Ers faint o amser ydych chi wedi bod yn ffermio? Ers gadael yr ysgol yn bymtheg oed a dod adref i Bantswllt i'r fferm deuluol. Cefais gyfnod yng Ngholeg Felinfach i gael hyfforddiant ym myd amaethyddiaeth. Ar 么l priodi bu^m yn ffermio fferm Blaencerdin Fach, Ffostrasol.Pa newidiadau ydych chwi wedi ei weld ym myd amaethyddiaeth dros y blynyddoedd?
Nifer fawr mewn cyfnod o rhyw ddeg mlynedd ar hugain. Gwelais ddirywiad mawr yn y nifer o ffermwyr oedd yn gwerthu llaeth yn ardal Talgarreg. Ar un adeg roedd 50 o ffermydd yn gwerthu llaeth, ond erbyn heddiw dim ond 10 sydd ar 么l. Er hyn nid oes dirywiad yn nifer y gwartheg a gedwir. Mae maint peiriannau amaethyddol wedi cynyddu ac mae fwy o stoc ar gyfartaledd i bob gweithiwr er mwyn gwneud bywoliaeth.
Sut ydych chi'n gweld ffermio yn ardal Y Gambo yn newid yn y dyfodol? Yn y tymor byr dal rhywbeth yn debyg ond bydd rhaid ehangu yn y tymor hir a phethau i newid gyda phris olew wedi cynyddu byddai gofyn cael cynnyrch lleol i'w ddefnyddio'n lleol. Ydych chi'n rhagweld y byddwch yn arallgyfeirio, ac os ydych, i ba gyfeiriad yr ewch? Dim ar hyn o bryd ac nid i unrhyw gyfeiriad gan y teimlaf nad ffermwr fyddwn i wedyn ac wedi colli ffordd o fyw. Beth yw eich hoff amser a'ch cas amser ar y fferm? Fy hoff amser yw'r gwanwyn pan
mae natur yn dihuno ac rwy'n casau'r gaeaf pan mae'r tywydd yn wael a galwadau'r fferm yn drwm. Pa lwybr mae eich tri plentyn wedi ei ddilyn? Mae Hawys y ferch yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth; Dyfrig y mab ieuengaf yn y coleg ym Mhontypridd 芒'i fryd ar fynd yn gyfrifydd; ond mae Hywel yr ail blentyn wedi penderfynu mai ffermwr yw am fod ac yn gweithio adref ar y fferm. Pan nad ydych yn ffermio beth yw eich diddordebau? Ychydig o amser sydd gennyf at ddiddordebau gan fod cymaint i'w wneud ar y fferm ond rwy'n hoffi cefnogi cymdeithasau lleol ac mae'r capel ym Mhisgah yn bwysig iawn i mi. Pe na byddech wedi mynd i ffermio pa swydd arall fyddai wedi mynd 芒'ch bryd? Mae'n anodd ateb gan i mi roi fy mryd ar fod yn ffermwr ers pan yn ifanc iawn. Efallai y fyddwn wedi mynd i'r byd mecanyddol neu drydanol. Fel cyn gadeirydd o Undeb Ffermwyr Cymru Ceredigion a oes angen dwy Undeb ar Gymru? Nid oes angen dwy Undeb ar Gymru a byddai'n braf gweld uno er fod 'na lawer o gydweithio rhwng y ddwy Undeb ac amcanion y ddwy Undeb yr un peth. Ni welaf
hyn yn digwydd yn y tymor byr. Pwy fu y dylanwad mwyaf arnoch? Glyn Thomas o Goleg Amaethyddol Felinfach gan iddo bwysleisio cadw meddwl agored at fusnes. Bu dylanwad fy mam a nhad hefyd yn amhrisiadwy.
Ar wah芒n i Mary y wraig gyda phwy yr hoffech fynd allan am bryd o fwyd? Gaynor Davies gan mai ei llais hi sydd yn fy nihuno bob bore ar y radio. Sut fyddech yn disgrifio eich hun mewn tri gair? Penderfynol, siaradus, Cymro.
|