Mae'r freuddwyd a' i hamcanion i sefydlu `Diwrnod T. Llew' wedi'i deor a throi yn realaeth.
Dan lywyddiaeth Owenna Davies, cefnogaeth pwyllgor brwd a nawdd adran diwylliant Cyngor Sir Ceredigion - y bwriad yw cynnal
gweithgareddau amrywiol yn flynyddol oddeutu dyddiad pen卢blwydd T. Llew.
Gobeithir y bydd Cymru gyfan yn cymryd rhan ac y sefydlir y digwyddiadau yn 糯yl Genedlaethol.
Mae'r 'gronfa' arbennig eisoes wedi ei sefydlu - a bydd yn ffynhonnell ysgoloriaethau i noddi ac i gefnogi talentau ieuainc disglair sydd yn dangos addewid i ysgrifennu'n greadigol trwy gyfrwng rhyddiaith neu farddoniaeth.
Cynhaliwyd amryw o weithgareddau i sefydlu'r 糯yl.
Ar nos Wener y 9fed o Hydref, traddodwyd darlith gan Jon Meirion yn Llyfrgell Aberteifi ar y testun 'Bywyd a Gwaith T. Llew Jones'.
Noddwyd y noson gan Lyfrgell Ceredigion ac yn bresennol oedd Llyfrgellydd y Sir, William Howells, a threfnydd y noson, Gareth Evans, Llyfrgellydd y Dref.
Yr artistiaid oedd plant adrannau y babanod ac iau Ysgol Gynradd Aberteifi - gyda'u prifathro, Robert Jenkins, ac athrawon.
Adroddwyd `Y Bws Bach' a chyflwyniad cerddorol gan gor yr ysgol o 'Gwm Alltcafan'.
Yn ychwanegol cafwyd datganiad o gerdd dant gan Alun Tegryn Davies i gyfeiliant y delynores Marged Elen Rees, Brynberian.
Cyflwynwyd hir-a-卢thoddeidiau, a thoddeidiau o awdl fuddugol T. Llew - `Caerllion ar Wysg' (Glyn Ebwy, 1958):
Hefyd clywid cyflwyniad o'r 'Graig ar y Traeth' gan y ddau artist.
Daeth cynulleidfa deilwng iawn ynghyd i fwynhau y noson.
Ar ddydd Sadwrn y 10 fed o Hydref ar iard Ysgol Pontgarreg cyflwynwyd Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood ynghyd 芒 disgyblion yr ysgol a fu'n canu a dawnsio gweithiau adnabyddus T. Llew Jones - a hynny o flaen ei gartref - D么l-nant.
Yna trefnwyd taith gerdded o'r ysgol i Wersyll yr Urdd yng Nghefncwrt gan Jon Meirion.
Cyfeiriodd at dreftadaeth forwrol y broydd a chartrefi rhai morwyr arbennig, ffynnon y pentref, Brynllin, Trecregyn East, Maesycregin (cartref yr Athro Melville Richards) pan oedd yn byw yn y fro a Chanolfan y Urdd.
Yn Ogof T. Llew Jones yng Nghanolfan Treftadaeth yr Urdd cyflwynid hanes Sion Cwilt gan Euros Lewis trwy ddawn y cyfarwydd a hunan gyfeiliant ar lif y saer.
Diddanwyd y dorf ymhellach trwy weld T. Llew ei hun -ar sgrin fideo fawr yn adrodd un o straeon celwydd golau un o gymeriadau'r fro - John Jones, Glangraig. Profiad arbeunig iawn!
Dychwelwyd i Neuadd Goffa Pontgarreg ac roedd y lle yn llawn i dderbyn te croeso wedi ei weinyddu gan aelodau o Gangen Merched y Wawr Bro Cranogwen.
Yna darllenwyd enghreifftiau o ysgrifennu creadigol disgyblion ysgolion uwchradd Penweddig, Penglais, Aberaeron, Dyffryn Teifi, Aberteifi a Thregaron. Yn gynharach yn yr wythnos bu'r bobol ieuanc yn mynychu gweithdai ym Mhentre Bach, Blaenpennal yng nghwmni Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones, Angharad Tomos, Eirug Salisbury a Caryl Lewis.
Cyflwynodd John Lewis siec anrhydeddus iawn oddi ar y llwyfan i Gronfa T. Llew Jones ar ran Gwasg Gomer.
Os hoffech gyfrannu i'r gronfa mae cynllun aelodaeth teulu am 拢15 neu aelodaeth unigolion (拢15) ar gael. Cysylltwch a Swyddfa y Ganolfan Addysg ar gampws Theatr Felinfach.