Bridget Jones - The Edge of Reason Dyddiadur newydd - yr un hen Bridget - yr un hen j么cs
Y s锚r Ren茅e Zellweger, Colin Firth, Hugh Grant
Cyfarwyddwr Beeban Kidron
Sgrifennu Andrew Davies - yn dilyn nofel Helen Fielding
Hyd 108 munud
Sut ffilm Rhagor o'r un peth am y ferch ddiolwg sy'n bryderus am ei hunanhyder a'i gallu i hudo dynion.
Y stori Mae'r stori'n cychwyn bedair wythnos wedi diwedd y ffilm gyntaf a Bridget (Ren茅e Zellweger) a thwrnai crach mewn cariad.
"Mae blynyddoedd yr anialwch drosodd. Dydi Bridget Jones ddim yn esgymyn cariad mwyach," meddai hi.
Ond buan iawn mae hi'n dechrau hel bwganod am ei pherthynas 芒 Marc Darcy (Colin Firth).
Mae nifer o olygfeydd sy'n dangos y berthynas yn dirywio ac yn dadfeilio gan gynnwys cinio mawreddog i dwrneiod mwy mawreddog fyth a gwyliau sg茂o hunllefus lle mae hi'n nodweddiadol drwsgwl ar sg卯s.
Yn wyneb hyn oll mae'n cael ei thynnu at y cyflwynydd teledu seimllyd ac anegwyddorol, Daniel Cleaver (Hugh Grant), a thra'n gwneud rhaglen gydag ef yn Nhaiwan teflir hi i garchar ar 么l cael ei thwyllo i gario cyffuriau yn ei ch锚s.
Y canlyniad Anodd cynnal y j么c am ferch dew yn baglu ar draws ei thraed ei hun ac yn chwilio am gysur mewn bocs siocled am ail ffilm. O'r herwydd, bydd mwy o fwynhad i'w gael o'r ffilm hon os na welwyd y gyntaf.
Fel arall, mwy o'r un peth sydd yma gyda chyfres o wahanol olygfeydd comedi sefyllfa wedi eu rhwymo wrth ei gilydd gydag ambell i olygfa yn gryfach na'i gilydd.
Y darnau gorau Mae'r cinio mawreddog yn ddigon derbyniol os braidd yn ystrydebol.
Mwy o hwyl ydi'r olygfa fer, prynu offer prawf beichiogrwydd.
Mae'r bennod sg茂o yn gwbl ystrydebol heb na gwreiddioldeb na ffresni ond y ffeit od rhwng Darcy a Cleaver yn plesio.
Perfformiadau Ar wah芒n i Bridget ei hun y cymeriad cryfaf ydi un Hugh Grant yr hudwr slic, seimllyd, ffraeth ei dafod. Gystal 芒'r trelar? Ydi, debyg.
Rhai geiriau Mae'r sgript yn aml yn ffraeth a bachog..
"Rydw i wedi rhoi'r gorau i smocio - neu o leiaf mae o'n meddwl fy mod i; sydd bron iawn yr un peth."
"Rwy'n ofni imi wneud camgymeriad mawr dy gael di a dy ddillad isaf yn rhan o fy mywyd."
"Sefydliad ffasgaidd sy'n gwthio procer sy'n aros yno am weddill dy fywyd i fyny dy ben 么l," yw diffiniad Bridget o Eton.
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi'n wir - ond peidiwch a disgwyl dim byd hynod na gwreiddiol iawn. Mae'n anodd cynnal yr un j么c mewn dwy ffilm un ar 么l y llall.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|