrain am 35 milltir i Busingy i weld bedd George Turk, Graig, Talgarreg yn y fynwent ar gyrion y dref, sydd yn cynnwys 670 o feddau. Collodd George ei fywyd ym mis Hydref 1918, tair wythnos cyn diwedd y Rhyfel, yn 20 oed. Yr oedd Evan Davies o T欧 Newydd, Capel Cynon yn filwr yn yr un gatrawd ac yn ymyl George pan syrthiodd.
Wedi i Evan ddod adref wedi diwedd y Rhyfel, aeth gyda'i fam i'r gwasanaeth i Gapel Pisgah un Sul, ac wedi dod allan o'r capel aeth i gydymdeimlo 芒 Mary, mam George, ond nid oedd Mary a'r teulu wedi cael unrhyw wybodaeth am dynged George. Yn naturiol, am fod y Rhyfel wedi gorffen, yr oeddynt yn edrych ymlaen i weld George yn dod adref, felly bu cael y newydd trist gan Evan yn siom ddifrifol iddynt fel teulu. Aeth 6 wythnos wedyn heibio cyn iddynt gael y wybodaeth yn swyddogol o'r Swyddfa Rhyfel.
Bu Evan Davies yn ffodus i gael dod yn 么l yn fyw a bu fyw am flynyddoedd yn Cross Inn. Yr oedd yn adnabyddus fel Ianto Curyll. Gwas yn Rhosgochfach, Mydroilyn oedd George cyn ymuno 芒'r fyddin yn y SWB.
Pan yn gadael mynwent Busingy yr oedd yn dechrau nosi ac yn bryd mynd i'r gwesty i gael seibiant. Bore trannoeth (dydd Mawrth) teithio i'r de am dros 80 milltir i Sezanne i weld y fynwent yno sydd yn cynnwys dim ond 127 o feddau.
Emyr: Sawl un o'r 127 oedd o Gymru, a beth oedd y rheswm ei bod yn Sezanne sydd bron can militir i'r de o ddyffryn y Somme lle roedd y brwydro?
Lloyd: 5 milwr o Gymru sydd yn Sezanne, un o Clydach, Y Rhondda, un o Abertyleri, un o Llanfair Pwll, Sir F么n, un o Dalgarreg sef Evan Lloyd, Fronfelen a John Davies, mab Hannah Davies, 3 Marble Terrace, Llandysul a gollodd ei fywyd yr un diwrnod 芒 Evan Lloyd, yn 22 oed. Yr oedd yn gefnder i John Alaska Davies ac mae
perthnasau iddo yn byw yn Llandysul heddiw.
Yr ail gwestiwn - yr oedd yn amser iddynt gael mynd adref am wyliau, ond penderfynodd y swyddogion eu hanfon i Sezanne i gael seibiant, fel y gallent eu cael yn 么l i'r gogledd ynghynt os fyddai angen. Yn anffodus, wedi cyrraedd Sezanne daeth un o fyddinoedd yr Almaen trwy'r ardal ar eu ffordd i'r gogledd ac nid seibiant a gawsant ond brwydr arall.
Wedi treulio diwrnod yn Sezanne mynd i'r brifddinas Paris ac aros yno am ddiwrnod a dwy noson. Bore dydd Iau, mynd tua'r gogledd i fynd am adref. Aros eto yn Bethune i weld mynwent Le Touret. Yno hefyd mae cofgolofn sydd yn cynnwys 13,000 o enwau milwyr sydd heb fedd, un ohonynt, John Watkin Evans, mab David a Mary Evans, Maes yr Eglwys, Llanarth, a syrthiodd ym mis Mai 1915 yn 27 oed. Mae hefyd wedi ei goffau ar fedd ei rieni ym mynwent Pisgah ac yn Neuadd Goffa Llanarth.
Aeth i Lundain i weithio mewn siop ddillad ac yno ymunodd 芒'r Gloucester Regiment. Yr oedd ei fam yn ferch Pantsod, Synod Inn a'i dad yn fab Pantgwyn, Mydroilyn. Yr oedd yn gefnder i Rosina Lloyd, Gorsgoch a'r diweddar John Jones, Glangraig ac yn ail gefnder i Evan Lloyd, Fronfelen.
Emyr: I newid testun, beth am y ffermio yn Ffrainc?
Lloyd: Y syndod mwyaf oedd mai dim ond tua cant o wartheg a tua dau gant o ddefaid a welwyd yn yr holl daith. Gwelwyd llawer o winllannoedd a tatws - yn ardal Longueval yr oedd tato bron ymhob cae ac yr oeddynt yn ddiwyd yn eu cynaeafu. Felly mae llawer o'r tatws sydd yn gwneud sglodion a crisps yn dod o Ffrainc. Diolch eto i'r trefnwyr ac i berchennog y lloeren lywio.