Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006) Hir, gwlyb a dryslyd
Y s锚r
Johnny Depp, Orlando Bloom, Keira Knightley, Bill Nighy
Cyfarwyddo
Gore Verbinski
Sgrifennu
Ted Elliott, Terry Rossio
Hyd
150 munud
Sut ffilm
Ffilm hir, wleb a dryslyd sy'n dilyn o Pirates of the Caribbean - The Curse of the Black Pearl hynod boblogaidd - ond nid yw'n orfodol bod wedi gweld honno. Mae ffilm a saethwyd ochr yn ochr 芒 hon i ymddangos maes o law yn drydedd ran y gyfres.
Y stori
A hwythau ar fin priodi mae Will Turner golygus (Orlando Bloom) ac Elizabeth Swann hardd (Keira Knightly) yn cael eu cipio gan Cutler Beckett (Tom Hollander) sydd ym mhoced y cwmni rhyngwladol diegwyddor East India Company.
Fe'u defnyddir i geisio dwyn cwmpawd hud y m么r-leidr Jack Sparrow (Johnny Depp) sydd hefyd yn ceisio cadw gam ar y blaen i Davey Jones (Bill Nighy) sy'n codi bob hyn a hyn o ddyfnderoedd y m么r ar long y Flying Dutchman a'i chriw o eneidiau hen forwyr a gollwyd yn y dwfn.
Wedi agoriad hirwyntog mae pob rheswm stor茂ol yn diflannu rhwng y tonnau wrth i'r m么r-ladron, y cwmni rhyngwladol ac eneidiau hyll yr eigion redeg un ar 么l y llall yn chwilio nid yn unig am gwmpawd ond am yr allwedd i gist lle mae calon Defi J么s yn dal i guro!
Y canlyniad Cadwyn o ddigwyddiadau cyffrous un ar 么l y llall gyda'r llinyn stor茂ol sy'n eu cysylltu 芒'i gilydd yn un brau iawn.
Ond nid adrodd stori yw diben y ffilm hon ond tynnu sylw ati'i hun gyda dilyniant di-ball o ddigwyddiad dramatig.
I'r diben hwnnw, go brin i'r un o ystrydebau y math hon o stori gael ei hepgor: Mae yma frwydrau rhwng llongau ar y m么r. Mae yma ymladd 芒 chleddyfau ac a chyllyll a gynnau. Mae yma Kraken - anghenfil aml freichiog o'r dyfnderoedd sy'n gallu lapio'i hun am longau a'u tynnu i wely'r m么r. Mae yma ymlid a ffoi a dianc. Mae yma ganibaliaid llwglyd a dynion hyll wedi eu gorchuddio 芒 gwymon a chregyn ac wedi eu tynghedu i fyw mewn rhyw burdan dyfriog dan y tonnau.
Am rhyw gynllun yn y ffilm dywed Jack Sparrow: "Syml a hawdd i'w gofio - dwi'n i hoffi o." Trueni na ellid dweud hynny am y ffilm i gyd.
Ambell i farn Ychydig iawn o I么 H么 ac fe allech yn hawdd weld eisiau potel o rwm i ddygymod 芒'r ddwyawr a hanner meddai'r Daily Mirror sy'n rhoi tair seren i'r ffilm gan obeithio y bydd y drydedd ffilm yn y gyfres yn dal d诺r yn well.Mae gwefan Saesneg y 成人论坛 yn cyfeirio at hyd y ffilm gan gwyno fod yma olion "gormod o arian a dim digon o grebwyll" gan roi dim ond dwy seren. "Y Matrix Reloaded gyda chregyn m么r," ychwanegir.
Perfformiadau Orlando Bloom sydd dan lach pawb a fawr neb yn gweld unrhyw rinwedd yn ei actio. Fe'i disgrifiwyd gan un beirniad fel wardrob pecyn gwastad IKEA o actor a dywed adolygydd y Daily Mirror mai ef yw'r unig beth sydd ddim yn siomi yn y ffilm; "Oherwydd ein bod yn gwybod yn barod na allai ef actio".Wrth gwrs does yna ddim cuddio'r ffaith mai cyfrwng i Johnny Depp arddangos ei ddoniau yw'r ffilmiau hyn ac ef sy'n cael y j么cs gorau i gyd yn llafar ac yn weledol. Mae popeth yn troi o'i gwmpas ef: hynny o stori sydd yna a'r golygfeydd comig ac y mae yntau'n amlwg yn gwir fwynhau mynd trwy'i bethau yng nghymeriad y m么r-leidr camp a gr毛wyd ganddo. Pe byddai'r ffilm ychydig yn fyrrach fe fyddem yn cael mwy o fwynhad fyth ond hyd yn oed gydag actor mor hynod ac mor amryddawn a Depp mae'n bosib cael gormod o bwdin.
Un na chawn ormod ohono yw Bill Nighy fel Defi J么s - creadur sy'n hanner dyn a hanner octopws a'i wyneb glwstwr o fysedd neu dentaclau sugnog y creadur hwnnw. Ond y mae perfformiad Nighy - fel y byddai rhywun yn disgwyl - yn rhywbeth llawer amgenach na choluro da er mor drawiadol yw hwnnw.Mae Keira Knightly yno i edrych yn ddel - ac y mae hi'n gwneud hynny.
Nac anghofiwn y parot sy'n fwy o gymeriad na chymeriadau Bloom a Knightly efo'i gilydd.
Darnau gorauDepp fel rhyw keebab arr ddwy goes yn dianc oddi wrth y canibaliaid sydd nid yn gymaint am ei waed ond am ei gig!
Torri'r pen sy'n granc cragen.
Depp yn wynebu safn y kraken .
Rhai geiriau"Ai breuddwyd ydi hon?" "Na." "Roeddwn i'n meddwl. Pe byddai hi'n freuddwyd fe fyddai yna rwm hefyd.""Wnaetho ni i ladd o?" [Am y Kraken.] "Naddo - dim ond ei wylltio fo!"
Gwerth ei gweld? Bydd yn rheidrwydd i'r rhai a welodd y ffilm gyntaf. Ond byddwch yn barod i ymroi o'ch hamser.
|
Jessica Willis Castell-Nedd Es i i weld y film ddoe. Meddwl fod e'n bril. Doniol iawn, werth ei gweld yn siwr. A golyfeydd hardd o Johnny Depp ac Orlando Bloom!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|