Bu farw Mario Eugenio Ferlito yn ei gartref ym mhentref Ornavasso yng ngogledd yr Eidal yn ystod oriau man y bore, dydd Gwener Mai y cyntaf. Roedd yn 86 mlwydd oed.
Bellach, mae'n adnabyddus fel y cyn arlunydd garcharor a fu'n gyfrifol am ei addurnwaith yn Eglwys y Galon Gysegredig, yng Ngwersyll Rhif 70 yn Henllan.
Fe' i magwyd ym mhentref bychan Oleggio Castello nid nepell o Lyn Orta a thref Omegna.
Yn Awst 1942, gorfodwyd Mario i ymuno a'r fyddin ac wedi misoedd o hyfforddiant symudodd i Ogledd yr Affrig.
Ond ni pharhaodd ei 'ryfel' am hir. Ymhen tri mis, daeth y cyfan i ben.
Disgynnodd Mario, yn un o 240,000 o'r mynydd-dir i wastadeddau M么r y Canoldir. Nid oedd wedi tanio yr un ergyd yn erbyn ei elyn ac ymfalchiai yn y ffaith nad oedd wedi lladd neb.
Fe'i cludwyd mewn llong i Glasgow ar 24 Gorffennaf 1943 cyn teithio ar dr锚n dros nos, i Henllan. Ond symudwyd Mario ymhellach i hostel Eglwyswrw yn un o 35 o garcharorion.
A thrwy'r wythnosau a'r misoedd bu'n gweithio yn lleol - yn Llandudoch, Aberystwyth, Caerfyrddin, Aberaeron, Crymych, Trefdraeth, Abergwaun a Nanhyfer.
Cyflawnodd waith megis codi muriau, bricio, torri ffosydd, dyrnu, carthu beudai a chynaeafu.
Rhedai elfen o styfnigrwydd drwy ei bersonoliaeth ac wedi gwrthod gorchymyn i sarjant fe'i cludwyd o flaen ei well yn Henllan. A'r ddedfryd oedd wythnos mewn cell ar fara a d诺r.
'Teimlwn yn brudd a diflas. Roeddwn mor ddigalon. Roeddwn nawr yn is-garcharor yn fy ngharchar fy hun!' - oedd ei sylwadau.
Yn ei gell difyrrodd ei hun trwy sgetsio ar dameidiau o bapur a sylwodd un o'i gyfeillion ar hyn. Fe'i gwahoddwyd gan y prif swyddog i wneud ei gwaith arlunio yn yr eglwys a grewyd gan yr Eidalwyr mewn caban pren.
Nid estynnwyd unrhyw gymorth iddynt. Gofynnodd Mario i'w gyd卢garcharorion i gasglu deunydd ar gyfer ei waith. Trwy ddirgel ffyrdd daeth i'w law - dabledi lliw o ffatri wlan gyfagos, growns to a choffi, glud o esgyrn pysgod, crwyn winwns, mwyar, pwlp moron, bresych coch, mefus, ffrwythau'r ysgaw a tybaco, cyn cymysgu'r cwbl a hylif piclo (eisin `glass').
Gyda dau frws, a chortyn, yn aml dan olau canwyll creodd allor o goncrit, pileri o duniau `bully beef, canhwyllbrennau hefyd o duniau, pulpudau bychain o focsys y Groes Goch, lectyrn o bren a llestri i ddal y d诺r cysegredig.
Uwchben yr allor, ffresco o'r 'Swper Olaf ac ar y trawstiau mur卢luniau o themau crefyddol. 0 amgylch y lluniau trawiadol roedd bysedd canghennog y winwydden. Gorffennodd y gwaith mewn tri mis.
Cofir am Mario am ei ddawn gelfyddydol. Roedd yn wr deallus, hawddgar, hynaws a charedig. Yn ei eiriau a'i weithredodd dangosodd haelioni brawdgarwch, cyfeillgarwch a thrwy ei anrhegion.
Rhannodd ddelfrydau cymharol Cymru a'r Eidal - sef cyfraniad yr uned deuluol i dwf cenedl, cerddoriaeth, bwyd a'r bwrdd fel llwyfan a chanolbwynt gair a chyfoeth iaith, a hiwmor a hwyl mewn serchowgrwydd a brawdgarwch.
Ymwelodd Mario a Chymru saith o weithiau. Roedd yn hoff lawn o'i phobl, ei thirwedd a'i diwylliant. A phan ymwelodd of a'i gyd gyn卢garcharorion ail ddeffrowyd y brawdgarwch a'r cyfeillgarwch a gyneuwyd yn y pedwar degau. Cafodd ffermwyr, pentrefwyr, cyn卢warchodwyr a gweithwyr ail-flasu'r `amicizia' (cyfeillgarwch) a grewyd ymhlith yr Eidalwyr.
Adeiladwyd perthynas arbeunig a theuluoedd Bryndewi ac yn ardal y Ferwig. Pan ymwelodd teuluoedd o'r ardal hon a glannau Llyn Maggiore, bu Mario yn dywysydd parod iddynt a'i groeso cynnes.
Aeth i gyfarfod a Lewis ac Ella Williams (Heol Gwyddil), Rayanne ac Elizabeth Jenkins (Sarnau), Don a Catherine Ramage (Castellnewydd Emlyn), y diweddar John (Q.C.) a'i deulu o
Landudoch, a Maureen a Winston o Aberporth.
Yn ddiweddar danfonwyd cyfarchion oddi wrth ddisgyblion ysgolion Dihewyd, y Garreg Hirfain