Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous Yr un hen blismones yn achub yr un hen Miss America
Y s锚r Sandra Bullock, Regina King, William Shatner, Heather Burns, Diedrich Bader.
Cyfarwyddwr John Pasquin
Sgrifennu Marc Lawrence
Hyd 115 munud
Sut ffilm Efallai nad oedd Miss Congeniality y ffilm orau a wnaeth Sandra Bullock erioed ond, yn wir, mae Miss Congeniality 2 - Armed and Fabulous yn si诺r o fod y salaf.
Dilyniant salw i ffilm lwyddiannus os nad gwych.
Y stori Wedi i'r asiant FBI Gracie Hart (Sandra Bullock) ennill cymaint o amlygrwydd gorfodir yr awdurdodau i'w defnyddio i hyrwyddo'r FBI yn gyhoeddus ar deledu ac mewn ymddangosiadau cyhoeddus gan ei bod yn rhy adnabyddus i fod yn swyddog cudd.
Mae'r stori yn ymwneud yn bennaf a'r berthynas elyniaethus rhyngddi hi a swyddog arall, Sam Fuller (Regina King) a benodwyd i edrych ar ei h么l a'i gwarchod.
Yn ychwanegol at hyn mae cyfaill Hart, Cheryl (Heather Burns) a ddewiswyd yn Miss America yn y ffilm gyntaf, yn cael ei herwgipio gyda hyrwyddwr y gystadleuaeth, Stan (William Shatner).
Does dim rhaid bod yn ddilynwr buddie movies i ddyfalu fod y cicio a'r brathu rhwng Gracie a Sam yn troi'n gyfeillgarwch clos wrth i'r ddwy ymuno a'i gilydd, yn anfoddog i ddechrau, i achub Cheryl a Stan.
Cyrraedd y cyfan ei benllanw mewn sioe drag yn y Venetia Hotel a chasino Treasure Island yn Las Vegas.
Y darnau gorau Unrhyw olygfa gyda'r ymgynghorydd camp Joel (Diedrich Bader) ond ar wah芒n i hynny does yna fawr ddim i sgwennu adref amdano er bod yna dipyn o ganmol wedi bod ar olygfa yn ymwneud 芒 Dolly Parton.
Haws yw dewis darn gwaethaf - sef ymweliad Hart a merch fach yn ei hysgol ar ddiwedd y ffilm. Iych.
Perfformiadau Teg dweud, oni bai fod Bullock gystal actores y byddai Miss Congeniality yn waeth ffilm nad yw. Ond y lleidr golygfeydd ydi Diedrich Bader fel ymgynghorydd prydferthwch camp.
"Chdi fydd fy Mona Lisa i, fy Nghapel Sistine," meddai wrth fynd ati i weddnewid Hart ar gyfer y cyhoedd.
Adnod arall ganddo yw fod pobl yn hoffi pobl sy'n hoffi eu hunain!
Dydi Regina King ddim yn argyhoeddi fel y blismones sarrug Sam Fuller - yn rhannol oherwydd nad yw'r stori yn cynnig unrhyw eglurhad am ei hagwedd elyniaethus.
Gystal 芒'r trelar? Na.
Y canlyniad Dilyniant cwbl ddiangen sy'n hesb o hiwmor a chyda stori nad yw'n argyhoeddi nac yn datblygu'n rhesymol.
Ac yn y diwedd ni ellir osgoi'r ffaith mai ffilm ydi Miss Congeniality 2am yr un blismones yn achub yr un ferch brydferth ag yn Miss Congeniality 1.
Geiriau cofiadwy Miss America: Mae'n rhaid dy fod ti'n dechrau blino achub fy mywyd i o hyd. Hart: Na, na, mae'n ymarfer corfforol da.
Ambell i farn Siomwyd y rhan fwyaf gyda'r ail Miss Congeniality - hyd yn oed y rhai hynny a ffolodd ar y ffilm wreiddiol.
Gwelodd sawl beirniad eisiau Michael Caine a wnaeth dipyn o argraff yn y ffilm gyntaf ac mae'n wir dweud nad yw William Shatner yn llenwi ei esgidiau.
Yn 么l y Sunday Times mae'r ffilm yn rhy hir; pob j么c weledol yn syrthio'n fflat a'r one-liners mor gloff mae nhw angen cadair olwyn.
Mewn gair, "Ofnadwy" ydi barn y papur.
"Dilyniant diangen," i ffilm wreiddiol ddifenter," ydi barn yr Observer.
"Yn y gwraidd, fersiwn fenywaidd o Beverly Hills Cop, bydded hynny'n ganmoliaeth neu beidio."
Canmolwyd Bullock gan y Wales on Sunday am roi rhywfaint o sglein ar ddialog dienaid ond daw yntau hefyd i'r casgliad; hyd yn oed os yw Miss Congeniality 2 yn "armed" dydi hi ddim yn "fabulous"!
Ond meddai adolygydd ar y we: "Gwirion, twp ac weithiau'n ddoniol. Mae'r ffilm ar ei mwyaf doniol ar yr adegau hynny pan yw mor s芒l mae hi'n dda."
Dwedwch eto . . .
Gwerth mynd i'w gweld? Disgwyliwch am y DVD - a cheisio cael benthyg honno gan gyfaill.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|