Christmas with the Kranks Nadolig llawen i anoddefgarwch a chydymffurfiaeth!
Christmas with the Kranks
Y s锚r Tim Allen, Jamie Lee Curtis,
Cyfarwyddwr Joe Roth
Sgrifennu Chris Columbus - yn dilyn nofel John Grisham, Skipping Christmas. Bu'n rhaid newid y teitl ar gyfer y ffilm rhag i bobl gymysgu 芒 Surviving Christmas, Ben Affleck
Hyd 98 munud
Sut ffilm Ffilm Nadolig nad yw ddim gwell na dim gwaeth na Bad Santa, Polar Express a Surviving Christmas.J么cs ystrydebol am oleuadau Nadolig yn chwythu, pobl yn cwympo o ben to ac yn colli'r ham olaf yn y siop.
Y stori Gyda'u merch Blair (Julie Gonzalo) oddi cartref dros y Nadolig mae Luther Krank (Tim Allen) yn perswadio'i wraig, Nora (Jamie Lee Curtis), i hepgor dathlu'r 诺yl a gwario'r chwe mil o ddoleri maen nhw'n ei wario ar y Nadolig i brynu mordaith i'r Carib卯.
Yn dilyn y cyhoeddiad, digon call, hwn daw'r ddau yn esgymun yng ngolwg eu cymdogion sy'n eu herlid, eu sarhau a'u bwlio am droi eu cefnau ar y Nadolig traddodiadol.
Yna, a hwythau erbyn hyn yn wahanglwyfion cymdeithasol mae Blair yn ffonio, y noson cyn y Nadolig, i ddweud ei bod hi'n dod adref beth bynnag er mwyn i'w chariad o Beriw gael blasu o Nadolig traddodiadol Americanaidd y Kranks a mynychu parti enwog Mrs Krank.
Mae gweddill y ffilm yn ymwneud ag ymdrech wyllt a gwallgof i drefnu mewn oriau Nadolig y byddai wedi cymryd wythnosau i'w gael i fwcwl ar flwyddyn arferol.
Sicrheir llwyddiant wrth i gymdogion oedd gynt yn elyniaethus ddod i'r adwy ac mae'n Nadolig Llawen i Bawb.
Y darnau gorau Y gath wedi rhewi.
Perfformiadau Mae Allen yn dda fel yr Americanwr maestrefol a Curtis hithau fel y fam sgrechlyd sy'n gor ymateb i bob sefyllfa.
Gystal 芒'r trelar? Mae'r j么cs a'r stori i gyd yn y trelar.
Ambell i farn Does yna neb yn hael iawn ei ganmoliaeth. Yn wir, mae llawer yn gweld elfennau digon atgas yn y ffilm gyda geiriau fel ffasgaidd yn cael eu defnyddio i ddigrifio ymateb cymdogion - dan arweiniad bwli o'r enw Vic Frohmeyer (Dan Aykroyd) - i safiad Luther yn erbyn holl wastraff difeddwl yr 诺yl.
Hunllef o gydymffurfio meddai beirniad arall
Y canlyniad Siomedig. Dydi'r 'wers' yngl欧n 芒 "gwir ystyr cymuned" ddim yn un sy'n argyhoeddi wrth i'r ffilm droi'n anthem i anoddefgarwch. Yn wir, mae rhywbeth yn atgas yn yr ysbryd cymunedol sy'n cael ei ddyrchafu gymaint yma.
Does yna ddim, ychwaith, ddigon o hiwmor i gynnal diddordeb rhywun hyd yn oed yn ystod y rhuthro slapstig.
Rhai geiriau "Mae pobl mewn cymuned yn parhau i gynnal ei gilydd er gwaetha'r ffaith fod un ohonyn nhw wedi ymddwyn fel plentyn wedi'i ddifetha."
Gwerth mynd i'w gweld? Dim ond os yr ydych yn anaeddfed iawn a dim byd gwell i'w wneud gennych yn 么l un beirniad. Ond o wthio'r elfennau annymunol a'r diweddglo siwgwrllyd i gefn y meddwl mae yma ambell i olygfa sy'n goglais.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|