Vera Drake Gwraig gyffredin mewn byd cymhleth
Y s锚r Imelda Staunton, Phil Davis, Daniel Mays, Alex Kelly, Eddie Marsan, Peter Wight
Cyfarwyddwr Mike Leigh
Sgrifennu Mike Leigh
Hyd 125 munud
Sut ffilm Ffilm a enillodd wobr Bafta y cyfarwyddwr gorau, 2005, i Mike Leigh, a gwobr yr actores orau i Imelda Staunton am ei phortread o wraig gyffredin a'i gwasanaeth erthylu-stryd-gefn yn Llundain yn y pumdegau.
Y stori Gyda phaneidiau di-ri o de a'i m么r deimladrwydd mae Vera Drake (Staunton) yn cynnig erthyliad i ferched ifanc y pumdegau 'sydd mewn trwbwl' cyn pasio'r Ddeddf Erthylu.
Yn wraig a mam gyffredin mae'n gannwyll llygaid ei g诺r Stan (Phil Davis) a'i phlant, Sid (Daniel Mays) ac Ethel (Alex Kelly).
Nid erthylwraig stryd gefn arferol mo hon, fodd bynnag, gan nad yw'n codi t芒l am ei gwaith ac ni w欧r ei theulu ddim am y rhan hon o'i bywyd nes i erthyliad fynd o chwith a'r heddlu yn camu i mewn.
Y canlyniad Ffilm orau Mike Leigh hyd yn hyn. Dywedodd nad oedd yn fwriad ganddo gymryd ochr ar fater erthyliad ond ysgogi trafodaeth ar rywbeth sy'n parhau yn ddadleuol er gwaethaf ei gyfreithloni.
Mae'r cychwyn braidd yn araf a pherthyn rhywfaint o naifrwydd i'r syniad o bobl gyffredin = da, pobl ddosbarth canol = drwg ond mae'n amhosib peidio a chael eich hudo gan berfformiad Staunton.
Perfformiadau Pinacl gyrfa Staunton gyda Phil Davies mor ddibynadwy ag arfer.
Canolbwynt y ffilm yw dryswch Drake, ddiniwed a syml, yn cael ei dal gan amgylchiadau sydd y tu draw i'w hamgyffred.
Gystal 芒'r trelar? Heb weld un.
Yr ymateb Nid ffilm sydd at ddant pawb a bu rhai'n cwyno fod Vera Drake yn ormod o santes a bod y cymeriadau 'dosbarth canol' yn swnio fel pe byddent yn cymryd rhan mewn drama Noel Coward.
Ond mae'r beirniaid i gyd o'r farn fod hon yn ffilm gwerth ei gweld.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|