A oes gennych atgofion o flas unigryw y darten rhiwbob gynta'r gwanwyn? Ni fu'r ffrwyth yma'n rhyw boblogaidd yn ddiweddar ond erbyn hyn mae wedi dod yn ffasiynol iawn a chogyddion enwoca'r wlad yn ei ganmol i'r cymylau. Mae rhiwbob yn cael ei alw'n un o'r 'super foods' y clywn gymaint amdanynt y dyddiau yma, ond syndod i mi'n ddiweddar oedd nad oedd bron un plentyn yn gallu ei adnabod pan ddangosodd Jamie Oliver enghraifft ohono i ddosbarth o blant. Mae hefyd yn fuddiol i'n cyrff gan ei fod yn cynnwys llawer o ffibr, fitamin C, calsiwm, magnesiwm a haearn. Eto'i gyd dim and deg calori sydd mewn coesyn! Dyw erioed wedi bod mor ffasiynol yn 么l y Sais i 'think pink'! Beth am drio'r canlynol yn defnyddio rhiwbob? Pysgod gyda Saws Rhiwbob Byddwch angen:
2 fecryll wedi eu glanhau neu un pwys o eog neu frithyll ychydig o seidr neu sudd lemwn halen a phupur un owns o fenynRhowch y pysgod mewn desgl gyda halen a phupur arno, wedyn sudd lemon neu seidr. Torrwch y menyn yn ddarnau bach a'i roi drosto. Rhowch gaead arno a'i roi yn y ffwrn gwres 180掳C neu 4 Nwy am tua hanner awr. Tra bo'r pysgod yn y ffwrn gwnewch y saws. Bydd arnoch angen: 1/2 pwys rhiwbob wedi ei dorri'n f芒n 1 /4 peint seidr ychydig o sudd lemwn ychydig o nutmeg wedi ei falu 2 llond llwy fwrdd siwgr brown Rhowch y cynhwysion uchod mewn sosban a'i mudferwi am tua ugain munud - gweiniwch y pysgod gyda'r saws drosto.
Pwdin hyfryd a syml iawn yw Syllabub Rhiwbob. Dyna fydd arnoch angen: 1/2 pwys o rhiwbob wedi ei ferwi nes iddo dorri lawr yn dda 1/4 peint o hufen wedi ei chwipio 1/4 peint cwstard (rwy'n defnyddio tin parod er mwyn hwylustod) un twb bychan o iogwrt plaen neu iogwrt m锚l 2 llond llwy fwrdd o siwgr ychydig o 'stem ginger' Ar 么l i'r rhiwbob ferwi ychwanegwch y siwgr iddo a'i adael i oeri. Rhowch yr hufen mewn bowlen ac ychwanegwch y cwstard a'r iogwrt iddo, wedyn yr ychydig sinsr wedi ei falu'n f芒n. Mae'n edrych yn ddeniadol os gweinir mewn gwydrau gwin, gan ddechrau gyda rhiwbob wedyn yr hufen. Addurnwch gyda darn o lemwn, helm neu siocled wedi ei falu. Erthygl gan Nan Humphreys
|