Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
Y s锚r
Will Ferrell, Sacha Baron Cohen, John C. Reilly
Cyfarwyddo
Christopher Smith
Hyd
108 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Meddyliwch am y ffilm Tom Cruise yna gyda'r ceir rasio - Days of Thunder - ac wedyn dychmygwch un arall o ffilmiau Will Ferrell - Anchorman - a dod a'r ddau at ei gilydd ac fe gewch chi Talladego Nights!
Mae'n cynnwys j么cs dirifedi - gan amlaf yn gwneud hwyl am ben pobl (mae'n rhaid imi fod yn ofalus yma) sydd a dim llawer o addysg na diwylliant ac yn byw yn nhaleithiau deheuol yr America.
Mae Ferrell wedi creu arddull a phersonoliaeth unigryw yn ei ffilmiau diweddar - rhai yn fwy llwyddiannus na'i gilydd - ac rwy'n falch o fedru datgan fod hon yn un o'r rhai cryfaf o'r stabl arbennig hon.
Y stori
Ricky Bobby (Ferrell) yw'r gyrrwr gorau yn y byd rasio ceir NASCAR - ras geir o'r Unol Daleithiau sydd debyg i Fformiwla Un.
Wrth i Ricky Bobby fynd fwyfwy cyfforddus a digywilydd yn ei safle ar ben y twmpath rasio, gwelwn Ffrancwr suave o'r enw Jean Girard (Cohen) yn ymddangos ar y s卯n gyda'r bwriad o gipio coron NASCAR oddi arno.
Ambell i farn "Mae'n amrwd ond yn achlysurol ddoniol, gyda pherfformiadau beiddgar gan Sacha Baron Cohen (sydd ag acen mor wyllt a'r marchogion Ffrengig yn Monty Python and the Holy Grail) a Gary Cole yn actio'i dad gwargoch (redneck!) meddai Phillip French o'r Guardian
"Anghofiwch am y blips diweddar, mae Ferrell yn 么l ar ei orau. Yn fwy na ffilm mwyaf doniol y flwyddyn; Talladego Nights yw ffilm y flwyddyn," meddai cylchgrawn Total Film
Perfformiadau Er bod Sacha Baron Cohen, sy'n fwy adnabyddus fel Ali G a Borat, yn gor actio'n wyllt fel y Ffrancwr hoyw a gorhyderus mae'n llwyddo i ennill llinellau mwyaf doniol y ffilm - yn ogystal a'r rasus.
Mae Will Ferrell yn gampus yn fel Ricky Bobby, ond mae'n rhaid dweud mai i John C. Reilly sy'n sefyll allan - fel ei ffrind gorau Cal Naughton Jr.
Efallai mai'r rheswm am hyn yw fod Reilly, gan amlaf, yn cael ei gastio mewn ffilmiau difrifol, ond yn awr gwelwn fod ganddo allu comedi aruthrol.
Gwerth ei gweld?
Mae'r ffilm yn arbennig o wleidyddol anghywir ar adegau ("Shake and Bake..Is that a catchphrase or is it epilepsy?") ond dyma'r oeddwn yn ei ddisgwyl ac yn ei obeithio!
Os ydych chi'n disgwyl stori gredadwy a hiwmor diniwed saff, cadwch draw.
Ar y llaw arall, os ydych fel fi, yn ffan mawr o Ferrell ac yn gwirioni ar hiwmor sili agos i'r asgwrn, ewch i'r sinema i'w gweld heddiw.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|