Awyrgylch hudol y castell symudol
Adolygiad Grahame Davies.
Y s锚r
Lleisiau: Christian Bale, Lauren Bacall, Emily Mortimer, Jena Malone, Billy Crystal, a Blythe Danner, Cyfarwyddwr
Hayao Miyazaki
Sgrifennu
Hayao Miyazaki, yn seiliedig ar nofel Diana Wynne Jones.
Hyd
119 munud
Sut ffilm
Dwyrain a gorllewin yn cwrdd mewn modd hudol wrth i feistr y genre anime Japaneaidd, Hayao Miyazaki, addasu nofel ffantasi awdures o dras Cymreig mewn ffim animeiddiedig gyfoethog iawn yr olwg.
Y stori
Merch ifanc yw Sophie, yn gweithio mewn siop hetiau mewn tref sydd fel petai'n perthyn i ganol Ewrop tua throad yr ugeinfed ganrif, ond gyda chyffyrddiadau technolegol diweddarach.
Mae'r wlad ar drothwy rhyfel, ac wrth i Sophie (Emily Mortimer) gerdded adre, fe gaiff ei phlagio gan gwpl o lafnau mewn iwnifform, nes i'r dewin dengar Howl, a leisir gan Christian Bale, yr actor a aned yn Sir Benfro, ddod i'w hachub.
A dyna ddigon i ddenu llid ei elyn ef, sef Gwrach y Gwyllt (Lauren Bacall), sy'n troi Sophie druan yn hen wreigan deg a phedwar ugain oed, gyda'r baich ychwanegol na chaiff ddweud wrth neb am y swyn greulon sydd arni.
Ffwrdd 芒 hi wedyn i'r anialdir i chwilio am fodd i dorri'r swyn, a buan iawn y daw ar draws Howl eto, wrth iddi gael ei hun yn ei gartref rhyfedd, sef y castell symudol y cyfeirir ato yn nheitl y ffilm.
A dyna ddechrau ar siwrne hudol, gyda sawl edefyn yn y stori yn cydblethu wrth i Sophie (gyda'i chymeriad h欧n wedi ei leisio gan Jean Simmons) geisio ailddarganfod ei ieuengrwydd coll, wrth i'r dirgelaidd Howl ail-ddarganfod ei ddewrder, ac wrth iddynt oll geisio atal y rhyfel sy'n dod ag awyrlongau dieflig i dinistrio'r wlad baradwysaidd.
Ac ynghyd 芒'r digwyddiadau allanol, wrth gwrs, fe geir siwrne fewnol wrth i'r cymeriadau ddysgu am werthoedd caredigrwydd, dewrder a hunan-aberth.
Y canlyniad
Euthum i weld hon yng nghwmni fy merch seithmlwydd oed, a hynny gyda'r teimlad y byddwn drwy hynny yn dysgu rhywfaint fy hun am werthoedd hunan-aberth.
Ond dwyawr wedyn - dwyawr ddaru hedfan heibio'n gynt nag un o awyrlongau animeiddiedig Miyazaki - roeddwn wedi fy nghyfareddu. Dyma ffilm i ymgolli ynddi ar sawl lefel, yn weledol, yn stor茂ol ac yn gerddorol.
Mae'n wledd i'r llygaid, yn gyntaf. Bron na ellir teimlo'r awel yn y tirweddau Alpinaidd allanol, a blasu'r mwg yng nghrombil y castell crwydrol - creadigaeth sydd, ynddo'i hun, yn werth yr arian mynediad i'w gweld.
Yn stor茂ol, ar 么l goresgyn dieithrwch cychwynnol y lleoliad estron-gyfarwydd, a'r ffordd y mae hud a lledrith yn cyd-fyw gyda realaeth, buan iawn mae'r gwyliwr yn ymdeimlo 芒 chyfyng-gyngor Sophie druan, yn gaeth mewn corff sy'n hen cyn ei hamser, ac fe'ch tynnir yn gyflym i fewn i'w helynt hithau, a helynt Howl a thrigolion eraill ei gastell.
Yn gerddorol, mae'r sg么r, fel golwg cymeriadau'r ffilm, yn gyfuniad o'r dwyreiniol a'r gorllewinol, gyda llinynau Rhamantaidd yn llithro i fewn i synau offerynnau Japaneaidd, mewn modd hudol ddigon.
Y darnau gorau
Mae'r castell, sydd ganddo ddrws sy'n arwain i wahanol lefydd o droi deial cyn ei agor, yn gymeriad ynddo'i hun. Nid yr unig arwydd o wreiddiau Cymreig y stori yw mai cartrefi'r 'Great Wizard Jenkins' a'r dewin 'Pendragon' yw dau o'r pedwar dewis.
Mae'r golygfeydd a'r elfennau gweledol a'r cyfuniad chwareus o'r hen a'r newydd yn ddileit cyson i'r llygaid ac i'r dychymyg.
Yn rhyfedd iawn, dyma ffilm i'w gwylio am yr awyrgylch a'r golygfeydd yn hytrach na'r stori. Mae'r siwrne'n fwy pwysig o dipyn na'r gyrchfan.
Rhaid dweud i'r naratif fynd ar chw芒l braidd tua dwy ran o dair o'r ffordd, gydag uchafbwyntiau, trawsffurfiadau, a datguddiadau yn dechrau pentyrru ar ei gilydd mewn modd mor garlamus, ac mor ymddangosiadol fympwyol, fel ag i ddrysu'r gwyliwr.
Dywed rhai sylwebwyr fod cydlyniad emosiynol mewnol yn fwy o bwyslais gan Miyazaki nag yw rhesymolrwydd naratif, a'i fod yn fodlon i ddigwyddiadau allanol y ffilmiau fod yn phantasmagoraidd ac yn oriog.
Ond i fy meddwl llythrennol i, fe allaswn fod wedi gwneud gydag ychydig yn fwy o gydlyniad stor茂ol - er enghraifft, wedi iddo ddarlunio trawsffurfiad Sophie yn hen ddynes mewn modd tyner a dwys, fe'i trawsffurfir hi yn 么l yn nes ymlaen yn y ffordd fwyaf didaro a ffwrdd-芒-hi, gan chwalu ergyd yr hyn a ddylasai fod yn ganolbwynt emosiynol a stor茂ol y ffilm.
Perfformiadau
Mae llais Christian Bale yn dyfnhau o ffilm i ffilm y dyddiau hyn, ac fe ddaw 芒 nodyn dirgelaidd a thywyll i gymeriad Howl.
Dyna Lauren Bacall wedyn fel Gwrach y Gwyllt, gyda'r cyfuniad o'r swynol a'r peryglus sydd i'w disgwyl gan un o wir hen stejars Hollywood.
A Billy Crystal wedyn fel Calcifer, yr ysbryd t芒n cegog sy'n pweru'r castell. Mae'n goleuo'r sgr卯n - yn llythrennol - bob tro y daw ymlaen, er bod lle i amau addasrwydd celfyddydol ei ffraethineb Iddewig-Efrog Newydd mewn cyd-destun diwylliannol sy'n teimlo ar y cyfan yn fwy Dwyreiniol ac Ewropeaidd.
Rhai geiriau
"Mae bod yn h欧n yn golygu symud yn arafach - medrwch chi weld mwy o'r hyn sydd o'th amgylch."
Sophie: "Maen nhw'n dweud bod y fflam yn llosgi'n fwy disglair pan fo pethau ar eu gwaetha'"
Calcifer (sy'n d芒n, cofiwch): "Ie, ond 'does neb wir yn credu hynny.'
Gystal 芒'r trelar?
Ydi.
Ambell i farn
"Mae'r ffilm yn rhyfeddod, plentynaidd organig, yn syfrdanol o annisgwyl ac yn berwi o greadigrwydd." "Dameg ddoeth a rhyfeddol am eiliadau byrhoedlog bywyd, sy'n delio gyda manteision a beichiau'r hyn sy'n ein gwneud yn unigolion,"
"Chwedl ddryslyd a bis芒r sy'n cyfareddu ac yn difyrru ond sy'n methu cyflawni ei addewid hudol,"
Gwerth mynd i'w gweld?
Yn sicr, hyd yn oed os nad oes rhai bach gennych. Mae wedi codi archwaeth ar yr adolygydd hwn i fynd i chwilio am fwy o waith Miyazake.