The Devil Wears Prada Draig filain yn ennill ein calonnau
Y s锚r
Meryl Streep, Anne Hathaway, Emily Blunt, Stanley Tucci, Adrian Grenier
Cyfarwyddo
David Frankel
Sgrifennu
Aline Brosh McKenna- wedi ei sylfaenu ar nofel gan Lauren Weisberger
Hyd
109 munud
Sut ffilm
Ar yr olwg gyntaf, ffilm sy'n dychanu'r byd ffasiwn rhyngwladol ond mewn gwirionedd sy'n gyfrwng i Meryl Streep wefreiddio fel draig fustlog, filain ei thafod, sy'n fwy pigog na i芒r ori.
A dydi hi ddim yn codi ei llais unwaith i gyflawni hynny.
Ffilm heb ei hail i'r sawl sy'n mwynhau gwylio bitsh ar waith!
Y stori
Er mwyn ceisio hyrwyddo ei gyrfa newyddiadurol mae Andrea [Andy] (Anne Hathaway) yn ymgeisio am swydd gyda'r cylchgrawn Runway - Vogue dan enw arall - dan olygyddiaeth y ddraig Miranda Priestly (Meryl Streep) sy'n ei phenodi er ei bod o ran pryd a gwedd a 'i ffordd o wisgo yn gwbl anaddas ar gyfer y swydd.
O'r herwydd daw Andrea yn destun gwawd ymhlith ei chydweithwyr yn arbennig ei mistres uniongyrchol Emily (Emily Blunt) sydd wedi ei sugno'n llwyr i fyd ffasiwn a Sioe Ffasiwn Paris yn uchafbwynt ei blwyddyn.
Wrth gwrs, mae Andrea hithau yn cael ei sugno a'i gweddnewid yr un modd wrth geisio plesio Miranda ac ateb ei holl ofynion afresymol - a hynny'n effeithio nid yn unig ar ei chymeriad ond ar ei bywyd cyffredin ac ar ei pherthynas hapus a'i chariad yr un mor gyffredin ac agos i'w le.
Sut y bydd hi'n dygymod 芒 hyn yw'r cwestiwn mae'n ffilm am ei ateb.
Y canlyniad
Ffilm sy'n dibynnu bron yn llwyr ar berfformiad mawreddog Meryl Streep a phan nad yw hi ar y sgr卯n mae tuedd i golli diddordeb - wel, ar wah芒n i'r adegau hynny pan yw ar fin cyrraedd a phawb yn baglu ar draws ei gilydd i gael pethau'n iawn ar ei chyfer. A phan fo Emily yn mynd drwy'i phethau.
Wedi cychwyn fel darlun deifiol a didrugaredd o fyd ffasiwn mae'r ffilm wedyn fe pe byddai'n newid ei feddwl gyda 'thraethodau' byrion yn cyfiawnhau'r hyn sy'n ddamniol ar yr olwg gyntaf.
Perfformiadau Does dim rhagori ar Streep fel y ddraig oeraidd a thawel ei llais sy'n crino pobl gydag un edrychiad ac yn rhoi terfyn ar bob trafodaeth gyda'r ddeuair, "That's all". Atalnod llawn o rew. Mae ganddi hefyd sawl edrychiad sy'n golygu ond y symudiad lleiaf ar ei hwyneb i gyfleu cyfrolau.
Ac wrth i ochr arall fwy bregus i'w chymeriad ddod i'r amlwg wrth i'r stori ddatblygu mae'n cyfleu hynny hefyd gyda'r un argyhoeddiad.
Mae'r beirniaid yn s么n yn barod am hwn fel perfformiad Oscar.
Yn haeddu gwobr hefyd mae Emily Blunt, prif gynorthwy-ydd Miranda Priestly a phennaeth uniongyrchol Andrea. Perfformiad canmoladwy tu hwnt ac un llawer iawn mwy argyhoeddiadol nag un Anne Hathaway sy'n dioddef o fod yn chwarae cymeriad cymharol arwynebol a rhy ddiniwed i fod yn wir - er mai o'i chwmpas hi y mae'r stori'n troi.
Canmoliaeth hefyd i Stanley Tucci fel y dyn ffasiwn hoyw sy'n cymryd Andrea dan ei adain.
Ambell i farn
Mae edmygedd cyffredinol o Meryl Streep gyda'i henw yn cael ei gyplysu ag un Helen Mirren - fel y Frenhines yn The Queen - yn ymgeiswyr am Oscars."Pan nad yw Meryl Streep mewn golygfa mae'r ffilm yn tueddu i rhyw syrthio ar ei phen 么l," meddai Deborah Ross yn y Spectator gan ychwanegu hefyd fod y dychan ar fyd ffasiwn yn tueddu i ddiffygio wrth i'r ffilm fynd rhagddi. Ac meddai'r Guardian, yn yr un cywair: "Pan nad yw Meryl Streep ar y sgrin mae diddordeb rhywun yn syrthio'n chwap." "Slic ac arwynebol," yw barn y Times a chick-flick meddai'r Telegraph ac mae hynny ynddo'i hun yn awgrym o faintioli cyfraniad Streep; ei bod yn llwyddo i sicrhau fod hon yn parhau yn ffilm sy'n gafael ac yn rhoi mwynhad er gwaethaf ei diffygion. Hwyliog mewn ffordd bigog yw barn Philip French yn yr Observer ond yn gorfod cydnabod hefyd ei bod yn hynod o "predictable! Edrych yn well nag ydi o mewn gwirionedd yw barn Cosmo Landesman yn y Sunday Times.
"Y tu 么l i'r ffenest siop darn o waith ysgafn yw The Devil Wears Prada sy'n eich gwahodd i fyd ffasiwn i lygadrythu ar y gwisgoedd bendigedig a gadael ichi adael yn teimlo'n nawddoglyd iawn.
Darnau gorauParatoi'r swyddfa ar gyfer dyfodiad Miranda. Pob golygfa o Miranda yn rhoi pobl yn eu lle.
Rhai geiriau Mae cymaint o linellau sydd mor wych o fewn eu cyd-destun ond nad ydynt yn edrych fawr ddim ar eu pen eu hunain."Mae fy mywyd personol yn hongian wrth edefyn.
Dyna sy'n digwydd pan ydych chi'n gwneud yn dda yn eich gwaith."
"Pwy ydi'r person bach trist yna - a ydym ni'n gwneud darn cynt ac wedyn?" (Am Andrea)
"Ac mi ddywedais i; mi rown ni gyfle i'r ferch fach annwyl, dew."
"Wow, rwyt ti'n edrych mor denau." (Meddai Andrea wrth Emily.)
Diolch iti. Rwyf ar ddiet newydd wych. Dydw i'n bwyta dim byd o gwbl. Wedyn pan ydw i ar lewygu rydw i'n bwyta tamaid o gaws."
Gwerth ei gweld? Ydi wir. Hyd yn oed i rai nad ydynt yn ymddiddori mewn ffasiwn nac yn darllen Vogue.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|