Batman Begins Hongian rhwng dau fyd
Y s锚r Christian Bale, Michael Caine, Liam Neeson, Cillian Murphy, Morgan Freeman, Gary Oldman, Katie Holmes
Cyfarwyddwr Christopher Nolan
Sgrifennu Christopher Nolan, David S Goyer
Hyd 140 munud
Sut ffilm Dydi Dolig ddim yn Dolig heb robin goch - ond mae Batman yn anrheg penigamp hyd yn oed heb ei Robin traddodiadol ef.
Yn y pumed ffilm Batman dychwelir i ddyddiau cynnar ymladdwr glew cyfraith a threfn er mwyn cael gweld beth yn union sydd dan y fantell a'r cymhellion tu 么l i'r mwgwd ystlum.
Cymysgedd lwyddiannus o stori am wewyr twf cymeriad a chyffro traddodiadol y frwydr rhwng da a drwg mewn dinas fawr sy'n gymysgedd o brif ddinasoedd yr Unol Daleithiau a pheth o'r ffilmio yn Chicago.
Y stori Darluniodd, Bob Kane, cr毛wr y Batman gwreiddiol, stori'r cychwyn mewn stribed o ddwsin o luniau ar gyfer Detective Comics yng ngwanwyn 1939.
Yn y stori honno, mae tad a mam Bruce Wayne yn cael eu lladd gan ladron stryd a hynny'n peri i'r plentyn amddifad hyfforddi ei hun yn wyddonydd dawnus ac ymarfer ei gorff i'r fath raddau y gall ymladd pob drwg ac anghyfiawnder tra'n gwisgo mantell a mwgwd sy'n gwneud iddo edrych fel ystlum.
Ar yr esgyrn sychion hynny mae Nolan a Goyer yn rhoi cryn dipyn o gig - er mwyn egluro yn y lle cyntaf pam y mabwysiadodd Bruce ddiwyg ystlum.
Yn bwysicach na hynny, mae eu Bruce hwy yn mynd ar gyfeiliorn cyn cael ei fabwysiadu gan ymladdwr doeth o'r enw Ducard (Liam Neeson) i fod yn ddisgybl i griw o frwydwyr ymladdgar yn erbyn y drwg yn y byd, The League of Shadows, sydd a'i bencadlys yn entrychion yr Himalayas - wel, lle arall?
Yno, dan arweiniad eu pennaeth, Ra's al Ghul (Ken Watanabe) caiff Bruce ei ymarfer yng nghelfyddyd ymladd fel y gall ef, fel hwythau, fynd allan i'r byd i ddinistrio a lladd y drwg er lles y da..
"Rhaid trechu'r rhai sydd heb rinwedd gyda grym nerthol," meddir gan ychwanegu fod y drwg yn ffynnu oherwydd parodrwydd cymdeithas i geisio eu 'deall'.
Addysgir Bruce i wynebu ei ofnau a'i euogrwydd ei hun ac "i godi ofn ar y rhai hynny sy'n pesgi ar yr ofnus".
Ond, er ei fod yn tyfu'n ymladdwr medrus dydi o ddim mor sicr yngl欧n 芒 daliadau lled-ffasgaidd ei hyfforddwyr ac mae ei ymadawiad 芒'r deml ar y mynydd yn un ffrwydrol iawn!
Ar ei ddychweliad i dref ei febyd, Gotham City, lle gwnaeth ei dad ariannog gymaint o ddaioni, gw锚l fod y lle yn nwylo'r drwg sy'n byw yn fras ar lygredd a chyffuriau a hynny'n peri iddo droi'n ymladdwr cudd dros ddaioni gyda chymorth yr un plismon gonest, Jim Gordon (Gary Oldman); dyfeisydd athrylithgar (Morgan Freeman) sy'n ein hatgoffa o 'Q' ffilmiau James Bond a'r gyfreithwraig a oedd yn gyfaill mebyd iddo, (Katie Holmes).
Y frwydr hon sy'n dod a'r ffilm i'w therfyn ond Batman, hyd yn hyn, heb ei Robin traddodiadol ond, yn hytrach, yn dibynnu ar hen fwtler y teulu i'w gynnal (Michael Cain).
Ond y mae yna awgrym o Robin posibl ar gyfer ffilm neu ffilmiau'r dyfodol os bydd rhai.
Y canlyniad Weithiau, mae ffilmiau antur a chyffro yn ymhonni bod 芒 rhyw sylwedd ynddyn nhw - ond dyma ffilm sylweddol sy fel pe byddai'n ceisio rhoi'r argraff nad yw ddim amgenach na'r ffilm antur arferol.
Ond mae sawl haen tu 么l i'r ffrwydradau, y cyffro, y dyrnu a'r rasio gwyllt.
Mae dehongliad Christian Bale o wewyr Bruce Kent wrth weld popeth sy'n dda a hyrwyddwyd gan ei dad dyngarol yn ddirdynnol fel ei wewyr, hefyd, wrth geisio gwahaniaethu yn ei feddwl rhwng y frwydr i ddial a'r frwydr am gyfiawnder.
Trwy geisio ymddangos yn arwynebol llwydda Batman Begins i ddigoni'r sawl sy'n chwilio am sylwedd yn ogystal 芒'r sglaffwyr cyffro. Nid bechan o gamp yw honno.
Y darnau gorau Fel mae disgwyl y dyddiau hyn, mae'r nifer o olygfeydd ffrwydrol ac ymladdfeydd dwrn wrth ddwrn yn mynd a gwynt rhywun.
Er yn atgoffa rhywun o'r olygfa yn Spiderman 2 mae'r ymdrech i atal taith bendramwnwgl y tr锚n i ddistryw yn llawn tyndra gwirioneddol.
Perfformiadau Heb os mae Christian Bale yn rhagori fel yr arwr ei hun ac mae'n ffodus yn yr actorion gwiw eraill sy'n cyfrannu at y ffilm.
Neb yn rhagorach na Morgan Freeman fel y 'Q' o ddyfeisiwr, Lucius Fox.
Yn y pegwn arall mae Cillian Murphy yn ddihiryn heb ei ail; ac mewn gwrthgyferbyniad llwyr, ni ellid gwell na Gary Oldman fel yr unig blismon gonest sydd ar 么l yn Gotham City.
Mae min hefyd i berfformiad Liam Neeson.
Rhai geiriau "Yr wyt ti wedi dysgu cuddio dy euogrwydd gyda dicter - fe wna i dy ddysgu di ei wynebu."
"Y mae cyfiawnder yn ymwneud a chytgord - ffordd o wneud i ti dy hun deimlo'n well ydi dial.""Cadw'r bobl ddrwg mewn cyfoeth a'r bobl dda mewn ofn."
"Pam 'rydym ni'n syrthio? Er mwyn dysgu codi'i fyny wedyn."
Gystal 芒'r trelar? Yn rhoi mwy na'r rhuthro a chyffro awgryma hwnnw.
Ambell i farn Mae'r ganmoliaeth yn eithaf cyffredinol a'r beirniaid wedi hoffi ymrafael Batman ag ochr ddu ei gymeriad
Tipyn o hanes Er bod pawb yn cyfeirio at Batman Begins fel y bumed ffilm Batman mae mwy na hynny o hanes sinem芒idd i Batman mewn gwirionedd.
Fe'i gwelwyd y sgrin fawr gyntaf mewn dwy stori gyfres yn cael ei chwarae yn 1943 gan Lewis Wilson ac wedyn, yn 1949, gan Robert Lowery.
Cafodd y cymeriad hwb unwaith eto mewn cyfres deledu rhwng 1965 a 1967 yn cael ei chwarae gan Adam West gyda Burt Ward yn Robin - gyda'r geiriau Pow! Kerrunch! a'u tebyg yn ymddangos ar y sgrin gyda phob peltan a dyrnod. Yn 1989 gwelwyd Batman ar y sgrin fawr unwaith eto gyda dwy ffilm gan Tim Burton yn cael eu dilyn gan ddwy arall gan Joel Schumacher gyda Michael Keaton a George Clooney yn gwisgo'r fantell - ond go brin y gellid dweud i'r ffilmiau hynny fod yn yr un cae a hon ac yn sicr doedden nhw ddim yn cynnig cymaint o waith i'r cil 芒 Batman Begins.
Cysylltiadau Cymreig! Yn Hwlffordd, Ionawr 30, 1974, y ganwyd Christian Bale - ei dad yn beilot a'i fam yn ddawnswraig. Mewn un cyfweliad dywedodd fod y bwthyn lle'i ganwyd ar ochr clogwyn ac angen gyrru trwy ddau gae o datw i'w gyrraedd!
Ond yn Lloegr y treuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod gan symud wedyn i'r America.
Ymddangosodd yn Empire of the Sun ac American Psycho
Cadwch eich llygaid yn agored hefyd am Spencer Wilding chwe troedfedd saith modfedd o'r Rhyl. Yn bencampwr bocsio traed Prydain y llynedd mae o'n un o ymladdwyr Brodyr y Cysgodion.
Cynt, bu'n fleidd-ddyn yn y Prisoner of Azkaban ac yr oedd iddo ran yn The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Wedi gadael ysgol bu'n astudio peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Llysfasi.
Gwerth mynd i'w gweld? Heb os. Bydd y CD yn rheidrwydd hefyd pan fydd ar gael.
|
|