Hot Fuzz (2007) Plismon drama - nid dramatig
Y s锚r
Simon Pegg; Nick Frost; Timothy Dalton
Cyfarwyddo
Edgar Wright
Hyd
121 munud
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm
Ffilm Brydeinig gan y bobl a wnaeth y gomedi arswyd sombi Shaun of the Dead dair blynedd yn 么l a'r gyfres deledu lwyddiannus Spaced cyn hynny.
Drwy ddod 芒'r un cyfarwyddwr a phrif actorion at ei gilydd unwaith yn rhagor - yn ogystal 芒 pheth wmbredd o wynebau cyfarwydd eraill o'r byd comedi - gobeithiwyd y byddai hon yn meithrin llwyddiant y ffilmiau blaenorol.
Y stori
Mae'r heddwas Nicholas Angel (Pegg) yn blismon mor dda yn Llundain mae'n gwneud i'w gydweithwyr edrych mor s芒l mae ei benaethiaid yn ei ddyrchafu er mwyn cael ei symud o'r ffordd i weithio yng nghefn gwlad Cernyw.
Yno, yn nhref fechan Sandford, rhaid iddo ddygymod 芒 bywyd gwledig lle mae'r arferion a'r rheolau gryn dipyn yn wahanol i rai'r ddinas fawr.
Yn fuan iawn wedi iddo ddechrau ar ei swydd newydd mae yna amryw o farwolaethau sy'n ymddangos fel damweiniau ond gyda'i bartner newydd, PC Butterman (Nick Frost), mae Angel yn argyhoeddedig nad damweiniau ydynt wedi'r cyfan.
Y canlyniad
Ymdrech rhyfeddol o wan i geisio ail greu llwyddiant haeddiannol y ffilm flaenorol.
Daw yn amlwg nad yw lluchio arian at brosiect yn sicrhau llwyddiant - hyd yn oed pan fo pobl dalentog wrth y llyw.
Mae'r hiwmor i gyd wedi ei seilio ar ddychanu pobol trefi bach cefn gwlad ac er nad oes gen i ddim byd yn erbyn hynny - gan fod llawer o'r hyn sy'n cael ei ddweud yn wir - nid yw'r arddull na'r hiwmor yn wreiddiol o gwbl.
Nid yw na gwell na gwaeth na phennod salw o The Vicar of Dibley. Doeddwn i ddim yn chwerthin wrth wyluo'r rheini ychwaith!
Rhai geiriau
"Beth wnaeth i ti fod eisio bod yn heddwas?" meddai Butterman wrth ei gydweithiwr. "Dwi ddim yn cofio unrhyw adeg yn fy mywyd pan nad oeddwn i eisiau bod yn heddwas...oni bai am gyfnod byr yn 1979 pan oeddwn i eisiau bod yn Kermit the Frog," meddai Nicholas Angel.
"Gwastraff arian - aw锚 o'r sinema 'ma!" medde fi reit ar ddiwedd y ffilm.
Ambell i farn Gan na all y ffilm benderfynu ar ddiweddglo mae'n pentyrru un diweddglo ar ben un arall gan ymestyn hyd y ffilm i dros ddwy awr - ac erbyn hynny roedd y fizz wedi mynd allan o'r fuzz yn 么l Anthony Quinn yn yr Independent.
Barn dra gwahanol yw un y cylchgrawn Empire sy'n dweud:
"Hyd yn oed heb y syniad gwreiddiol a gafwyd yn Shaun of the Dead mae [Hot Fuzz]yn gyfartal o ran y chwerthin, ac mae'n nodi Nick Frost fel aelod angenrheidiol o'r t卯m. Mae'r bois (mewn glas) wedi llwyddo unwaith yn rhagor."
Perfformiadau Er bod Nick Frost fel arfer yn hoffus, mae'n dechrau eich blino wedi'r hanner awr gyntaf y tro hwn.
Mae'n anodd dadansoddi perfformiad Simon Pegg gan mai ef sy'n chwarae'r cymeriad mwyaf difr茂ol yn y ffilm i gyd. Nid yw'n gwir ddal eich llygaid ond tydi o ddim yn wael iawn chwaith.
Mae'n bleser gweld perfformiad dieflig ac anhygoel o dros ben llestri gan yr actor o Fae Colwyn, Timothy Dalton. Er bod blynyddoedd ers iddo actio James Bond, mae'n dal 芒'r gallu i dynnu sylw gyda llais melfedaidd 芒 phresenoldeb awdurdodol.
Darnau gorau Yr olygfa lle mae Angel yn canlyn lleidr drwy neidio dros ffensys gerddi cefn ond Butterworth, wrth ei ddilyn, yn carlamu drwyddynt!
Chwerthais pan welais y darn yma ar y trailer am y tro cyntaf - ond yn anffodus, doedd o ddim hanner mor ddoniol fel rhan o'r ffilm i gyd.
Roedd hi'n dda gweld yr actor Timothy Dalton am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, ond mae'n anffodus mai yn y ffilm hon y cafodd lwyfan.
Gwerth ei gweld?
Ni fyddwn yn cymell neb i dalu am weld hon yn y sinema. Byddai rhentu DVD ar noson ddiflas yn well syniad.
Gwell fyth fyddai aros nes bydd ar y teledu - ac yna troi'r sianel drosodd i wylio ail ddangosiadau hen o Dawn French yn gwisgo clogyn offeiriad!
|
Dan - Caerdydd Clasur comedi Prydeinig oedd y ffilm. Dwi ddim 'di chwerthin cymaint ers pennod ola "Da 'Di Dil 'De". Jog on!!!!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|