Spanglish Mewn dwy iaith
Y s锚r Adam Sandler, Paz Vega, T茅a Leoni, Cloris Leachman, Shelbie Bruce.
Cyfarwyddwr James L Brooks
Sgrifennu James L Brooks
Hyd 131 munud
Sut ffilm Er yn cael ei chyflwyno fel comedi; ffilm ysgafn a theimladwy yw hi mewn gwirionedd a'i byrdwn ar fod yn driw i chi eich hun a'ch tras.
Y stori Mae Flor (Paz Vega) yn dianc dros y ffin o Fecsico i fyw yn yr Unol Daleithiau gyda'i merch fach eithriadol o dlws, Cristina (Shelbie Bruce). Yno, mae'n cael ei chyflogi'n forwyn yng nghartref John a Deborah Clasky (Adam Sandler a T茅a Leoni) , eu merch Berice (Sarah Steele) a mam Deborah (Cloris Leachman).
Er i Cristina ddysgu Saesneg dim ond Sbaeneg sydd gan ei mam ac mae hynny'n destun rhywfaint o ddoniolwch a rhwystredigaeth rhyngddi hi a'i chyflogwyr gyda'r ferch fach yn gorfod cyfieithu'r sgyrsiau rhyngddynt.
Ond mae arwyddoc芒d dyfnach i'r 'broblem iaith' hon.
Yn wraig rwystredig a siomedig o Bernice, ei merch dew ei hun, mae Deb yn closio gymaint at y Sbaenes fach hynod o dlws y mae'n ei phrysur feddiannu fel pe byddai yn ferch iddi ei hun.
Y canlyniad ydi tyndra a gwrthdaro rhwng pawb - yn enwedig rhwng Deb a Flor sydd am fagu ei merch yn driw i'w gwreiddiau Sbaenaidd ac hefyd rhwng Bernice a'i mam.
Yn y canol yn cymodi y mae mam feddw, Deb, sydd wedi cymryd at Flor oherwydd ei bod "yr unig un sydd ddim yn feirniadol ohona fi".
Adroddir y stori gan Cristina o draethawd amdani ei hun sy'n rhan o gais mynediad i brifysgol Princeton.
Y darnau gorau Mae nifer o olygfeydd da: Gan na ddefnyddir isdeitlau gall y golygfeydd Saesneg-Sbaeneg fod yn hwyl - er i rai beirniaid gwyno am hyn. Mae ffrae trwy gyfrwng cyfieithydd yn gweithio'n dda iawn.
Deborah a John yn caru.
Perfformiadau Gan nad yw'r cyfarwyddwr yn si诺r ai comedi ynteu drama ddifrifol yw hon mae'r perfformiadau yn amrywio o actor i actor o ran dehongliad.
O bosib mai Sandler, fel y g诺r sy'n cael ei ddal yn y canol, sy'n dygymod orau.
Ond wedi dweud hynny, mae perfformiad Leoni yn hynod afaelgar yn 'dwyn' Cristina er mwyn ei 'hachub' - mewn rhyw ffordd Eliza Doolittle-aidd - trwy ei boddi mewn gwerthoedd a deisyfiadau Americanaidd y mae Flor yn reddfol am amddiffyn ei merch rhagddynt.
Unochrog a simplistaidd braidd yw cymeriad Flor. Diolch byth, felly, fod Vega yn actores ddigon medrus i argyhoeddi ac i ennyn ein cydymdeimlad tuag at fam sy'n gweld ei phlentyn yn cael ei meddiannu a'i mowldio'n Americanes.
Gystal 芒'r trelar? Heb weld un.
Y canlyniad Gyda'r thema o 'berthyn' ac o werthoedd ac o amrywiaeth ddiwylliannol mae ap锚l arbennig yma i Gymry. Hefyd, mae'n haws i ni werthfawrogi arwyddoc芒d y sefyllfa ieithyddol.
Gwendid y ffilm yw ei bod yn llawer, llawer, iawn rhy hir. Gellid o leiaf fod wedi tocio rhai golygfeydd yn sylweddol os nad hepgor ambell un yn llwyr a thrwy hynny wneud y ffilm yn uniad llawer tynnach a mwy effeithiol.
Ar wah芒n i hynny mae yma blethiad cwbl dderbyniol o hiwmor, dwyster, dychan a drama gyda digon o deimladrwydd i wlychu'r llygaid..
Geiriau cofiadwy Mae'r gwrthdaro rhwng dau ddiwylliant yn cael ei grynhoi pan yw Cristina yn cael ei hystyried ar gyfer ysgoloriaeth ysgol Americanaidd aruchel: "Un ai fe fydd hi'n od yno neu fe fydd yn rhaid iddi droi ei hun i fod fel hwythau," meddai Bernice.
Meddai Cristina am ei hunaniaeth: "Mae pwy ydw i yn dibynnu'n llwyr ar un peth - yr wyf yn ferch fy mam."
Meddai ei mam am Deborah: "Y tro hwn, synnwyr cyffredin ydi dy farn isel ohono ti dy hun."
Pan w锚l Deborah Cristina gyntaf: "Drychwch ar y plentyn yna - gallai wneud ffortiwn yn cario babis i eraill."
Meddai'r fam am ei meddwdod: "Fe roddais i'r gorau i yfed rai wythnosau yn 么l ond wnaeth neb sylwi - sy'n golygu fy mod i'n ymddwyn yn eithaf pan oeddwn i'n feddw , mae'n rhaid."
Ambell i farn Ni fu neb yn gor ganmol gyda gwefan Saesneg y 成人论坛 yn cyhuddo'r cyfarwyddwr o fod mewn tir neb rhwng comedi a drama ac heb wybod i ba gyfeiriad i fynd.
Cwynodd mwy nag un - yn annheg, si诺r o fod - at ddiffyg isdeitlau.
Haws deall y cyhuddiad fod Leoni yn goractio ond nid pawb fyddai'n cytuno 芒 hynny ychwaith.
Mae unfrydedd barn yngl欧n 芒 pherfformiad clodiw Cloris Leachman fel y fam yng nghyfraith feddw-ond-doeth fodd bynnag.
Cytunir hefyd y gellid fod wedi gosod mwy o her i Vega trwy ddatblygu cymeriad hynod unochrog Flor.
Gwerth mynd i'w gweld? Heb os.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|