Bob haf bydd llywydd Cymdeithas Ceredigion yn cwblhau'i ddyletswyddau (neu ei dyletswyddau yn yr achos eleni) drwy drefnu trip, neu daith ddirgel - boed am ddiwrnod, neu ddau, neu dri, hyd yn oed.
Eleni llwyddodd ein llywydd, Vera Davies, i gadw'r cyfan a drefnodd yn gyfrinach tan y diwedd, a'i gadw rhag gyrrwr ein bws hyd yn oed!
Ond dywedodd na fyddem yn croesi'r ffin o Geredigion. Cafwyd diwrnod hyfryd ar ei hyd - o'r coffi boreol yng ngwesty'r Talbot ar sgw芒r heulog Tregaron, tan y swper yn Llety Parc, Aberystwyth. Dyma bigion y diwrnod:
Abaty Ystrad-fflur
Wedi cyrraedd y cwmwd tawel hwn arweiniodd Dai Rees Davies ni at yr ywen enwog ym mynwent yr Abaty. O dan ei changhennau darllenodd gerdd T. Gwynn Jones sy'n s么n mai yno y claddwyd un o'r beirdd mwyaf a welodd Cymru erioed, sef Dafydd ap Gwilym, ac mai yn naear yr Abaty y claddwyd deuddeng abad, ynghyd 芒 nifer o dywysogion Cymreig y Canol Oesoedd.
Mae yna stori ddiddorol am ymweliad Isfoel, un o feirdd y Cilie, 芒'r fynwent. Jim James adroddodd yr hanes wrth y cwmni:
'Roedd Isfoel ar ei wyliau yn Nhregaron unwaith a phenderfynodd un diwrnod i ymweld ag Ystrad-fflur. Aeth i chwilio am yr ywen enwog oedd yn nodi'r man y dywedir i Ddafydd ap Gwilym gael ei gladdu. Cafodd siom pan welodd nad oedd carreg goffa yn nodi enw'r cywyddwr enwog. Ysgrifennodd am hyn yn y Tivy-Side a chyfansoddodd englyn am yr achlysur. Cafodd ateb gan
Cledlyn, ysgolfeistr Cwrtnewydd, a ddadleuai nad oedd angen carreg goffa i fardd mor enwog 芒 Dafydd. Bu'r ddau yn gohebu ar y pwnc am gyfnod, ond daliai Isfoel y buasai'n addas hyd yn oed codi carreg o'r mynydd yn "ddabl mud i ddweud ble mae".'
Mae dwy garreg yn coffau Dafydd wrth f么n yr ywen bellach, ac mae un ohonynt yn garreg amrwd heb ei naddu. Tybed a ddodwyd hi yno yn dilyn y ddadl rhwng Isfoel a Chledlyn?
Rhaid nodi, fodd bynnag, bod yna draddodiad lleol sy' n honni mai yn Abaty Talyllychau, ger Llandeilo Fawr, Caerfyrddin, y claddwyd Dafydd - lle codwyd cofeb iddo yno hefyd, yn 1984.
Cloddio Archaeolegol
Pan gyrhaeddon ni Ystrad-fflur roedd t卯m o archeolegwyr yn dechrau tymor arall o waith ar ddarn o dir agored tua 300 metr i'r gorllewin o'r Abaty. Hon yw'r bedwaredd flwyddyn i Adran Archaeoleg ac Anthropoleg Coleg Prifysgol Cymru Llanbed i arwain rhaglen o ymchwil pwysig yn Ystrad-fflur.
Cawsom gyfle i ymweld 芒'r safle a chael ein tywys o amgylch gan rai o'r myfyrwyr a esboniodd inni eu bod yn tybio mai yno y safai mynedfa fawr i gwrt mewnol yr Abaty, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol. Gwaith araf a manwl yw cloddio ar safle archeolegol, meddent, a rhaid cofnodi pob dim wrth ddadlenni'r gorffennol garreg wrth garreg, haen wrth haen. Fe godwyd t诺r uchel o sgaffaldiau ar gwr y safle ac o'i ben mae modd cael golwg ehangach o'r gwaith cloddio, sy'n help i ddyfalu ac esbonio patrwm a chyfeiriad yr adeiladau gwreiddiol.
Cyn ymadael buom yn ymweld ag adfeilion yr Abaty ynghyd 芒'r amgueddfa fach ger y safle.
Canolfan Bwlch Nantyrarian
Mae'n si诺r bod y llecyn hwn ym mhen dyffryn Melindwr yn un o'r mannau prydferthaf yn y sir. Dwy flynedd yn 么l agorwyd canolfan ymwelwyr yn y goedwig ac yno cawsom hoe a lluniaeth ysgafn. Ar wah芒n i'r golygfeydd godidog, a'r llwybrau hawdd eu cerdded o gylch y llyn, mae'r ganolfan yn enwog am ei fod yn gynefin i'r cudyll coch.
Erbyn tri o'r gloch roedd tua deugain o'r adar yn hofran uwchben y llyn yn barod am y sesiwn bwydo sy'n cael ei drefnu'n ddyddiol drwy'r flwyddyn. Yn ystod y gaeaf bydd dros gant o'r adar yn cael eu bwydo yma, ac mae'n olygfa ryfeddol o gofio pa mor agos y bu'r aderyn i'w ddiddymiad.
Eglwys Llanbadarn Fawr
Fe'n croesawyd ni i'r eglwys hynafol gan y Ficer, y Parchedig Timothy Morgan, a' n hatgoffodd bod Cristnogion wedi bod yn addoli yn y fangre ers y chweched ganrif o leiaf. Tystia ei th诺r enfawr i bwysigrwydd yr eglwys yn 1257, pan gafodd ei hail adeiladu ar 么l ei difa gan d芒n.
Mae'r eglwys yn gyforiog o hanes, wrth gwrs. Saif ar safle clas canoloesol lle bu Sulien, Esgob Tyddewi, yn bennaeth cyn dyddiau Padarn Sant. Yr amser hwnnw roedd y clas yn scriptoriwm pwysig i gynhyrchu testunau a chop茂o llawysgrifau. Yma y lluniodd Rhygyfarch, un o feibion Sulien y 'Vita Davidis', (Buchedd Dewi Sant) tua 1094.
Gwelir llinellau o waith Dafydd ap Gwilym ar y sgrin bren ac mae bedd Lewis Morris, y bardd a'r hynafieithydd o F么n, yn y gangell. Bu'r Esgob William Morgan yn ficer yno ac mae copi o'r Beibl a gyfieithodd o'r Gymraeg yn 1588 yn cael ei gadw yno.
Chlywson ni ddim deg cloch yr eglwys yn cael eu canu, ond y maen nhw gyda'r casgliad gorau o glychau yng Nghymru, a gobaith y Parchedig Timothy Morgan yw y byddan nhw'n dal i alw addolwyr eto am ganrifoedd i ddod.
Hywel Gealy Rees
Mwy am Dafydd ap Gwilym
Gwefan Pontrhydfendigaid
Gwefan Tregaron
Gwefan Aberystwyth