Pictiwrs yn y Pyb yn gafael Nosonweithiau o ffilmiau byrion Cymraeg a Chymreig
Gwion ap Rhisiart yn mynd i'r pyb am ffilm! Heb yn wybod i lawer, bu criw o eithafwyr yn ymgasglu uwchben tafarn Dempsey's ger Castell Caerdydd ers rhyw ddwy flynedd.
Dros amser treiddiodd gafael a phoblogrwydd y clwb hwn cyn belled ag Aberystwyth, Abertawe a Bangor.
Daeth yn un o gonglfeini'r Eisteddfod Genedlaethol!
Ymgyrch yw hon gan gr诺p o gyfeillion i gynnig nosweithiau o adloniant sinematig Cymraeg i bobl ifanc Cymru.
Yr enw ar wefusau'r ffyddloniaid yw Pictiwrs yn y Pyb.
Yn bleser Mae'n bleser mynychu digwyddiad naturiol Gymraeg yng Nghaerdydd nad yw'n g么r cymysg neu'n noson gwis sy'n llawn o gyn athrawon Glantaf yn casglu arian at ryw gymdeithas neu'i gilydd.
Gan amlaf cawn ein diddori'n ddeheuig gan Gary Slaymaker fel MC yn cyflwyno cyfres amrywiol o ffilmiau byrion Cymraeg a Chymreig.
Mae sawl ffordd waeth o dreulio nos Fawrth oer yn mis Chwefror na gwylio ffilmiau tra'n sipian peint - a dyna pam fod Pictiwrs yn gymaint o bleser pan ddaw rownd.
Er nad Mr Slaymaker oedd yn cyflwyno'r Pictiwrs diwethaf cawsom 驳辞尘辫猫谤别 lawn mor hyddysg a meistrolgar yn Geraint Criddle gyda digonedd o amrywiaeth o ran cynnwys a genre i sicrhau noson arbennig.
Gan i gymaint o ffilmiau gael eu dangos mae'n amhosib mynd drwy bob un ohonynt, felly dyma ddetholiad a wnaeth argraff arnaf i yn bersonol er mwyn cyfleu naws y noson.
Byd o glai Animeiddiad clai ac heb ddeialog oedd The Separation ac yn ffilm hynod o dywyll a thrawiadol sydd wedi ennill gwobrau haeddiannol mewn gwyliau ffilm o amgylch y byd.
Yn ddeng munud o hyd mae'n dilyn stori dau frawd a anwyd ynghlwm a'i gilydd ond sy'n cael eu gwahanu pan yn ifanc.
Wrth i'r ddau heneiddio sylweddolant fod gwacter yn eu bywydau a hynny'n eu harwain at weithred eithafol sy'n iasoer - hyd yn oed o wybod taw lympiau o glai ydynt go iawn - er mwyn adfer eu brawdgarwch!
Bywyd merched Roedd Iawn Del? hefyd yn ffilm gofiadwy a phwerus sy'n sleisen fendigedig o fywyd merched ifainc mewn clwb nos yng Nghaernarfon, neu rywle digon tebyg.
Clywir y merched yn siarad am ba fois maent ar eu holau a pha ddiodydd maent yn yfed ac yn y blaen.
Tra bo'r trafodaethau ysgafn yn digwydd wrth iddynt ymbincio a rhoi ail g么t o lipstig o flaen y drych, mae'r gynulleidfa yn gweld fod merch arall mewn cyflwr digon bregus yn un o'r ciwbicyls nesaf atynt ac yn dioddef yn fawr.
Braf gweld ffilm Gymraeg sy'n gredadwy ac yn taclo problemau a materion sy'n effeithio ar bobl ifainc yng mewn cymdeithas naturiol Gymraeg yn Nghymru mewn ffordd gredadwy a sensitif.
Hiwmor Cymreig Mae Joanna Quinn yn adnabyddus mewn sawl gwlad bellach o ganlyniad i lwyddiant ei ffilm fer gyntaf, Girls Night Out (1986).
Derbyniodd ganmoliaeth animeiddwyr rhyngwladol fel Bill Plymton ac mae'r ffilm, Beryl - Y Briodas a'r Fideo yn waith trawiadol ac unigryw gyda'i hiwmor Cymreig cryf.
Rhwng dwy iaith Er nad oedd yn Gymraeg nac yn Gymreig hoffais Yu Ming is Ainm Dom yn fawr iawn oherwydd ei pherthnasedd ieithyddol.
Mae'n dilyn hogyn ifanc o China sy'n symud i Ddulyn ac yn cael anhawster ieithyddol mawr rhwng y Gantonaeg mae'n siarad a'r Saesneg mae'n ei chlywed o'i gwmpas.
Mae'r gynulleidfa yn cael ei harwain i holi pam nad yw'r bachgen wedi dysgu'r Saesneg cyn cyrraedd y wlad gan ddod i ddeall ar y diwedd ei fod yn rhugl yn y Gaeleg a than yr argraff mai dyna iaith Iwerddon.
Llond bol Wedi'r thema ieithyddol bu ffilm amlieithog o'r enw Bwyta Geiriau gan Dafydd Palfrey yn dilyn hynt a helynt gweinydd mewn t欧 bwyta prysur sy'n cynddeiriogi wrth i gwsmeriaid rhyngwladol gynnig cynghorion ystrydebol o'u diwylliant hwy iddo.
Er y diffyg cefnogaeth gan y Cynulliad i ffilmiau byrion yng Nghymru mae'n bleser gweld bod rhai yn dal i gael eu cynhyrchu ac mae'n wych gweld fod poblogrwydd y nosweithiau Pictiwrs yn y Pyb ar gynyddu gan eu bod hefyd yn gyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd mewn awyrgylch dra gwahanol i un Y Mochyn Du neu Glwb Ifor Bach.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|