Mae Glynmor Davies neu Glynmor y Llaeth', un o gymeriadau Aberporth, yn ymddeol eleni, ar 么l 35 mlynedd. Cafodd ei eni ym Mhenforial, Aberporth, yn un o ddau o blant i Esty a Sali. Mae'n ddisgynnydd i Tomos y Plas ar ochr ei fam-gu ac i Daniel Davies, a ddechreuodd achos y Methodistiaid yng Nghwm Howni.
I ba ysgol est ti?
Yn gyntaf i Ysgol yr Eglwys yn Aberporth, ond cafodd honno ei chau yn ystod yr amser roeddwn i yno, felly mynd wedyn i Ysgol y Cyngor. Ymlaen wedyn i Ysgol Aberteifi, dan ofal tyner Twm Pop.
Ar 么l gadael yr ysgol, ble wedyn?
Bues i'n ffodus o gael mynd yn brentis yn yr RAE a chael fy hyfforddi fel 'fitter and turner'. Ar 么l pedair blynedd, roedd rhaid dewis rhwng y ddwy grefft ac felly y dewisiais i fod yn 'turner'. Tra oeddwn i'n gweithio yn yr RAE, ro'n i'n ffarmo rhywfaint yn Y Felin, ac yn y diwedd symudais i i fyw yno. Fel roedd y gwaith ffarmo yn cynyddu, penderfynais adael yr RAE a phrynu wac lath', neu rownd laeth, a fu yn eiddo i fy wncwl Nestor rai blynyddoedd ynghynt.
Pa newidiadau welest ti rhwng dechrau a diwedd y cyfnod yn y busnes llaeth?
Pan ddechreuais i, ra'n i'n gwerthu 70 galwyn o laeth bob dydd a byddai hyn yn dwblu yn yr haf. Ond pan ddaeth trydan i'r gwersylloedd carafanau, byddai'r ymwelwyr yn dod a llaeth a nwyddau gyda nhw a'u cadw yn y rhewgell. Peth arall wnaeth gwtogi'r busnes oedd yr archfarchnadoedd yn dod Pr dre. Byddai Ilawer o'r cwsmeriaid yn prynu llaeth fan hynny wedyn. Fel y byddai'r hen gwsmeriaid yn marw neu'n symud o'r ardal, fyddai'r rhai oedd yn cymryd eu lie ddim eisiau Ilaeth wedi ei ddelifro. '' Erbyn heddiw, doedd y busnes ddim yn talu digon i gyfiawnhau'r amser a'r milltiroedd roedd dosbarthu'r Ilaeth yn ei gymryd.
Beth fydd y diddordeb mwya' ar 么l ymddeol?
Yn y pumdegau, prynodd fy nhad fodur Letitia Bryntirion - Riley. Roedd yn fodur o safon uchel ac yn cael ei ddefnyddio fawr ddim. Ddefnyddiodd fy nhad ddim ohono chwaith, dim ond ei gadw yn daclus. Erbyn hyn, rwy wedi ei dynnu'n ddarnau a' i adnewyddu lle roedd angen ac rwy wedi ymuno a'r RMA Club Rally. Felly bydda Fn mynd i bob un o'r cyfarfodydd. Hefyd, mae caravanette gyda ni, a bydd y wraig Glenda a finne'n mynd fan hyn a fan 'co ambell benwythnos.
Beth fydd yn digwydd i Patch?
Allwn i ddim diweddu heb ddweud gair am Patch y ci. Byddai Patch yn y fan ar y set ol bob bore, yn barod i fynd rownd a'r llaeth. Roedd rownd fach ei hunan gyda Patch. Ar Stad y Plas, byddai'n mynd ma's ac yn dod yn 么l i gwrdd a'r fan ym mhen draw'r stad. Roedd e'n gwybod faint yn union o gwningod oedd yn byw ym mhob twll a chlawdd. Hefyd, ym Mhen-parc, roedd rhai tai lle byddai wastad yn galw, yn enwedig gyda Cat, a byddai'n si诺r o gael rhywbeth i fwyta yno. Bydd Patch yn gweld eisiau'r rownd laeth yn fwy na fi.
Glynmor, pob dymuniad da ar dy ymddeoliad a diolch am y sgwrs.