Pe bai muriau Ysgol Penmorfa and yn medru siarad! Bellach cragen ydyw ac yn brysur ymysg y llyfrau a'r offer mae Jonathan Rees (pennaeth) ac Ennis Davies yn cymennu ac yn dosbarthu'r cyfan i ysgolion cyfagos.
Awyrgylch o dristwch a melyster atgofion sy'n bresennol - oherwydd caewyd yr ysgol o 17 o ddisgyblion a 2 athro yng Ngorffennaf - wedi 132 o flynyddoedd.
Bu yn addysgu cenedlaethau o blant dros y blynyddoedd, yn Athen o draddodiad a fu'n gonglfaen i fechgyn a merched y fro wrth eu paratoi at fod yn dinasyddion cyfrifol - bro, cenedl a byd.
Diolch i'r holl athrawon a'r gefnogaeth oddi wrth rieni, bro a llywodraethwyr am sicrhau cyfraniad teilwng addysgol - ysgol fach Penmorfa - yn hanes addysg ein gwlad.
Bu Jonathan Rees yno am 18 mlynedd ac Ennis Davies yn athrawes ar y babanod am 6 mlynedd. Ond oherwydd adolygiaeth o'r ysgolion a'r gostyngiad yn y rhifau caewyd yr ysgol wedi ymgynghori a'r rhieni a'r staff a'r llywodraethwyr. Man gwyn, man draw yw ysgol fro Brynhoffnant ar hyn o bryd ac felly mae'r disgyblion wedi eu dosbarthu i ysgolion Blaenporth, Beulah, Pontgarreg a Phenparc.
Trefnwyd diwrnod agored i ddathlu cyfraniad Ysgol Penmorfa. Kate Richards oedd y cydlynydd a fu'n arwain carfan o weithwyr dygn ac ymroddgar i sicrhau llwyddiant y diwrnod.
Gwahoddwyd y Dr J. Geraint Jenkins, cyn gynghorwr a llywodraethwr a Kate Jones, cyn卢ddisgybl i annerch. Roedd Ennis Davies a Gwenda Richards yn gyfrifol am drefnu'r lluniaeth.
Bu'r plant yn cyflwyno eitemau cerddorol gan gynnwys penillion o waith D. S. Jones a Sally Hall. Gorchuddiwyd muriau'r dosbarthiadau a gwaith y plant a lluniau hanesyddol o gyn卢ddisgyblion.
Cynlluniwyd cryno卢ddisg o'r lluniau gan Tim Hall ac Eurfyl Reed - i'w gwerthu i'r cyhoedd - a'r elw i'w gyflwyno i Apel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2009.
Daeth torf liaws ynghyd o gyn卢ddisgyblion ac athrawon, cysylltiadau, ffrindiau, plant, rhieni ac ardalwyr.
Ymhlith yr awyrgylch profwyd atgofion hapus, hiwmor a thristwch, dagrau a gwen, ailgynnau hen gyfeillgarwch, gobaith a siom a balchder ddigymysg yn llwyddiant a chyfraniad Ysgol Penmorfa.
Nodweddiadol o'r diwrnod a'r cysgodion oedd balchder y Dr Geraint Jenkins yn ei addysg a'i fro a'r deigryn a dreiglodd i lawr ei rudd wedi iddo orffen ei sylwadau. Felly oedd teimladau cymysg pawb ar y dydd hwnnw.
A dymunwn yn dda i Jonathan Rees ac Ennis Davies.