The Only Clown in the Village All Our Sons - Fallen Heroes of 9/11
Adolygiad gan Gwyn Griffiths Dwy ffilm ar ddau drychineb, ond yn cymryd golwg wahanol iawn ar y trychinebau hynny, yw The Only Clown in the Village aa All Our Sons - Fallen Heroes of 9/11 a ddangoswyd ddydd Llun, Gorffennaf 25, yng Ng诺yl Ffilm Ryngwladol Cymru Ddu yng Nghaerdydd.
Yr unig glown Kingsley Perera yw'r unig glown o dras Asiaidd cofrestredig ym Mhrydain.
Ganwyd a magwyd ei rieni yn Colombo, Sri Lanka, cyn dod i fyw yn Abertawe yn y Pumdegau ac mae acen Gymreig Kingsley'n yn gryf a phendant.
Pan glywodd Kingsley am drychineb y tsunami ddydd G诺yl San Steffan, paciodd ei fag a'i offer a throi am wlad ei dadau. Gweithred ryfedd ar yr olwg gyntaf.
Ond y funud y cyrhaeddodd arfordir dwyreiniol yr ynys gwisgodd ei ddillad clown amryliw a dechrau perfformio mewn ysbytai, ysgolion heb-do a chartrefi plant amddifad heb welyau.
Ymwelodd ag ysgol yn ardal y Tamils, sydd wedi bod yn rhyfela yn erbyn llywodraeth yr ynys mewn brwydr am hunanlywodraeth.
Gw锚n a llawenydd Daeth a gw锚n a llawenydd i wynebau plant ac oedolion a gollodd deuluoedd a chyfeillion a chartrefi yn y trychineb.
Yn ogystal 芒 difyrru'r plant ac ymweld 芒 pherthnasau, bu'n sgwrsio gyda gwirfoddolwyr, amryw ohonynt o wledydd Llychlyn, a chydag oedolion anhapus 芒'r arafwch i gael pethau'n 么l i ryw fath o drefn.
Mae'r ffilm, a wnaed gan gwmni Undercurrents ar gyfer Community Channel Sky, yn gymysgedd o drueni a dinistr ar ynys ryfeddol ei harddwch naturiol.
Ac yng nghanol y cyfan mae Kingsley, ei acenion Cymreig a'i gampau'n cynnau ennyd o lawenydd yn wynebau rhai sy'n llusgo byw drwy'r dinistr.
Profiadau 9/11 Yng nghanol cyflafan Medi 11, 2001, bu farw nifer fechan o ddynion t芒n croenddu Efrog Newydd.
Yn All Our Sons - Fallen Heroes of 9/11, ffilm ddogfen a gynhyrchwyd gan Lightwave Pictures ar gyfer Sianel Deledu Gwasanaeth Cyhoeddus yr Unol Daleithiau, mae perthnasau'r rhai a fu farw yn rhannu'u hatgofion a'r hyn a wyddant am brofiadau'r gw欧r a gollwyd.
Bychan oedd eu nifer oherwydd gwasanaeth t芒n Efrog Newydd yw'r lleiaf amrywiol o ran hil o holl weithlu'r ddinas.
Mewn dinas lle mae hanner y boblogaeth yn ddu neu ethnig, mae 93 y cant o ddynion a merched y gwasanaeth t芒n yn wyn.
Brwydro'n galed Yr oedd y dynion fu farw wedi gorfod brwydro'n anarferol o galed i gael eu derbyn i'r gwasanaeth ac, yn amlwg, wedi dioddef llawer o wawd eu cydweithwyr croenwyn yn ystod eu gyrfaoedd.
Roedd hynny'n ychwanegu at chwerwder y golled.
Dro ar 么l tro clywsom am rieni yn s么n am falchder eu bechgyn o fod yn gweithio yn y gwasanaeth t芒n, yn cofio plant na fynnent ddim byd mewn bywyd ond bod yn ddynion t芒n.
A'u balchder o wybod am ddewrder eu bechgyn.
Stori ac atgofion cyffredin - nes iddynt gael ei dal yn nhrychineb Canolfan Masnach y Byd.
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am 糯yl Ffilm Cymru Ddu 2005
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|