Robots Robots da a robots drwg
Y s锚r Ewan McGregor, Halle Berry, Greg Kinnear, Mel Brooks, Drew Carey, Amanda Bynes, Robin Williams, Jim Broadbent, Jennifer Coolidge, Pen茅lope Cruz, Sergio Castellitto
Cyfarwyddwr Chris Wedge
Sgrifennu Lowell Ganz, Babaloo Mandel
Hyd 91 munud
Sut ffilm Animeiddiad sy'n gymysgedd o gomedi a dychan gyda Robin Williams, Halle Berry, Mel Brooks ac Ewan Mcgregor ymhlith y lleisiau enwog.
Y stori Mae robot ifanc, dyfeisgar, Rodney Copperbottom (Ewan McGregor), yn gadael ei rieni (Stanley Tucci a Dianne Wiest) a'i gartref salw yn Rivet Town er mwyn cyflwyno ei ddyfais ddiweddaraf i Bigweld (Mel Brooks), arweinydd caredig ac eangfrydig Robot City.
Ond erbyn iddo gyrraedd mae Bigweld wedi ei ddiorseddu gan Rachet (Greg Kinnear), cyfalafwr cynllwyngar a hunanol sydd a'i fryd - dan ddylanwad ei fam, Madame Gasket (Jim Broadbent) - ar hunan-les ac elw personol yn hytrach na gwasanaethu ei gymdeithas a'i gyd-robotiaid.
Yn Robot City mae Rodney yn ymgyfeillachu a chriw brith y stryd sy'n cynnwys Fender (Robin Williams), gegog sy'n ei gynorthwyo i oresgyn Rachet ac adfer yn 么l i'r gymdeithas ffordd rinweddol Bigweld o fyw.
Y canlyniad Pregeth yn erbyn cyfalafiaeth a phrynwriaeth sy'n dibynnu ar ddyfeisiadau a grewyd i ddarfod yn hytrach nag i barhau. Cri yn erbyn y built in obsolescence bondigrybwyll.
Pregethir hefyd y freuddwyd Americanaidd y gwobrwyir ymdrech onest yr aelod truenusaf o gymdeithas. "Gallwch ddisgleirio waeth o ba ddeunydd y cawsoch eich gwneud."
Ydi, mae pawb yn wych ac yn brydferth oddi mewn s'r cyfan sydd ei angen ar bawb yw y cyfle i lwyddo!
Ond mae Ratchet a'i fryd ar elw, elw, elw a phluo pawb. "Why be you when you can be new," meddai.
Ond er gwaethaf ei negeseuon rhinweddol ffilm sy'n drawiadol o safbwynt ei rhagoriaethau technegol a'i heffeithiau yw hon ond yn siomedig o ran stori a chymeriadau ac yn gymysglyd ac yn amrwd ei neges a'i dychan.
Er ei bod yn amlwg pwy yw'r da a'r drwg yn y stori mae anghysondeb a dryswch yngl欧n 芒'r seiliau moesol ac os oes gan rywun yr amser a'r awydd i bryderu am bethau felly mae'n amlwg bod rhyw ddiffyg sylfaenol yn rhywle.
Y darnau gorau Y daith wyllt o gwmpas Robot City.
Y robotiaid yn datgymalu eu hunain er mwyn mynd trwy borth diogelwch.
Perfformiadau Dydi'r cyfoeth o leisiau ddim yn ei ychwanegu rhyw lawer at werth Robots a does dim rhesymeg o gwbl yn perthyn i ddewis y brydweddol Halle Berry i chwarae'r robotes ddel, Cappy, y mae Rodney yn syrthio mewn cariad 芒 hi gan mai ond llais sydd ei angen beth bynnag!
Gystal 芒'r trelar? Yn taro deg yn hytrach na deuddeg.
Ambell i farn Mae edmygedd gyffredinol o'r elfennau technegol. Yn yr Observer y bu'r ganmoliaeth fwyaf hael o'r ffilm drwyddi draw.
Rhai geiriau Mae'r ffilm yn troi o gwmpas nifer o sloganau bachog fel: "Gweld angen - cyflawni angen - See a need fill a need." "You can shine no matter what you are made of."
Adnabod llais Allwch chi glywed llais Terry Wogan? Gwrandewch yn astud ar dad Rachet!
Gwerth mynd i'w gweld? Er yn ceisio apelio at blant ac oedolion fel ei gilydd nid yw Robots yn mynd i fodloni'r naill na'r llall - fel y llwyddodd The Incredibles yn gynharach eleni.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|