Dafydd Dafis yw enillydd Tlws Coffa Robina eleni. Cyflwynwyd y wobr iddo am ei ymroddiad oes i fyd natur a'r Gymraeg, sef dau brif faes y Tlws sy'n cael ei roi bob blwyddyn er cof am Robina Elis-Gruffydd a'i hymroddiad hithau iddynt.
Dafydd Dafis, sydd yn ei nawfed degawd erbyn hyn, oedd sylfaenydd Cymdeithas Edward Llwyd, y gymdeithas i naturiaethwyr a cherddwyr sy'n dathlu ei 30ain pen卢blwydd eleni. Ei weledigaeth, a wireddwyd ganddo gydag eraill, oedd dod 芒'r Gymraeg i graidd sefydliadau byd natur, ac erbyn hyn ymddangosodd toreth o lyfrau, llyfrynnau ac erthyglau sy'n trafod enwau a thermau Cymraeg ar bob agwedd o'r maes, yn ogystal 芒 materion gwyddonol mwy cyffredinol.
Fel yr esboniodd Rhian Owen, Sarnau, ar ran Pwyllgor Tlws Coffa Robina, mae'r gwr brwdfrydig a chymwynasgar hwn yn llwyr haeddu'r Tlws hardd a gyflwynwyd iddo gan Dyfed Elis-Gruffydd, Llechryd.
Ond gwelwyd teilyngdod hefyd yn enwebiad arall am y Tlws, sef Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a'i Chanolfan Natur yng Nghilgerran a gafodd ei chymeradwyo yn uchel am ei hymdrech ddiwyd a llwyddiannus i'w Chymreigio ei hun gan hybu'r iaith ymysg y cyhoedd, y staff a'r gwirfoddolwyr.
Felly bu'r Tlws unwaith eto eleni yn fodd i ddathlu llwyddiannau yn y maes ac mae edrych ymlaen at gael enwebiadau am y flwyddyn nesaf. Mae'n agored i unigolion a grwpiau o bob math sy'n gweithredu yn siroedd Dyfed i hybu'r iaith Gymraeg, dysgu Cymraeg, y diwylliant Cymraeg, neu les yr amgylchedd, byd natur a gwarchodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Menter laith Sir Benfro, 01239 831129.
|