Dyna wnaeth Gareth Jones a'i fab Joss (ond 13 oed) ar 18 Mehefin eleni trwy ddringo Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa. Mae'n orchest arbennig i oedolion ond i grwtyn 13 oed sy'n ddisgybl yn Ysgol Ddwyieithog Dyffryn Teifi mae'n lwyddiant i'w ryfeddu. Ffermwr cyhyrog yw Gareth o Bant y Bedw, Plwmp ac mae ef yng nghwmni ei fab Joss yn hoff iawn o gerdded tir uchel Cymru. Mae'r ddau wedi cerdded Plumlumon, Machynlleth i Eisteddfa Gurig, Ystrad Fflur i Dyffryn Elan ac wedi llwyddo i ddringo 10 o 15 o gopaon Bryn mewn diwrnod. Eu uchelgais y flwyddyn nesaf yw dringo'r pymtheg. Bu Gareth yn dringo a cherdded yn Seland Newydd yn nyddiau ei ieuenctid. Yng nghwmni wyth oedolyn o Ddyffryn Ceiriog dechreuodd Gareth a Joss ddringo Ben Nevis (4440 tr) am 4.30 y prynhawn wedi gyrru i fyny mewn moduron i Fort William. Roedd y llwybr yn gymharol serth gyfyl y daith. Cariai Gareth y sach gefn, ac meddai Joss, "Roedd Dad yn dal fi n么l ambell waith." Am 7.30 yr hwyr roeddynt ar y copa a'r eira yn disgyn yn drwm. Roedd hefyd yn oer iawn ond roedd y golau yn dda. "Cefais un Tracker bar a deng munud ar y copa cyn disgyn i Glen Nevis erbyn 9.30 y.h. a gyrru ar wib i Wasdale yn Ardal y Llynnoedd yn Cumbria. Cafwyd brechdannau a d诺r yn y car. Cyrhaeddon ni yno am 3 y bore a dechrau dringo Scafell Pike yn syth. Roedd yn fwy serth na Ben Nevis ac yn oer iawn ar y copa am 5 y bore a'r gwynt yn chwythu yn gryf iawn. Roedd yr olygfa yn wych iawn a gwelwn am filltiroedd. Roeddwn n么l eto am hanner awr wedi saith ar dir gwastad eto yn y dyffryn'. Rhaid oedd gyrru yn ddi-dor ar hyd y draffordd M6 a ffyrdd gogledd Cymru cyn ymdopi 芒 ffyrdd troellog Eryri a chyrraedd Pen y pas am hanner awr wedi hanner dydd. Aethant i fyny y 'Pyg Track' a Chrib Goch a chyrraedd copa'r Wyddfa am chwarter wedi dau (3560 tr). 'Dim amser i fynd i'r caffi na dod lawr ar y tr锚n. Cyffwrdd 芒'r copa. Roedd yn ofnadwy o oer. Dychwelwyd ar Lwybr y Mwynwyr. Dechreuais jogo am ychydig ond roedd Dad wedi blino gormod. Ha! Ha! Roeddwn n么l gyda'r moduron yn y maes parcio am hanner awr wedi tri. Cymerodd y daith 23 awr 18 munud a 38 eiliad. Aethom draw wedyn i Westy Pen y Gwryd lle bu t卯m enwog Eferest yn cyfarfod ac yn hyfforddi.' Meddai Gareth, "Roedd ymdrech Joss yn fendigedig. Rydw i yn falch iawn ohono. Mae yn iach, yn hyderus ac yn ddisgybledig." Meddai Joss am ei dad, "Mae Dad yn esiampl dda - mae'n rhoi cyngor da ac yn gwmni arbennig o ddiddorol. Roedd yn well dringo Ben Nevis gyntaf oherwydd roedd yn fwy anodd a doeddwn ni ddim yn gwybod beth oedd o'm blaen. Diolch dad." Mae Joss eisiau bod yn warden yn y Parc Cenedlaethol wedi gorffen ei addysg. Pob Iwc iddo. Mae Gareth, Claire, Joss a Beci wedi dysgu Cymraeg ac i'w hedmygu. Rydym fel bro yn eu longyfarch yn fawr. Bril Joss a bril Dad! Ymarfer gwerth chweil! Gorchest arbennig iawn, iawn.
|