St Trinian's I ferched yn bennaf
Y S锚r: Rupert Everett, Colin Firth, Russell Brand, Gemma Arterton, Talulah Riley
Cyfarwyddwyr: Oliver Parker, Barnaby Thompson
Ysgrifenwyr: Piers Ashworth, Nick Moorcroft yn seiliedig ar luniau Ronald Searle.
Hyd: 101 munud
Adolygiad Carys Mair Davies
Gan i sawl un ddweud y dylwn i fynd i weld St. Trinian's yr oeddwn yn disgwyl pethau mawr!!
Mae plot y ffilm yn un wych yn fy marn i gan ddechrau gydag Annabel Fritton (Talulah Riley) ar ei diwrnod cyntaf yn ysgol ferched St Trinian's ac yn cwrdd 芒 phrif ferch yr ysgol, Kelly (Gemma Arterton) sy'n ei thywys o amgylch yr adeilad i gyfarfod y gwahanol ferched.
Mwya'n byd a w锚l mwya'n byd mae hi'n cas谩u'r lle ond mae ei thad (Rupert Everett) yn gwrthod gwrando pan yw hi'n ei ffonio i'w mofyn adref.
Gydag amser, fodd bynnag, daw Annabel yn fwy cyfforddus yng nghwmni merched St Trinian's wrth iddi gael ei derbyn ganddynt ac fe ddaw, maes o law, yn rhan o gynllwyn clyfar i achub yr ysgol pan yw'r banc yn ei bygwth.
Ond bydd yn rhaid ichi wylio'r ffilm i gael gwybod mwy am hynny!!
Mae'r actorion yn St Trinian's yn portreadu'r gwahanol gymeriadau yn rhagorol, yn arbennig merched yr ysgol sy'n "Posh Tottys", yn "Geeks", yn "Emos", yn "First Years" neu'n "Chavs". Bron na chredwch mai pobl fel hyn yw'r actorion yn mewn gwirionedd!!
Anodd rhoi label ar y ffilm gan ei bod yn gymysgfa o antur, comedi a "chickflick" ond buaswn yn dweud mai ffilm i ferched yn hytrach na bechgyn yw hon - er, dwi'n si诺r y byddai pawb yn chwerthin am y golygfeydd doniol.
Ond er i mi fwynhau'r ffilm yn fawr, credaf iddo lusgo braidd er mai dim ond awr a hanner o hyd yw hi! Yr oeddwn yn chwilio am yr amser ac yn dyfylu g锚n erbyn y canol.
Gallai'r cynhyrchwyr fod wedi cwtogi rhai golygfeydd er mwyn gwneud y ffilm yn haws i'w gwylio.
Fy hoff gymeriad yn y ffilm yw'r brifathrawes, Camilla Fritton (Rupert Everett eto). Llwydda Everett i'w phortreadu'n gywrain gydag hyd yn oed yr osgo wedi'i berffeithio!!
Ar ddiwedd y ffilm, mewn golygfa o barti茂o gwelir aelodau o Girls Aloud yn ymddwyn fel merched ysgol wrth ganu c芒n y diweddglo.
Os ydych yn chwilio am rywbeth i'w wneud rhyw noson ewch i weld St. Trinian's!! Bydd yn si诺r o oleuo'ch diwrnod!!
Mae'r adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng 成人论坛 Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|