Diflannu, yn un ac un, mae'r swyddfeydd post, fel un o wasanaethau mwyaf adnabyddus ac angenrheidiol - o gefn gwlad.
Bellach, nid gwasanaeth traddodiadol ydyw, and sefydliad sy'n symud yn llechwraidd a diarwybod i grafangau cyfranddaliadau ac elw preifat. Dros gyfnod mae llawer o'r gwasanaethau a gynigiwyd wedi eu symud i gyfeiriadau eraill. Codi'r hufen o'r llaeth.
Mae William Moss wedi bod yn bost-feistr llawn amser ar swyddfa'r post a siop Plwmp ers 1989. Yna fe newidwyd enw ac amcanion y swyddfa a'i gwneud yn swyddfa gymunedol.
Agorodd ei drysau am 22 awr yr wythnos. Er hynny, g诺yr pawb fod William (Bill) wedi cynnig gwasanaeth arbennig a' i oriau yn sicr yn fwy na'r cwota swyddogol.
Eleni, fel rhai blynyddoedd ynghynt, mae awdurdodau swyddfa'r post yn anrhydeddu gweithwyr eu swyddfeydd mewn pedwar categori a chystadleuacth arbennig:
1. Y Swyddfa Bost orau.
2. Y Swyddfa fwyaf adeiladol a blaengar.
3. Arwyr i'r cwsmeriaid.
4. Calon y Gymdeithas (i'w enwebu gan y cwsmeriaid).
Mae brodorion a chwsmeriaid wyddfa Post Plwmp wedi pleidleisio ac enwebu William Moss fel gwerthfawrogiad o'i wasanaeth rhagorol.
Mae tri pherson wedi cyrraedd y rownd derfynol dros Gymru yng nghategori pedwar a Bill yn un ohonynt. Llongyfarchiadau iddo. Roedd rhaid iddo yntau gyflwyno hunan-asesiad o'i amcanion a'i egwyddorion fel post-feistr.
Perthyn i Bill nodweddion arbennig iawn. Mae'n 诺r serchog a charedig greddfol. Mae'n hoffi cymdeithasu a chwmni pobl ac mae ganddo feddwl chwim wedi ei fritho gan hiwmor iachus.
Gwnaeth ymdrech arbennig i adnabod ei bobl, gan gymryd rhan flaenllaw i amddiffyn safonau'r pentre. Ymaelododd a chapel Pantycrugiau ac fe'i anrhydeddwyd ymhellach fel trysorydd y capel a thrysorydd gofalaeth y Parchedig Carys Ann, sy'n cwmpasu capeli Glynarthen, Hawen, Bryngwenith, Capel-y-Wig, Pantycrugiau a Phisgah.
Mae serchowgrwydd Bill yn hollbwysig i lwyddiant ei berthynas 芒'r cwsmeriaid. Ceisia Bill wneud pob cwsmer yn bwysig ac i gwsmeriaid sgwrsio a'i gilydd gan wneud siop a swyddfa'r post Plwmp yn ganolfan gymdeithasol.
Y cwsmer sydd yn iawn - bob amser yn 么l Bill, neu, efallai fel d'wedwn i - bron bob tro.
Mae'n wrandawr da ac wedi datblygu i fod yn berson gwerthfawr iawn yn cm plith.
Diolch yn fawr Bill. Rydym yn falch iawn dy fod wedi cyrraedd safleoedd y tri olaf. Roeddet yn ei haeddu. Os aiff Bill ymhellach byddwn i gyd yn llawenhau gydag ef.