Wedi canu cynulleidfaol, darlleniadau a gweddi croesawyd y gwahoddedigion ymlaen i gyflwyno hanes eu hymweliad 芒'r India a Nepal. Norma Rees fu'n cyflwyno manylion am eu teithiau gydag Idris ei g诺r, yn dangos safleoedd yr ardaloedd, trefydd, dinasoedd, parciau natur cenedlaethol ac afonydd ar fap mawr. Llwyddodd Norma i gyfleu naws, lliw, diwylliant, bwydydd, crefydd a bywyd gwyllt y gwledydd trwy ei brwdfrydedd, ei hiaith afaelgar a' i hiwmor. Medrodd gyflwyno am naws cyfoeth a thlodi, palasau a chyflwr pobloedd y stryd, mynyddoedd a dyffrynnoedd a chredoau ac ofergoeliaeth dieithr sy'n dal i gael blaenoriaeth dros foddion, meddyginiaeth, cyffuriau a gwyddoniaeth. Mae bywyd cyfoes yr India yn llawn paradocs. Gwelsant y Joy Mahal, angladdau yn llosgi cyrff ar lan y Ganges, teigrod, nadredd a chopaon gwenwisg yr Himalayas. Yr oedd yn gyflwyniad diddorol iawn ac ni ellir gwneud cyfiawnhad o'r wledd trwy adroddiad ar bapur. Er y tlodi ofnadwy, yr afiechydon a'r boblogaeth ddirifedi, erys urddas pobl yr India a phobl Nepal yn uchel yn eu cof. D么i Norma ac Idris Rees o'r India a Nepal eisiau helpu pawb a phob achos. Nid yw hynny'n bosibl. Ond penderfynodd y ddau i gefnogi un ganolfan arbennig. Trosglwyddwyd y casgliad o'r cwrdd o 拢117 i'w ychwanegu at 拢125 a gasglwyd gan Norma ac Idris Rees trwy werthu cardiau Nadolig a chrefftwaith o Nepal ac India. Byddant yn cyflwyno'r swm terfynol i ganolfan Shanti Sewa Griva yn Nepal. Canolfan gymorth i rai yn dioddef o'r gwahanglwyf ydoedd ond bellach mae yna ysgol, clinig a hyd yn oed fferm gyfagos i dyfu llysiau a ffrwythau gyda' r bwriad o ' i gwneud yn hunan-gynhaliol. Danfonwyd arian o'r Almaen i ddechrau'r ymgyrch. Nid oes arian yn dod o'r llywodraeth felly mae'r cyfraniadau allanol yn hollbwysig i gynnal y fenter. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth - wella byd rhai llai ffodus na nyni.
|