PS I Love You (2008)
厂锚谤: Hilary Swank, Gerard Butler, Lisa Kudrow, Kathy Bates, Harry Connick, Jr
Cyfarwyddo: Richard LaGravenese
Sgrifennu: Richard LaGravenese, Steven Rogers
126 munud.
Adolygiad Shaun Ablett
Mae'r ffilm h么n yn s么n am ddau berson sy'n briod ac yn byw yn yr Efrog Newydd, Gerry Kennedy (Gerard Butler) a'i wraig Holly (Hilary Swank).
Fodd bynnag, mae Gerry'n marw yn sydyn o dyfiant ar yr ymennydd gan adael Holly yn hynod o drist.
Fodd bynnag, toc wedi'r farwolaeth mae'n cael llythyron oddi wrth Gerry gyda rhyw orchwyl iddi ei chwblhau ym mhob un ohonyn nhw er mwyn ei chynorthwyo i ailafael yn ei bywyd a dygymod 芒 marwolaeth Gerry.
Un o'r gorchwylion hynny yw ymweld 芒 chynefin Gerry yn Iwerddon lle gwnaeth y ddau gyfarfod gyntaf.
Dyna a wna gyda thair o'i ffrindiau (Lisa Kudrow, Kathy Bates & Harry Connick Jr) gan ymweld 芒 rhieni Gerry a'r lleoedd y bu hi a Gerry yn eu mynychu.
Mae hyn yn fodd iddi weld sut fywyd gafodd Gerry pan oedd yn tyfu lan ac i ddelio a'i galar.
Nid oeddwn yn bl锚s iawn gyda'r ffilm hon er bod yna rannau emosiynol iawn a'r cymeriadau yn pwysleisio pa mor bwysig yw gariad a bod yn hapus.
Mae Gerard Butler yn eithaf da fel Gerry o gymharu 芒'i ran yn 300.
Braf ei weld yn gallu chwarae dau gymeriad mor wahanol.
Mae hon yn ffilm cwbl wahanol i'r arfer i Hilary Swank, hefyd ac mae ei pherfformiad yn dda iawn.
Mae'r cymeriadau eraill yn foddhaol hefyd gan blethu i'r cefndir fel bo'r prif actorion yn cael y sylw mwyaf.
Ffilm berffaith i bawb sy'n hoffi tipyn o emosiwn ond yn dipyn o 'chick flick'.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|