Run, Fat Boy, Run (2007) Adolygiad gan Shaun Ablett
Y S锚r: Simon Pegg, Hank Azaria, Dylan Moran, Thandie Newton, Matthew Fenton
Cyfarwyddo: David Schimmer
Sgrifennu: Michael Ian Black, Simon Pegg
Dyma gomedi ramantaidd orau'r flwyddyn ac wedi ei chynhyrchu ym Mhrydain.
Mae'n s么n am berthynas dau berson. Pum mlynedd yn 么l, roedd Dennis Doyle (Simon Pegg) ar fin priodi ei sboner feichiog, Libby (Thandie Newton), ond fe ail feddyliodd a rhedeg bant.
Bellach, a'i fab, Jake, yn bump oed, mae'n edifar ganddo ond er ei fod yn gobeithio y bydd Libby yn ei gymryd yn 么l, mae ganddi hi gariad newydd, Whit (Hank Azaria).
Felly, mae gan Dennis dipyn o waith i berswadio Libby taw ef yw'r dyn iddi hi a phan ganfu bod Whit yn rhedeg ym Marathon Llundain mae'n penderfynu cystadlu yn ei erbyn.
Mae golygfeydd hynod ddoniol pan fo Dennis yn ymarfer ar gyfer y ras gyda help ei ffrind, Gordon (Dylan Moran), oherwydd o'i gymharu 芒 Whit does dim llawer o siawns gydag ef. Mae'n dew ac yn smocio tra bo Whit yn gwbl gyfarwydd 芒 rhedeg marathons.
Mae pethau'n edrych yn ddrwg iawn pan fo Whit yn gofyn i Libby ei biodi ddiwrnodau cyn y ras ac wrth iddynt gychwyn mae'r ddau yn ymladd a'i gilydd a Whit yn gorfod mynd i'r ysbyty.
Ond er nad oes cystadleuaeth bellach mae Dennis yn dal i redeg a chwblhau'r ras.
Mae hwn yn berfformiad bythgofiadwy gan Simon Pegg ac fe hoffais Dylan Moran yn chwarae Gordon hefyd.
Yr un modd, mae Hank Azaria yn dda iawn fel Whit mewn ffilm sy'n gymysgedd o ddoniolwch ac emosiwn.
Mae'n ffilm y bydd bron bawb yn ei mwynhau.
Hoffais hefyd daith emosiynol cymeriad Simon Pegg i brofi ei hunan.
Os bu ichi fwynhau Hot Fuzz byddwch wrth eich bodd gyda Run, Fatboy, Run hefyd.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|