Dewiswyd Teleri Jenkins-Davies, merch Denley a Brenda Jenkins Pantyrodyn, allan o un ar ddeg o ymgeiswyr yn Llysgenhades Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru pan fydd Ceredigion yn noddi'r Sioe yn 2010.
Mae Teleri yn wyneb cyfarwydd o amgylch y sioeau, yn ileol ac yn genedlaethol. Bu'n cystadlu'n gyson am ugain mlynedd gyda gwartheg masnachol y teulu. Mae hefyd wedi bod yn weithgar iawn gyda Mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac wedi ennill nifer o anrhydeddau.
Bydd dwy flynedd brysur iawn o flaen Teleri, fel dirprwy Lysgenhades. Dai Jones Llanilar yw'r Llywydd etholedig, a bydd y ddau'n cydweithio ar y dasg o farchnata'r Sioe ac o godi arian i'r coffrau.
Ei thad Denley yw Is-gadeirydd Pwyllgor Ymgynghori Ceredigion gyda sioe 2010.
Pob lwc i Teleri gyda'r her sydd o'i blaen yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
|