Oed%20yr%20Addewid Yn hen yn erbyn y system
Ffilm rymus am henaint a thlodi yng nghanol harddwchDydd Mawrth, Rhagfyr 5, 2000Adolygiad Gwyn Griffiths o'r ffilm, Oed%20yr%20Addewid.
Bydd y ffilm Oed%20yr%20Addewid yn aros yn y cof am yn hir. Er bod iddi ddoniolwch - y tristwch wnaeth yr argraff fwya. Hen wr, William Davies, yn rhoi cynnig ar gael y gorau ar y drefn drwy esgus ei fod yn diodde o Alzheimer's.
"Dim ond teimlo awydd am chydig o fwytha ..."
Crafangau'r Biwrocratiaid Ond mae'n cael ei sugno i fewn i'r drefn a methu ymryddhau wrth i grafangau'r biwrocratiaid gau amdano.
Mae'r hen greadur yn cael ei hun mewn cartref hen bobol - un preifat - ac yn methu dianc.
Roeddwn i'n tybied nad oedd yn bosib cadw rhywun yn erbyn ei ewyllys mewn lle o'r fath - ond dyna sy'n digwydd i William Davies.
Cyfnod y ffilm yw Etholiad Cyffredinol 1997. Y preifateiddio wedi mynd yn rhemp a'r hen William heb sylweddoli y byddai'n rhaid iddo werthu'r ty os oedd i gael aros ym Modlondeb - sy'n cael ei redeg gan Sais awchus am bres sy'n godro'r system.
Yr un pryd fe glywn ambell em eironig yn y cefndir, fel John Major ar y teledu'n addo y byddai cyfoeth y bobol yn ymarllwys i lawr drwy'r cenedlaethau.
Tristwch rhygnu byw mewn harddwch Wedyn dyna'r plant - y trafeiliwr llwyddiannus, y cerddor sy'n gaeth i'r ddiod a'r ferch sy'n brwydro byw gyda'i phlant yn ei thy cyngor yn yr hen fro - a'r gwr wedi diflannu.
Tristwch heneiddio a rhygnu byw yng nghanol harddwch Llyn - yn ardal Llithfaen y gwnaed llawer o'r ffilmio.
Yn y diwedd mae'r ddau gyda'r trafferthion mwya yn dod at ei gilydd, y cerddor gyda phroblem y ddiod a'r hen wr. Ond does dim diweddglo hapus onibai fod y ddau yn gweld diwedd deunaw mlynedd o Dor茂aith.
Fel petae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth.
Perfformiad grymus Stewart Jones, fel William Davies, yw calon y ffilm gyda'i berfformiad grymus. Ceir perfformiadau ardderchog, hefyd, gan Arwel Gruffydd, y cerddor alcoholig a Morfudd Hughes fel y ddynes drws nesa.
Llwyddodd Emlyn Williams, cyfarwyddwr y ffilm ac awdur y sgript, i ysgafnhau sefyllfaoedd dirdynnol y cartre hen bobol gydag eiliadau o ddoniolwch a chariad.
Cariad y bobol leol sy'n gofalu am y cartref. Gwrthgyferbyniad llwyr i farusrwydd y perchennog a blerwch amheus biwrocratiaid y gwasanaethau cymdeithasol. Tlodi a henaint Gwelwn sut mae'r bobol y mae'r system i fod i'w helpu yn mynd yn ysglyfaeth i farusrwydd a chyfrwystra'r rheini sy'n byw drwy fanteisio ac elwa ar y system honno.
Mae'n digwydd mewn sawl cylch o fywyd ond yn dristach, rywsut pan ddigwydd i hen bobol mewn ardal wledig.
Ffilm 芒 neges bwerus am natur bywyd a thlodi a henaint yn y Gymru wledig.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|