The Terminal Lle'n byd i fynd
Y s锚r Tom Hanks, Catherine Zeta-Jones, Stanley Tucci, Chi McBride, Diego Luna
Cyfarwyddwr Steven Spielberg
Sgrifennu Tom Hanks, Catherine Zeta-Jones, Stanley Tucci, Chi McBride, Diego Luna
Hyd 129 munud
Sut ffilm Ffilm siwgwr a gw锚n gydag adlais o Forrest Gump gan Tom Hanks fel y prif gymeriad. Ffilm lle mae Spielberg yn cael gafael eto ar ei gynulleidfa yn dilyn cyfnod o ffilmiau braidd yn siomedig ganddo.
Elfennau Kafkaidd i stori sydd wedi ei sylfaenu ar stori wir sy'n un llawer iawn tristach a chyfareddol. Ffilm maes awyr ychydig yn wahanol.
Y stori Ar yr union adeg y mae Viktor Navorski yn hedfan o Krakhozia i'r Unol Daleithiau mae gwrthryfelwyr yn dymchwel llywodraeth ei wlad sy'n golygu bod ei basport a'i visa ef yn ddiwerth.
O'r herwydd ni all gael mynediad i'r Unol Daleithiau, ar y naill law, ac ar y llaw arall nid oes ganddo 'bapurau' sy'n ei alluogi i ddychwelyd adref ychwaith.
O ganlyniad, mae wedi ei ddal yn nhir neb biwrocratiaeth maes awyr JFK - y Terminal.
Mae'r ffilm yn dilyn ei gyfnod yno, y berthynas y mae'n ei meithrin gyda rhai o weithwyr distadl y lle a'i frwydr barhaus 芒 biwrocratiaeth ym mherson y pennaeth arolygu mewnfudiad, Frank Dixon (Stanley Tucci).
Yn sgil hyn oll mae'n syrthio mewn cariad 芒 morwyn awyrennau brydferth (Catherine Zeta-Jones) sy'n mynd a dod yn rheolaidd drwy JFK a'i bywyd carwriaethol yn stomp.
Y canlyniad Wnewch chi byth eto gwyno am orfod disgwyl yn hir mewn maes awyr gan fod The Terminal yn profi y gallai fod filwaith gwaeth arno chi!
Ond comedi ramantus, siwgwraidd, yw The Terminal yn ei hanfod er yn dychan rhywfaint ar fiwrocratiaeth.
Mae'n brawf hefyd nad ydi'r dychymyg bob amser mor ddyfeisgar 芒 bywyd go iawn gan fod hanes Merhan Karimi Nasseri, sydd wedi byw dan amgylchiadau tebyg ym maes awyr rhyngwladol Charles de Gaulle ym Mharis am 16 mlynedd, yn llawer, llawer, iawn tristach; yn llawer iawn mwy chwilfrydig ac yn llawer iawn mwy anghredadwy na digwyddiadau The Terminal.
Gwnaed ffilm am y digwyddiad trist hwnnw yn barod, Here to Where (2001) ond fel y dywedodd ei hawdur, Paul Berczeller a dreuliodd flwyddyn gyda Nasseri, go brin ichi ei gweld oni bai eich bod yn un o'i ffrindiau ef, cyn lleied o sylw a gafodd!
Y darnau gorau Nifer o olygfeydd trawiadol. Mae'r gwr o India sy'n cael hwyl o fopio'r llawr gymaint fod teithwyr yn llithro a brifo yn hwyl.
Teimladrwydd y 'cinio' gyda Zeta-Jones wedi ei ddifetha, fodd bynnag, gyda champau'r un cymeriad.
Ond, yn gyffredinol mae cyffyrddiad Spielberg a thannau teimladau ei gynulleidfa yn sicr.
Perfformiadau I raddau, cawl eildwym o Forest Gump gydag acen canoldir Ewrop a llais Peter Ustinovaidd a gawn gan Hanks ac er mai ef sy'n tynnu'r sylw gydol y ffilm ac yn cipio'n dychymyg gyda pherfformiad nodweddiadol o'i ddawn diamheuol, perfformiad Stanley Tucci sy'n rhagori fel y biwrocrat sy'n chwilio am ffordd i gael 'y broblem' hon oddi ar ei ddwylo a hynny heb dorri rheolau ei swydd.
Diddorol ei wylio'n dadfeilio wrth i'r berthynas rhyngddo ef a Viktor fynd yn fwyfwy rhwystredig ac wrth i bob adwy gael ei chau. Gwych.
Mae 'Ein Catherine Zeta-Jones Ni' yn mynd a dod drwy'r ffilm heb wneud fawr o argraff - ond heb wneud dim o'i le ychwaith.
Ond cymeriad llawn anghysonderau anfwriadol ydi Viktor, gwaetha'r modd. Weithiau'n gymaint diniweityn nad yw gweithredoedd eraill o'i eiddo yn gyson.
Gystal 芒'r trelar? Llawn cystal ond bod y ffilm yn fwy o ramant gomediol nag o hunllef biwrocrataidd.
Ambell i farn Does yna ddim llwybr canol; gyda rhai yn cael pleser diamheuol ond eraill yn groen gwydd o gywilydd drostynt oherwydd yr hyn a welant fel cyfogfa o sentiment.
"Mae'r Terminal fel sefyll am ddwyawr dan raeadr o chwd," meddai gwefan Saesneg y 成人论坛 sy'n gofidio i stori drist ac arswydus y dyn yn Charles de Gaulle gael ei throi yn ddim amgenach na stori dylwyth teg.
Ond mae eraill o'r farn fod The Terminal yn arwydd o Spielberg yn ail ddarganfod ei ddawn ryfeddol i swyno cynulleidfaoedd yn dilyn siom ymdrechion fel AI a Catch Me if You Can ac nid oes amheuaeth fod elfennau deniadol a gafaelgar yn The Terminal sy'n mynd i swyno miloedd wrth dynnu dagrau i'w llygaid.
Mae pawb sy'n dweud nad yw'r ffilm yn gwybod pryd i orffen yn iawn a phawb sy'n dweud ei bod yn rhy hir hefyd. Ond dydi hi ddim yn llusgo.
Rhyfeddod? Un o ryfeddodau'r ffilm yw pa mor sydyn y mae Viktor yn dysgu Saesneg - tybed oes gwersi yma i Nant Gwrtheyrn?
Gwerth mynd i'w gweld? Heb os - mae gan Spielberg ffisig at bob cyfog a bydd angen calon o garreg i gadw'r llygaid rhag gwlitho.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|