I am Legend Brwydr unig i adfer dynoliaeth
Y s锚r
Will Smith, Alice Braga, Dash Mihok, Salli Richardson, Willow Smith
Cyfarwyddo
Francis Lawrence
Sgrifennu
Mark Protosevich, Akiva Goldsmith
Hyd
100 munud
Adolygiad Aled Edwards
Am eiliad yn ystod gweld y ffilm hon cefais fy hun yn edrych ar res gyfan o wylwyr yn ysu ac yn dyheu 芒'r holl enaid i weld Robert Neville (Will Smith) a'i gi Sam yn dychwelyd yn ddiogel i'w cerbyd.
Roedd yn rhaid dychwelyd cyn iddi nosi ar strydoedd iasol Efrog Newydd wedi i'r hil ddynol gael ei difa o'r bron gan firws marwol a grewyd gan feddyg, Dr Alice Crippen (Emma Thompson), i wella cancr.
Cyn machlud haul O'm blaen roedd y Robert Neville cyhyrog wedi ei anafu ac yn methu codi mewn pryd fel yr oedd yr haul yn machlud gan ganiatau rhyddhau c诺n mwyaf uffernol Efrog Newydd apocalyptaidd a oedd yn awchu dod allan liw nos i'w ddifa ef ynghyd 芒'r Sam ffyddlon.
Ond eiliad oedd gennyf yn sbar i syllu ar y rhes o wylwyr gan fy mod innau hefyd ar bigau drain i weld y ddau yn dychwelyd yn ddiogel.
Yn rhyfeddol, fe lwyddodd y ffilm i'm cael i hidio am dranc y ci, Sam, a oedd yn gymaint cyfaill i'r Robert unig ei fyd.
Rhaid imi gyfaddef, nid oeddwn yn disgwyl ymateb o'r fath, ond mae'r ffilm hon yn un wirioneddol dda.
Trydydd addasiad Addasiad arall ydyw, yn dilyn The Last Man on Earth (1964) gyda Vincent Price a The Omega Man (1971) gyda Charlton Heston, o nofel Richard Matheson a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1954.
Cryfder actio Will Smith - sy'n llawn emosiwn, angerdd a pathos - sy'n peri i'r gwyliwr falio beth sy'n digwydd i'r unig gymeriad unig a'i gi.
Mae mwy felly i'r ffilm hon na hanes dwl brwydr y dyn olaf ar wyneb daer yn erbyn sombis y nos.
Cyfarwyddo cywrain Y mae'r ffilm hefyd yn cael ei chynnal yn dda gan gyfarwyddo cywrain Francis Lawrence. Y gofal hwn sy'n cynnal y rhan gyntaf y gwaith, yn fwyaf arbennig, lle mae'r manylyn lleiaf ynghylch byw dyddiol Robert Neville yn dwyn arwyddocad.
Fel cyfeiriadau bachog mewn stori fer y mae'r manicin wrth ddrws y siop fideo, lle nad oes neb ar 么l i gynnal sgwrs, yn mynnu ei le gan awgrymu ei fod yn bwysig yn y ffilm. Gwyliwch y manicin meddwn innau.
Y mae'r ffilm wedi ei gosod yn 2012. Yn 2009, fe drodd y "Krippin Virus" o eiddo y Dr Alice Krippin yn farwol gan heintio pobl ac anifeiliaid.
Erbyn diwedd y flwyddyn honno yr oedd 90% o boblogaeth y byd wedi eu lladd. Yr oedd 9% wedi eu heintio ond yn dal yn fyw (y sombies). Gadawyd 1% wedi eu heintio ond yn iach (pobl fel Neville).
Adweithiodd y 9% i ymbelydraeth UV gan beri iddyn nhw geisio byw yn y cysgodion ac osgoi'r haul.
Ceisio meddyginiaeth Y mae'r Dr Robert Neville yn gwneud ei orrau i ganfod ffordd o wella'r rhai a heintiwyd.
Cyn i'r drychineb fynd i'w heithaf roedd Neville yn perthyn i luoedd arfog America ac ar flaen y gad yn ymateb i'r haint.
Darlunnir hyn gydol y ffilm drwy gyfres o 么l-fflachiau.
O ddirnad datblygiad o bwys yn ei waith ymchwil mae'n mynd ati i gipio sombie benywaidd i arbrofi arni ac wedi hyn, fe welodd ei chymar yn dda i ddal cymeriad Will Smith yn yr un modd.
Dau arall O'r funud honno mae'r ffiilm yn carlamu ymlaen yn gyflym gan gyflwyno dau gymeriad newydd sy'n gweld yn dda, ac mewn da o bryd, i achub Robert Neville.
Clywodd Anna (Alice Braga) a bachgen o'r enw Ethan (Charlie Tahan) negeseuon Robert Neville ar y radio a phenderfynu ei geisio wrth deithio i Vermont lle dywedwyd bod cymuned o bobl a oedd wedi goroesi.
Y mae'r brwydro a geir liw nos rhwng y sombies a gweddillion yr hil ddynol yn dwyn y ffilm i uchafbwynt anturus ac addas.
Yn Vermont, ar ddiwedd y ffilm, y mae gwaith Neville, yn nhermau achub y ddynoliaeth, yn cael ei gydnabod. Hynny sydd yn ei sefydlu'n chwedl - yn "Legend".
|
|