The Dukes of Hazzard Digon o yrru ond dim llawer o fynd
Y s锚r Johnny Knoxville, Seann William Scott, Jessica Simpson, Burt Reynolds, Joe Don Baker, Willie Nelson
Cyfarwyddo Jay Chandrasekhar
Sgrifennu John O'Brien
Hyd 103 munud
Sut ffilm Ni fyddai hyd yn oed ddangos pen 么l pert Jessica Simpson ddwywaith cyn amled mewn trowsus ddwywaith cyn lleied wedi achub yr ymdrech hon i droi un o gyfresi teledu gwanaf yr Wythdegau yn ffilm.
Y stori Y stori yw fod yna lawer iawn o ruthro difeddwl n么l 芒 blaen mewn Dodge Charger oren hyd ffyrdd cefn llychlyd Hazzard County rywle ym mro hillbillies Georgia yr Unol Daleithiau yng nghwmni drygionus Bo a Luke Duke (Seann William Scott a Johnny Knoxville) a'r siapus (ond nid cyn ieuenged ag y bu, pe byddem yn hollol onest) Daisy Duke (Jessica Simpson).
Oll yn adar brith ond hoffus sydd bob amser ben-ben a'r awdurdodau ac yn arbennig yr heddlu ym mherson y sirif Roscoe P Coltrane (MC Gainey) maen nhw'n gwneud bywoliaeth o werthu gwirodydd anghyfreithiol sy'n cael eu distyllu gan Uncle Jessie (Wille Nelson).
Ond daw'r bywyd ffri a harti hwn o yfed a chwffio a rasio dan fygythiad oherwydd cynllun a chynllwyn Boss Hogg (Burt Reynolds) i droi Hazzard County yn un gloddfa glo brig enfawr.
Y cwestiwn mawr sy'n fod i'n cadw ar erchwyn ein seddau yw a all y bechgyn nid yn unig roi sbocsan yn olwynion ond hefyd guro pawb yn y ras ffordd flynyddol.
Cyffro a thyndra ddwedsoch chi? Hawdd gallech chi ofyn.
Y canlyniad Dim ond dau air ydych chi eu hangen a 产谤锚苍 a ded ydi'r rheini.
Y darnau gorau Yn 么l y lluniau cyhoeddusrwydd unrhyw olygfa gyda phen 么l a choesau Daisy Duke ynddi.
Perfformiadau Dydi perfformiad ddim yn air y bydd llawer o ddefnydd arno yn yr adolygiad hwn.
Digon yw dweud i Bur Reynolds gael ei wastraffu'n llwyr.
Ambell i farn Rhaid darllen yn eang os am air o ganmoliaeth. Mae gwefan Saesneg y 成人论坛 yn holi pa ben bwlat yn Hollywood roddodd y golau gwyrdd i syniad heb na chymeriadau na llinellau na sefyllfaoedd doniol.
Yn yr ail hanner mae'r ffilm yn rhedeg allan o syniadau, meddir, yn gynt nag y mae car y bechgyn yn rhedeg allan o betrol!
"Dim ond pen 么l prin ei ddillad Simpson sydd yna i leddfu'r diflastod," meddir.
"Ffilm na fyddai ond y Ku Klux Klan yn ei garu," ychwanegir.
Roedd y Sunday Times yr un mor angharedig gan gyhuddo'r cyfarwyddwr o beidio 芒 newid gyda'r amseroedd.
Y geiriau allweddol yn adolygiad y New Statesman ydi gormless, lame-brained a twaddle.A dywed yr Observer mai'r unig ran gwerth chweil yw Willie Nelson yn canu Good ol' Boys Waylon Jennings wrth i'r ffilm gau a'r enwau yn rhowlio dros y sgrin?
Gwerth mynd i'w gweld? Arhoswch adref i ddarllen yr adolygiadau - mae'n nhw'n llawer mwy ffraeth. Rhybudd Starsky and Hutch; Mission Impossible, Bewitched ac yn awr y Dukes of Hazzard - yn enw'r nefoedd peidiwch a gwneud j么c pa gyfres deledu anhebygol ac ofnadwy o'n gorffennol fydd y nesaf i'w throi'n ffilm. Mi fydd hi yma yr wythnos nesaf - ac yn fwy ofnadwy fyth!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|