Eisteddai yn rhes flaen y dosbarth yn ysgol Pontgarreg ond ni welai y bwrdd du yn eglur. Ond mewn gwers rifyddeg pen roedd gyda'r cyntaf yn ateb - cymhwyster sydd yn nodweddiadol o'i theulu. Ond wedi triniaeth ar ei llygaid oddeutu'r deugain oed collodd ei golwg yn gyfan. Serch hynny, mae wedi byw bywyd llawn. Mae'n briod 芒 Tom ac mae ganddynt ddau o blant, Joy a Haydn.
Nid yw yn syndod i'r rhai sydd yn ei hadnabod oherwydd mae ei diddordeb mewn chwaraeon yn heintus. Mae'n ffan brwdfrydig o bob chwarae - ond am griced. Bydd yn dilyn p锚l-droed, rygbi, rasys ceffylau ac yn enwedig rasys ceir cyflym. Rhoddodd ymgais ar saethu at dargedu gyda chryn lwyddiant ond bellach ei ffefryn yw bowlio - dan do ac yn yr awyr agored. Radio yw'r cyfrwng sy'n ei chyffroi ac yn rhoi y pleser mwyaf iddi. Mae'n gwmni agos iddi ond mae'n gwrando ar raglenni teledu a Tom yn ychwanegu sylwadau pan fydd eisiau. Radio Ceredigion yw'r ffefryn yn enwedig 'Yr Awr Gyfarchion' a rhaglenni'r bore. Fel y gwelwch wrth y tlysau mae Doreen wedi gwneud enw ei hun wrth ennill llawer o lawryfon dros hyd a lled Cymru. Joy, ei merch, yw ei hyfforddwr trwyddedig. Gosodir corden i lawer dros ganol pob rinc a bydd Joy yn ei chyfarwyddo trwy ddefnyddio trwy siarad, ffigurau wyneb cloc a'i wyneb ben i wared ymhen draw y rinc. Er enghraifft, a'r deuddeg yn wynebu Doreen, caiff y sylw - "Hanner llath am naw o'r gloch." "Anela 'run nesa at bedwar." "Ymgais dda, ond braidd yn fyr i'r un ar ddeg." "Llathed o'r jac, mwy o gryfder i'r un nesaf - am bump o'r gloch." Mae Doreen yn teithio i Aberdaugleddau i ymarfer ac i dderbyn hyfforddiant. Yn anffodus, nid oes cyfleusterau i'r anabl yng Ngheredigion ar gyfer chwarae bowlio. Ac wedi iddi ennill medal dros Gymru gyfan ym Mhort Talbot yn ystod llynedd - mae ganddi'r hawl bellach i gystadlu yn Skegness dros Brydain Fawr a hawl i fynd i Durban, De'r Affrig i chwarae ym mhencampwriaeth y byd yn 2005. Estynnwn ein dymuniadau da i Doreen a'n hedmygedd ohoni wrth iddi gyflawni gymaint yn ei maes.
|