G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn Gwersi i Gymru Adroddiad Caron Wyn Edwards o 糯yl a lle gwelwyd eisiau ffilmiau Cymraeg
Y tro diwethaf i mi fod drosodd yn Nulyn oedd ar drip gyda Phrifysgol Caerdydd ar gyfer g锚m rygbi ryngwladol.
Afraid dweud na welwyd llawer o'r ddinas - ond dros wythnos hanner tymor y gwanwyn 2005, roedd gen i reswm tra gwahanol dros ymweld 芒'r Ynys Werdd.
Roeddwn yno i fwynhau mwy o gelfyddyd na Guinness, gan ei bod yn 糯yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn.
Felly daliwyd tr锚n o Fangor i Gaergybi cyn camu ar gwch y Dublin Swift a fyddai'n ein cyrchu i'r Brifddinas ei hun yn hytrach na'r cyrion.
Nid y profiad mwyaf pleserus. A dweud y gwir, roedd y croesi'n hunllef ac er nad ydw i'n dueddol o ddioddef o s芒l m么r, dydw i ddim chwaith erioed wedi bod mor hapus o gyrraedd nunlle!
Ond wedi i'r tir sadio dan draed, buan yr anghofiais am yr hyn a fu ac edrych ymlaen at yr hyn a fyddai.
Trydydd tro Parhai'r 糯yl rhwng Chwefror 11 a 20 a dyma'r trydydd tro iddi gael ei chynnal er y byddai rhywun yn taeru iddi fod yn digwydd ers degau o flynyddoedd.
O ddigwyddiad cymharol newydd ac ifanc, bu iddynt lwyddo mewn denu enwau cydnabyddedig yno i gefnogi.
Fel ag y dyweda un o drefnwyr yr 糯yl, Nick Costello,
"Yr hyn sy'n allweddol yn ein gweledigaeth ni o'r 糯yl yw ei bod yn mynd ymhellach na dim ond y profiad o fynd i'r sinema."
Ychwanegodd, "Ein nod ni yw denu cymaint o griw cynhyrchu ac actorion a phosib i gyflwyno eu ffilmiau ac i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r cynulleidfaoedd."
Yn llwyddiannus Yn sicr, gwnaethpwyd hyn yn llwyddiannus a chafwyd cwmni sawl enw adnabyddus.
Ymysg yr uchafbwyntiau i mi roedd dangosiad o Cinegael Paradiso - Once Upon a Time in Connemara, oedd yn edrych ar esblygiad y byd ffilmiau yn Iwerddon tros y blynyddoedd diwethaf, a sypreis yr wythnos - premiere Ewropeaidd o ffilm John Maybury, The Jacket, gydag Adrien Brody, Kiera Knightley, Jennifer Jason Leigh, Kris Kristoffersson, Brad Renfro, Kelly Lynch, Daniel Craig, Steven Mackintosh, Brendan Coyle a Mackenzie Phillips.
Yn fwy o syndod fyth oedd ymddangosiad y g诺r gwadd, y cyfarwyddwr ei hun, John Maybury.
Saith categori Gellid rhannu'r ffilmiau i saith categori gwahanol ar y cyfan - O Canada oedd yn gwneud i rywun sylweddoli fod y wlad honno yn dylanwadu llawer mwy nag a feddylid ar ffilmiau cyfoes.
Yn wir, mae cymaint o gwmn茂au cynhyrchu Americanaidd yn teithio dros y ffin i ffilmio fel bod Canada wedi cael ei alw'n Hollywood North gan bobl yn y diwydiant.
Ymysg y ffilmiau yn y categori hwn roedd Falling Angels Scott Smith, Daniel Roby a'i La Peau Blanche a Velcro Ripper gyda Scared Scared.
Dyma rai o'r ffilmiau a ymddangosodd yng Ng诺yl Ffilmiau Toronto, ac roedd llawer o'r cyfarwyddwyr yn bresennol ar y noson.
Ffilmiau Gwyddelig Roedd y categori New Irish Film Showcase yn gwneud yr union beth a ddywedir, yn hybu ac yn dathlu'r don newydd ym myd ffilmiau yn Iwerddon.
Er bod llai o ffilmiau Gwyddelig yno eleni o gymharu 芒'r llynedd, fe gafwyd y pleser o weld ffilm gyntaf Pearse Elliott gyda The Mighty Celt, ail ffilm lawn Fintan Connolly Trouble with Sex, ymdriniaeth unigryw Ciaran O'Connor o'r cyfrwng gyda Capital Letters a gweledigaeth ffraeth y sgriptiwr-gyfarwyddwr, Terry Loane, yn Mickybo & Me.
Yn ogystal 芒 hyn roedd ffilmiau byrion yn rhan o'r arlwy hefyd.
Ffilmiau annibynnol Canolbwyntio ar ffilmiau annibynnol oedd States of Independence, a pherlau diweddar fel Garden State gyda Zach Braff a Natalie Portman, tra bo Denmark yn cymryd cipolwg ar ffilmiau'r wlad honno ddeng mlynedd wedi iddynt gyflwyno'r dechneg Dogme i'r byd.
Ffilmiau dogfen Roedd digon o amrywiaeth yng nghategori'r ffilmau dogfen Real to Reel, gyda chynhyrchiadau fel Andrew and Jeremy Get Married gan Don Boyd yn cael eu dangos ochr yn ochr 芒 doniolwch Incident at Loch Ness.
Tra bo'r cynta'n archwilio'r pwnc o briodas rhwng dau neu ddwy o'r un rhyw, mae'r ail yn trafod yr hyn sy'n digwydd pan fo'r cyfarwyddwr Almaeneg Werner Herzog, yn penderfynu gwneud ffilm am anghenfil mytholegol!
Yn ogystal 芒'r categor茂au eraill 21 Years of Tartan ac Asian Horizons, cafwyd retrospectif o waith yr auteur dawnus Gianni Amelio.
Roedd disgwyl i'r dyn ei hun ymweld 芒'r 糯yl, ond yn anffodus bu ei frawd mewn damwain car ddifrifol a bu'n rhaid iddo deithio i Galabria yn yr Eidal at ei deulu.
Trefnus a phrydlon Mae gan y Gwyddelod enw am fod ag agwedd andros o laissez faire, ond ni chafwyd unrhyw awgrym o hyn gydol yr wythnos. Roedd popeth yn drefnus ac yn brydlon, a phob ffilm yn dechrau pan ddylai.
Dangoswyd y ffilmiau mewn pedwar lleoliad tra gwahanol gyda chwarter y ffilmiau'n cael eu dangos - fel sy'n digwydd yn ystod G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Cymru - yn yr UGC, cyfran arall yn The Savoy, rhai eraill yn The Screen a'r gweddill yn yr Irish Film Institute.
Roedd y lleoliadau hyn yn pendilio o faint sylweddol yr UGC i The Screen, lle a ddisgrifiwyd gan ffrind fel bod yn "debyg i bictiwrs Porthmadog." Hynny yw, yn eithaf bach a chyntefig!Wisgi'n hyrwyddo Llwyddodd trefnwyr yr 糯yl hefyd, i ddenu un o frandiau mwyaf Iwerddon i'w hyrwyddo. Nid Guinness, ond wisgi Jameson's.
Wn i ddim os mai dyma oedd yn rhannol gyfrifol am ddenu'r cynulleidfaoedd, ond roedd bron i bob ffilm yn llawn at yr ymylon, ac roedd yn rhaid archebu tocynnau i'r rhai mwyaf poblogaidd ddyddiau ynghynt.
Mae'n debyg i lawer o bobl fanteisio ar eu tocyn tymor am 100 Ewro.
Mae hyn yn gamp ynddo'i hun, a dylid cymeradwyo'r trefnwyr. Disgwylir wrth gwrs, i ffilmiau Americanaidd fel The Life Aquatic With Steve Zissou gan Wes Andersen, ddenu cynulleidfa - buasai unrhyw ffilm gan gyfarwyddwr y Royal Tennebaums sy'n brolio cast o Bill Murray (Lost in Translation), Cate Blanchett (Elizabeth, Veronica Guerrin), Anjelica Huston (Buffalo 66 a Willem Dafoe, yn sicr o ddenu twr o bobl.
Anos yw cael - i ddefnyddio term y diwydiant - 'bums on seats' ar gyfer ffilmiau llai ac annibynnol.
Ac ni chafodd y ffaith ei fod ar gyfer pobl deunaw oed a throsodd ddim effaith niweidiol ar yr ymateb. Os rhywbeth, ymddengys i'r penderfyniad fod yn un buddiol i'r 糯yl.
Gwers i Gymru Yn hyn o beth, credaf y gallwn ni fel Cymry, ddysgu llawer gan y Gwyddelod.
Roedd ymwybyddiaeth gref o'r 糯yl ledled y ddinas, a phresenoldeb posteri a deunyddiau hyrwyddo o gwmpas y lle'n llawer mwy amlwg na'm profiad i o'r 糯yl Ffilmiau yng Nghaerdydd.
Siom arall a brofais yn Nulyn, diffyg presenoldeb unrhyw ffilm Gymreig.
Pob gwlad - ond Cymru Gyda chynrychiolaeth o bron bob gwlad Ewropeaidd arall - boed fach neu'n fawr - roedd yn bechod na fachwyd ar y cyfle i gyflwyno gweledigaeth y Cymry i'r byd.
Mae gwyliau wedi mynd mor boblogaidd yn ddiweddar, dylem ni fel Cymry allu cynhyrchu o leiaf un ffilm Gymreig y flwyddyn. Mae digon o dalent - dim ond i'r pwerau mawrion dyrchu'n ddwfn i'w pocedi am nawdd.
Os na ddigwydd hyn, bydd ein cymdogion yn Ewrop yn llamu o'n blaenau yn y diwydiant, a dwi'n amau'n gryf y caiff effaith negyddol ar y cyfryngau gweledol eraill yma hefyd - yn bennaf oll yteledu.
Un peth sy'n sicr, fodd bynnag. Byddaf yn mentro ar fwrdd y llong unwaith yn rhagor yr adeg hon y flwyddyn nesaf, er mwyn mwynhau'r arlwy G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn 2006 - hynny ag ambell i wydraid o'r stwff du wrth gwrs!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|