Yn oriau m芒n fore'r Calan, tarodd mellten y wifren drydan ar wal Neuadd Caerwedros, cydiodd y bondo a lledodd t芒n drwy'r to gan losgi'r neuadd yn ulw.
Deffrowyd swyddogion y Neuadd rhwng 3 a 4 y bore. Roedd coelcerth yn eu disgwyl wrth iddyn nhw syllu'n anghrediniol ar y fflamau yn llyfu'n goch drwy'r trawstiau. Gyda'r gwynt yn bwydo'r fflamau, doedd fawr ddim y gallai diffoddwyr tan y Cei ac Aberaeron ei wneud yn erbyn y fath danchwa. Ymhell cyn toriad gwawr doedd dim yn sefyll ond y pedair wal.
Neuadd Caerwedros oedd un o neuaddau pentref prysuraf y sir. Roedd yn ganolbwynt i fro gyfan ac yn gartref i nifer o gymdeithasau - Cylch Meithrin, C.Ff.I. Caerwedros, Sefydliad y Merched, Adran yr Urdd, Pont, dosbarth Ioga, clwb bowlio ac eraill. Roedd hefyd yn gartref i raglen fisol o weithgareddau cymdeithasol a drefnir gan y Pwyllgor - drama, noson brethyn cartref, Steddfod Ddwl, ac ati. Roedd hefyd yn cael ei defnyddio'n helaeth gan gymdeithasau eraill yn yr ardal ar gyfer cyfarfodydd, ymarferion a gwasanaethau. Bob Sadwrn cyntaf yn Awst ers dros ddegawd, roedd yn neuadd arddangos i Sioe Caerwedros gyda llond lle o gynnyrch yn harddu'r lle bob amser.
Fe' i codwyd yn 1951 a' i gwella yn 1993. Nid hen sied wag o beth oedd Neuadd Caerwedros: roedd hi'n neuadd gynnes, ddiddos a chlyd. Dyna ei gogoniant. Roedd bob amser yn gartrefol waeth faint fyddai'r gynulleidfa. Roedd ynddi'r adnoddau diweddaraf - yn gegin fodern, offer sain, system oleuo a phiano newydd sbon a oedd yn destun cryn falchder i gerddorion y fro. Yn wir, roedd y Neuadd ei hun a'i holl fwrlwm yn fodd i fagu balchder bro.
Mae'r cynigion o gymorth yn y dasg o'i chodi o'r llwch wedi llifo i mewn eisoes o bell ac agos. Mae Pwyllgor y Neuadd yn ddiolchgar i bawb am bob arwydd o ewyllys da. Ffurfiwyd is - bwyllgor i arwain y gwaith o godi'r ffenics o'r fflamau, ond o adnabod pobl Bro Sion Cwilt bydd ysgwydd pawb tan y llwyth pan fydd angen codi'r maen i'r wal.
Daw blwyddyn newydd dda eto i Gaerwedros - o daw!
0 ie - peidiwch ag anghofio'r Calennig!
Neuadd Caerwedros - Calan 2007
Mae ein llys? Mae ein llesiant?
Maenor plwy', mae nawr y plant?
Mae'r canu? Ble mae'r cannoedd
A'u blys am chwerthin a bloedd?
Mae'r bedlam pan ddaw'r ddrama?
Cyngherddau y doniau da?
Mae'r Clwb sy'n hwb i henfro?
Y bwrlwm? Cwlwm ein co'?
Mae'r tynnu coes oesoesol,
Dwli iach a'r dweud di-lol?
Mae'r clatsio bant a'r panto?
Cadw t欧 a'r codi to?
Pwy falodd ein pafiliwn?
Celain yw y Calan hwn.
Holltwyd ein caer gan fellten
A'r ffrwd o drydan drwy'i phren
Dry'n goelcerth, yn d芒n nerthol.
Ein Neuadd ni, ni ddaw'n 么l.
O'r domen cyfyd ffenics;
Bro nid yw fortar a brics.
Neuadd well a ddaw'n ddi-os
Adref i fro Caerwedros.
Neuadd wen ar newydd wedd
I'r rhwydwaith o anrhydedd
A'n deil, deulu wrth deulu,
Rhag llesgau mewn dyddiau du.
Daw o fraw aelwyd i fro,
A'i wres yn d芒n o groeso.
Gareth Ioan
Ionawr 2007
|