The Incredible Hulk (2008) Mwynhau'r bywyd gwyrdd gwyllt
Y s锚r
Edward Norton, Liv Tyler, Tim Roth, Tim Blake Nelson, Ty Burrell.
Cyfarwyddo
Louis Leterrier
Hyd
114 munud
Sut ffilm
Gellid maddau inni am feddwl fod hon yr ail ffilm Hulk i'w gwneud o fewn y ddwyawr ddiwethaf.
Efallai i'r Anghhenfil Mawr Gwyrdd eu bygwth i'w gwneud.
"Os na wnewch chi ffilm arall amdanaf i fe fyddai'n flin. A wnewch chi ddim mo'n leicio i yn flin."
Neu, i'r gwrthwyneb, "Fe wnewch chi fy hoffi i flin."
Achos wedyn fe fyddai'r Cawr Afreolus Gyda'i Haen o Dristwch yn malu stafelloedd, taflu ceir a cherbydau a dianc rhag bwledi sy'n bownsio oddi ar ei gefn megis diferion glaw.
Beth bynnag mae pedair blynedd a mwy ers i Ang Lee ollwng ei Incredible Hulk ef i'r sinem芒u - a chael ei ddilorni am ei drafferth.
Na, yn 2003 doedd gan fawr neb air da i'w ddweud am The Incredible Hulk Lee gydag Eric Bana yn chwarae rhan Bruce Banner - y dyn tawel sy'n tyfu trwy'i ddillad a throi'n wyrdd pan yw'n cael ei wylltio.
Yr Hulk yw'r ail o greadigaethau y comic Marvel i gyrraedd y sgrin fawr eleni - ychydig wythnosau'n 么l cawsom ein siomi o'r ochr orau gan Iron Man ond yn wahanol i'r creadur hwnnw mae Hulkyn cymryd ei hun ormod o ddifrif gyda'i haen ystrydebol o Beauty and the Beast.
Y stori
Dewisodd Louis Leterrier beidio 芒'n llethu'n ormodol gyda'r manylion sut y cyrhaeddodd y gwyddonydd Bruce Banner (Edward Norton) y fath gyflwr gan gymryd yn ganiataol ein bod un ai wedi gweld y comics, y gyfres deledu, ffilm Ang Lee neu'r cyfan oll ohonyn nhw ac yn gwbl wybyddus 芒 chyflwr Banner.
Ar gychwyn y ffilm mae Banner yn cuddio trwy weithio mewn ffatri bop ym Mrasil - trueni nad oedden nhw'n gwybod am yr hen waith Coronona yn y Porth, Rhondda - ac yn derbyn hyfforddiant rheoli tymer gan rhyw gwrw sgleiniog sy'n medru gwneud i gyhyrau ei stumog symud fel tonnau'r m么r wrth anadlu!
Yn wir, mae pethau'n mynd yn dda i Banner a sawl diwrnod wedi mynd heibio heb i bobl ei wylltio'n wyrdd.
Ond unwaith i Leterrier ddchrau ffilmio, ni phery hynny'n hir.
Mae lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn cael gwynt lle mae o, a'r Cadfridog Thaddeus Ross (William Hurt) a'i filwyr yn codi pac am Frasil er mwyn rhwydo'r bwystfil a darganfod beth yw cyfrinach y gweddnewidiadau sy'n troi gwyddonydd cyffredin yn arf nerthol, afreolus.
I'w helpu y mae'n cael cymorth y ffieiddiaf a'r mwyaf atgas o filwyr (Tim Roth) sydd maes o law yn troi'n fwystfil ei hun a'r ffilm yn tynnu i'w therfyn gyda brwydr fawr rhwng y ddau - yr anghenfil da a'r bwystfil drwg - gydag adeiladau'n cael eu chwalu, cerbydau'n cael eu chwyrlio ac arfau'n ffrwydro.
Brwydr dyngedfennol yn nhraddodiad Beast a Predator ac yn y blaen gyda llawer o ysgyrnygu a dinoethi dannedd.
Cymhlethir yr elyniaeth rhwng yr helwyr a'u prae gan y ffaith fod Banner a'r Dr Elizabeth Ross (Liv Tyler), merch y Cadridog, yn gariadon. Hi yw'r ferch brydferth sy'n gweld haenau o brydferthwch yn yr anghenfil gwyrdd hyd yn oed a hynny'n peri gwrthdaro rhyngddi hi 芒'i thad.
Digwydd popeth ar fwrlwm gwyllt gyda Banner yn cael ei erlid yn ddidrugaredd o Frasil i'r Unol Daleithiau mewn awyrgylch o ddwyster anhygoel gyda dim ond y gwyddonydd waci sydd ag allwedd posibl i'w gyflwr (Tim Blake Nelson) yn cynnig rhywfaint o ysgafnder.
Daw y cyfan i fwcl gydag awgrym bod ffilm arall ar y gweill . . .
Rhai geiriau Mewn ffilm na fydd yn ennill gwobrau am ei deialog yr unig eiriau cofiadwy yw'r "You wouldn't like me when I'm angry" enigmatig - ond o safbwynt y gynulleidfa dyma'r unig adeg yr ydym yn ei hoffi ac mae rhyw bleser gwyrdroedig i'w gael o weld y rhai na wrandawodd ar y rhybudd yn cael eu haeddiant!
Y canlyniad Mae digon, gormod efallai, yn digwydd ond er bod hon yn well nag ymgais Ang Lee yn 2003 faint o ganmoliaeth yw hynny?.
Gwerth ei gweld Ar adeg pan fo cymaint o bwyslais ar fywyd gwyllt gwyrdd, pnawn efo'r teulu. Ond peidiwch a disgwyl gormod.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|