Yng nghystadleuaeth genedlaethol Teulu 2003 - 'Ysbryd y Diwydiant', cystadleuaeth a drefnwyd ar y cyd rhwng Menter a Busnes, y rhaglen Ffermio (cynhyrchiad Teledu Telesgop i S4C), Cyswllt Ffermio (WDA) a HSBC Amaeth, roedd y beirniaid yn chwilio am deuluoedd fferm oedd wedi canfod ffyrdd o aros yng nghefn gwlad. Roedd hyn yn golygu newid eu system ffermio, arallgyfeirio neu gymryd gwaith rhan amser ychwanegol er mwyn amlhau ffynhonnell incwm y teulu, a chafodd y beirniaid eu plesio'n fawr gan amrywiaeth a safon yr holl geisiadau. Daeth Teulu Teifi a Jenny Davies, Siop Fferm Llwynhelyg, Sarnau yn ail yn y gystadleuaeth. Mae'r siop fferm wedi datblygu ar fferm Llwynhelyg ers 1988 gan dyfu o flwyddyn i flwyddyn o ddarparu llysiau o ddrws i ddrws i gynnwys ystod eang o gynnyrch Cymreig. Mae'r siop yn fan gwerthu i nifer o gynhyrchwyr lleol a theimla'r teulu eu hod yn cyflawni r么l bwysig iawn o hybu ymwybyddiaeth o ansawdd uchel bwydydd Cymreig i gwsmeriaid lleol ac i ymwelwyr 芒 Chymru. Mae teulu Llwynhelyg i'w llongyfarch yn fawr a chyflwynwyd sieciau am 拢2,000 iddynt, cyngor arbenigol a phlac llechen i gofnodi'r achlysur.
|