Ratatouille Llygoden gwerth ei hadnabod
Ratatouille (2007)
Y S锚r
Patton Oswalt, Ian Holm, Lou Romano, Janeane Garofolo, Peter O'Toole
Cyfarwyddo
Brad Bird
Sgrifennu
Brad Bird, Jan Pinkava
Hyd
98 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Unwaith neu ddwy bob blwyddyn mae ffilmiau'n ymddangos sy'n fythgofiadwy. Rhai mor ddoniol, rydych yn cofio rhannau bob dydd wedyn.
Un o'r rheini ydi Ratatouille, ffilm newydd Pixar sy'n llawn calon a hiwmor.
Stori yw am am lygoden fawr sy'n hoffi coginio. Nawr, rwy'n gwybod beth chi'n feddwl; nad ydy hyn yn swnio'r math o ffilm fydd yn plesio pawb. Fe gewch sioc ofnadwy.
Uchelgais Remy (llais Patton Oswalt), y llygoden fawr, yw bod yn brif gogydd, fel ei arwr Auguste Gusteau.
Mae'n cyrraedd Paris a bwyty ei arwr ond ers i Gusteau farw, nid ydy'r bwyd wedi bod gystal.
Y cymeriad doniol iawn arall ydi Linguini, cogydd newydd y bwyty ond, yn anffodus, ni all Linguini goginio dros ei grogi.
O'r herwydd mae perthynas ryfedd iawn yn tyfu rhwng y ddau a thra'n gweithio gyda'i gilydd rhaid iddyn nhw goginio bwyd digon blasus i greu argraff ar y beirniad bwyd creulon, Anton Ego (Peter O'Toole).
Mae'r ffilm yma, yn fy marn i, yn fwy na ffilm ddoniol i blant bach gan fod llawer mwy na hiwmor ynddi.
Mae yma stori bwysig am ddau gymeriad hollol wahanol yn ymuno 芒'i gilydd a dod yn ffrindiau da iawn gyda neges allweddol bwysig i'r stori, sef pa mor bwysig yw ffrindiau ac, weithiau, pam mae'n rhaid rhoi cyfle i bawb brofi eu hunain.
Anodd credu cymaint mae dulliau animeiddiedig wedi datblygu dros y blynyddoedd - ers dyddiau Toy Story er enghraifft - ac yn Ratatouille mae'r graffeg yn rhagorol.
Gobeithio y bydd Pixar yn gwneud llawer mwy o ffilmiau fel hon gan ei bod yn anodd credu y caiff neb lond bol ar Remy, y llygoden fawr y mae pawb yn ei charu.
Mae'r adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng 成人论坛 Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
|