Wedi bron deng mlynedd ar hugain mae Garej Crosslyn, Blaenannerch wedi newid dwylo ac mae Cyril a Gwyn Morris wedi hongian yr offer am y tro diwetha gan roi cyfle i b芒r ifanc gychwyn busnes a dilyn yn y llwybrau diogel maent hwy wedi'u sefydlu. Diolch iddynt am roi cyfle i Gymro ifanc gychwyn ar y daith. Mae darllenwyr Y Gambo yn diolch hefyd i Cyril a Gwyn Morris a'u staff am flynyddoedd o wasanaeth i'r ardal ac yn dymuno yn dda i Nigel a Gaynor Davies yn eu menter newydd. Ie! Nigel a Gaynor yw bugeiliaid newydd Garej Blaenannerch mwyach. Fel pob ffermwr sy'n ei chael yn anodd ymddeol mae Cyril a Gwyn yn dal 芒'u bys yn y briwes, fel petai, ac yn barod i roi cyngor o'i
profiadau helaeth yn y fusnes. Mae Mary a Sulwen yn dal yn y siop sy'n gyfleus iawn ger y pwmps petrol ac yn gwerthu tipyn o bopeth. Saif y garej mewn man delfrydol ar ffordd yr arfordir o Fangor i Abergwaun, man busnes arbennig.
Tybed beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Gobeithio y bydd agor y parc busnes newydd ar y maes awyr cyfagos yn chwyddo'r fusnes eto ymhellach.
Pob hwyl i chi oddi wrth ddarllenwyr Y Gambo.
Mae car Yr Hendre-fwyn wedi cael tystysgrif MOT gan y bugeiliaid a bydd ar y ffordd am flwyddyn arall o leiaf, gobeithio.
|