Dydd Sul, Medi 19, 2004 - Y Diwrnod Mawr!
09. 00 - Dechrau ar ein taith i Gaerloyw.
12. 00 - Cyrraedd yr hen wersyll milwrol, cofrestru, llenwi ffurflenni meddygol a chadarnhau pwysau corfforol rhag ofn ein bod yn rhy drwm i'r parasiwt! Dyna gysur!
13. 00 - Gwylio fideo o drefn y naid, a'r hyfforddwyr yn esbonio'r rheolau diogelwch angenrheidiol. Gwisgo yn 么l y gofynion diogelwch cywir. Wyneb Ffion yn welw fel ysbryd, a nerfau pawb braidd yn fregus! Hir yw pob aros, ond roedd yr aros hwn yn teimlo fel oes. Ond, chwarae teg, roedd yr hyfforddwyr yn ein calonogi ac yn gwneud i ni deimlo mor gartrefol ag oedd yn bosib o dan yr amgylchiadau.
14. 00 - Roedd yr awyren yn barod i'r criw cyntaf. Roedd Ffion a John ymhlith y gr诺p hwnnw. Bu rhaid i mi aros fy nhro a mynd gyda'r gr诺p nesaf. Roedd yr amser yn araf gropian wrth imi aros iddynt ddod yn 么l i'r ddaear, ond yn y man gwelwn smotynau o liwiau yn yr awyr a rheiny'n agosau yn gyflym. Roedd y w锚n ar wynebau Ffion a John yn dweud y cyfan.
14.30 Trychineb! Tywyllodd yr awyr. Roedd y tywydd yn gwaethygu. Beth os na fedrwn i neidio? Bu rhaid aros, ond yn y man, fe wnaeth y cymylau du gilio ac roedd popeth n么l fel y trefnwyd.
15.15 - Cerdded at yr awyren ac eistedd yn y lle priodol gyda'n hyfforddwyr. Roedd yr awyren yn dringo'n gyflym ac roedd y ddaear yn diflannu odanom. Ymhen ryw 10-15 munud roeddwn wedi cyrraedd uchder 0 13,000 troedfedd. Pan deimlais law yr hyfforddwr ar fy ysgwydd a'r drws yn agor, roeddwn yn gwybod bod yr amser tyngedfennol wedi dod. Cofiais am gyngor Ffion: Meddylia amdano fe fel neidio i ganol peli o wl芒n cotwm!'
Neidiodd yr hyfforddwr a oedd yn gwneud y fideo a thynnu'r lluniau yn gyntaf ac yna, doedd dim troi n么l nawr, dim ond rhoi mhen yn 么l yn erbyn yr hyfforddwr, gwedd茂o ac yna ALLAN!!!
Nid yw'n hawdd disgrifio'r teimlad o gwympo drwy'r awyr. Roeddem yn disgyn ar gyflymder o 120 milltir yr awr heb reolaeth. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Ar 么l plymio a chyrraedd uchder o 5,000 troedfedd, agorodd y parasiwt a chawsom ein taflu n么l lan i'r awyr fel bandyn lastic.
Roedd disgyn y 5,000 troedfedd olaf dipyn yn fwy hamddenol ac roeddwn yn cael hwyl fawr gyda'r hyfforddwr wrth reoli'r parasiwt a gwneud inni droi fel reid ceffylau bach y ffair, rownd a rownd. Yn fuan, roeddwn yn gweld yr adeiladau a'r gwylwyr yn dod yn agosach, ac ymhen dim roeddwn wedi disgyn yn 么l i'r ddaear yn un darn! Teimlais wefr fy mod i wedi cyflawni fy uchelgais.
16.15 - Wedi casglu ein fideos a'n tystysgrifau, a diolch i bawb am eu croeso a'u cymorth, roedd yn amser i droi tua thref.
Ionawr 17, 2005
Yr uchafbwynt i ni, o'r holl waith trefnu a chasglu, oedd darganfod cyfanswm a gasglwyd i elusen Cancr Cymru, sef 拢7,041. Braint oedd cael y cyfle y diwrnod hwn i fynd i Gaerdydd i gyflwyno'r siec i Maggie Hughes, sydd yn gyfrifol am gyllid y mudiad. Yr oedd yn agoriad llygad i weld y labordai, y llyfrgell a'i gwerth 拢30,000 o lyfrau ymchwil, ac i ddysgu am yr arbrofion sydd yn cael eu gwneud ar hyn o bryd. Mae angen 拢3/4 miliwn bob blwyddyn i gario'r gwaith ymchwil ymlaen, ac nid ydynt yn derbyn unrhyw gymorth gan y llywodraeth.
Maent yn dibynnu'n llwyr ar nawdd y cyhoedd. Felly, os oes unrhyw un 芒 diddordeb mewn cefnogi ymhellach, medrwch gysylltu 芒 fi, Carol Thomas-Harries, ar 07980 869961, neu gysylltu 芒 Maggie Hughes, Ymchwil Cancr Cymru Caerdydd, rhif ff么n (02920 3169676).
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o waelod calon i bawb am y gefnogaeth hael. Diolch yn fawr.
Erthygl gan Carol Thomas-Harries