Mynach egsentrig oedd y gwreiddiol, yn perthyn i urdd eglwys uniongred Rwsia a gafodd ddylanwad syfrdanol ar deulu'r Tsar, yn enwedig y Tsarina Alecsandria. Bu farw mewn amgylchiadau dramatig. Fe'i gwenwynwyd 芒 d么s oedd ddigon i ladd chwech o ddynion, fe'i saethwyd dair o weithiau ac fe'i taflwyd i mewn i lyn o i芒. Ac eto ceisiodd ddianc.Ond heddiw mae gennym fand roc a fabwysiadodd yr enw ond sydd 芒 chefndir a gweledigaeth tipyn yn wahanol. Mae pump o'r bechgyn yn lleol a phedwar o ardal Y Gambo.
* Dafydd Driver, Pentre, Ciliau Aeron (Ysgol Aberaeron, Blwyddyn 11), sy'n chwarae git芒r flaen ac yn canu cefndir. Prynodd ei offeryn, sef Gibson Les Paul yn Boston, UDA. Arwyr: Jimi Henrix a John Frusciante.
* Rhys Evans, Hafod lwan, Caerwedros (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13. Chwarae git芒r f芒s (Tanglewood). Arwyr: Red HotChili Peppers a Lostprophets.
* Deiniol Glyn, Brynawelon, PostBach (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13). Chwarae git芒r rhythm (Strat ff锚c - addaswyd) Arwyr: Zack de la Rocha a Slash.
* Dylan Jones, Dewi Villa, Ffos-y-Ffin (Ysgol Aberaeron, Blwyddyn 11). Drymiwr (Drum World). Arwr: Keith Moon
* lfan Rees, Brithdir, Penmorfa (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13). Prif leisydd a git芒r rhythm a rannol blaen (Strat ff锚c - addaswyd). Arwyr: Incubus a Super Furry Animals.
Roedd y pump yn derbyn hyfforddiant unigol oddi wrth Mike Eades a daliodd eu cynnydd a'u gallu cerddorol ei sylw. Awgrymodd iddynt ddod at ei gilydd. Tan yn ddiweddar bu'n eu hyfforddi yn neuaddau Caerwedros a Llwyncelyn unwaith bob pythefnos neu yn amlach ar gyfer gig. Mae'r pump yn gerddorol a'u hagwedd yn aeddfed a chyfrifol. Yn eu cwmni teimlir egni'r ifanc, mwynhad a hwyl yn eu chwarae a chreadigrwydd ffres. Maent yn joio mas draw ac mae'r sialens yn wrthgyferbyniad teilwng i ofynion eu cwrs addysg.
"Mwy na thebyg bydd rhai ohonom yn mynd i'r coleg blwyddyn nesaf. Ond rydym am aros gyda'n gilydd fel gr诺p," meddai un ohonynt. Daw aelodau a syniadau o 'riffs' cerddorol. T欧f yn waith creadigol gr诺p. Yna daw'r geiriau.
Maent yn cyfansoddi y geiriau ei hunain ac mae caneuon gwreiddiol yn cynnwys 'Yr Estron', 'Sharabang', 'Er Cof', 'Dannedd Miniog', 'Gw锚n' a 'Gwenno Guevara Freedom Fighter'.
Ymddangosodd Rasputin yn eu gig cyntaf yn Rali Clwb Ffermwyr Ifanc ym Maenglowon Fawr i gynulleidfa o 1,500. Yn dilyn eu llwyddiant maent wedi ymddangos mewn nifer o gigs gan gynnwys G诺yl Pysgod Aberaeron, Gwesty'r Emlyn gyda Geraint Lovgreen a'r Enw Da, Gwesty'r Plu fel rhan o 'Gigwam', a Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ar yr un llwyfan 芒 Dafydd lwan ac Elin Fflur. Yn ddiweddar, roeddent yn un o bump gr诺p wnaeth chwarae yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin mewn gig a drefnwyd gan Gymdeithas yr laith i brotestio yn erbyn 'Radio Carmarthenshire' a'u polisi uniaith Saesneg.
Dymuna'r bechgyn gydnabod cymorth llawer o bobl; yn bennaf i'w hyfforddwr Mike Eades am ei ddysg, ei gyngor a'i amynedd, i Catrin Owens am ei hyfforddiant ym maes mynegiant cerddorol, i'w cefnogwyr teyrngar yn enwedig Owen, Rhys B, Michael, Rhys D a Clai, ac i'w teuluoedd am eu cefnogaeth ac am fod yn 'roadies' di-d芒l.
Ewch i ddarllen adolygaidau o gigs y canolbarth, mae cyfle i chi gael 拢30 am ysgrifennu adolygiadau eich hunan - clciwch yma am fwy o fanylion.